Patrymau Gwlad/Delfryd

Oddi ar Wicidestun
Edifeirwch Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Erys Un Rhosyn

DELFRYD

'Rwy wedi laru
Ar lên y lladd, y llosgi, a'r ysgaru
A welaf yn feunyddiol
Ar wyneb—ddalen y Bloeddiadur Dyddiol;
Gwyddoch, mi wn,
Nad yn Gymraeg mae'r papur hwn.

Paham
Na chaem ryw newydd am—
Nid hil flonhegog Ffair y Gwagedd—
Ond gwyr sy'n byw'n heddychol gyda'u gwragedd?

Syniaf am newyddiadur
Sy 'mhell uwchlaw'r Bloeddiadur,
A'i holl newyddion
Mewn glân Gymraeg, er gwaethaf y snobyddion;
Papur a esyd mewn llythyren fras,
Nid pob helyntion brwnt a chas
Mewn penty ac mewn plas,
Ond pethau pêr eu sawr a phur eu blas;
Papur â'i nod
I ddangos popeth fel y dyl'sai fod
I'm bwrdd bob dydd yn dod.

Ac wele rai nodiadau mân
Yn gweddu'n gymwys i'w golofnau glân:


"Mae gennym newydd da o Dŷ'n-y-Graig:
'Does ŵr ers wythnos wedi curo'i wraig."

"Nid oes un rhith
O wir mewn stori a gaed o Bentre-chwith
Yn dweud bod Twm Siôn Segur wedi 'mgrogi;
Hoedl Twm Siôn sy'n saff,
Gormod yw ei ddiogi
I glymu'r rhaff."

Mae Wil Ben—ysgon wedi mynd ar goll
O Bentre Siswrn, ar ôl codi'r doll;
Tybir mai awel dro
A'i cipiodd o."

"Bu'n hir ar led
Sŵn o Ffair Rhos i Lansanffrêd,
Ac aeth y stori'n rhydd
O gyrrau Dyfi i Gaerdydd,
Toc fe ddeffroes y sôn
Ororau mud Eryri a Môn—
Fod Bugail ieuanc Bryn-yr-ŵyn
A'i lygad ar Fugeiles o Bentwyn.

"Weithion fe syrth y llen
Ar ramant Bugail a'i Fugeiles wen.
Bu'r ffordd i'r allor yn bur faith,
Gweler tudalen 7;
Yno fe geir i gyd
Y rhamant ar ei hyd."


Ein newyddiadur iawn
A rydd golofnau llawn
I briodasau
Bythod a phlasau,
Ac nid rhyw nodi
Yn sych y dydd priodi
A geir, ond hanes crwn y caru.

'Rwy wedi laru
Ar lên y lladd, y llosgi, a'r ysgaru.

Nodiadau[golygu]