Patrymau Gwlad/Dewin y Dydd

Oddi ar Wicidestun
Barn Ymwelydd Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Yr Ymwared

DEWIN Y DYDD

GOFALA am lên
I'w gyd-ddinasyddion,
A thry bethau hen
O hyd yn newyddion.

Ddewinol sgrifennydd,
Y swynwr y sydd
A'i golofnau ysblennydd
Yn dal pynciau'r dydd.

O dir pell ororau
I galon y plwy
Bob dydd dwg drysorau—
Er ceiniog neu ddwy.

Ei hudlath arweiniol
A'n tywys o hyd
Ar lwybyr mwy breiniol.
Drwy dryblith y byd.

Nodiadau[golygu]