Patrymau Gwlad/Yr Ymwared

Oddi ar Wicidestun
Dewin y Dydd Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Wrth y Drws

YR YMWARED

Y GŴR dan driniaeth lem
A wyneb—lasai;
Mor druan oedd ei drem
A phe buasai

Yn cael ei ddal yn dynn
A'i raddol flingo,
A hithau yn ddi—gryn
Yn blasu ei ing o.

Parhâi ei wraig i'w drin
Heb daw, heb derfyn,
Didostur ydoedd min
Ei hanfad erfyn.

Yn ddiymadferth troes
Dwy lath o ddyndod,
Chwe throedfedd lawn o loes,
Naw scôr o gryndod.

Ond ar y dduaf awr
Fe ddaeth ymwared
I dorri megis gwawr—
Llygoden ar y llawr
O dwll y pared!

Nodiadau[golygu]