Patrymau Gwlad/Gwasgar Golud

Oddi ar Wicidestun
Y Swp Grawnwin Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

O'r Ffau

GWASGAR GOLUD

Ei emrailt i'r allt a rydd
A'i gwrel i bell geyrydd;
Diemwnt i'r ffrydiau mân,
Mererid i'r môr arian.
Ymlonna Haul melynwawr
I fwrw ei lif aur i lawr
Ar blas caerog enwog ŵr,
Ac ar annedd gwerinwr.

Nodiadau[golygu]