Patrymau Gwlad/Chwardd

Oddi ar Wicidestun
Yn y Ffynhonnau Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Loes Hen Gymro

CHWARDD!

OD oes it hen ewythr pur gefnog yn bod,
A'i oedran, a'i iechyd lled frau'n dy ddiddori,
I ddatod llinynnau ei galon a'i god
Gofala am chwerthin ar derfyn ei stori;
Gall na bydd y peth yn dy wneud yn rhy chwannog
I chwerthin, ond chwardd, mae'r hen ŵr yn ariannog.

Nodiadau[golygu]