Patrymau Gwlad/Erys Un Rhosyn

Oddi ar Wicidestun
Delfryd Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Y Greiglan Draw

ERYS UN RHOSYN

DROS fy hen aelwyd gwynt y môr
A gerdd yn rhydd;
Hwtia tylluan lle bu'r ddôr
Gan watwar tranc y dydd.

Drwy olion bore 'inyd yn awr
Y drain a dardd;
Cripia mieri hyd y llawr
Lle gynt y gwenai gardd.

Cyfyd er hyn un rhosyn gŵyl
I sibrwd am
Haf oriau hir o firi a hwyl,
A heuldes mynwes mam.


Nodiadau[golygu]