Patrymau Gwlad/Yn y Ffynhonnau
Gwedd
← Y Prif Ddirgelwch | Patrymau Gwlad gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Chwardd → |
YN Y FFYNHONNAU
Y Wraig Dew:
MAE'N gostus, ond mae 'mhwysau i lawr
I'r hanner o fewn mis.
Ei Gŵr Tenau:
Aros fis eto, pleser mawr
Fydd genny' dalu'r pris.