Patrymau Gwlad/O'r Ffau
Gwedd
← Gwasgar Golud | Patrymau Gwlad gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Y Bardd → |
O'R FFAU.
Dy ŵyrgam Iwybrau oll
O Ddyn, ag árlliw gwaed
A ddengys ôl dy draed
Yn dod o'r ffau drwy niwl y cynfyd coll.
Er dringo llethrau'r byd
Yn uwch, o ris i ris,
O'r greadigaeth is,
Mae'r llys a'r llaid ar d'enaid di o hyd.
Di nerthol, freiniol Ddyn,
Wyt arglwydd ar bob rhyw
O greaduriaid byw,
Ond ar y bwystfil ynot ti dy hun.
Eto, uwch mwg y gad,
Canfyddi draw ymhell
Binaglau bywyd gwell
Yng ngwawl gogoniant Gorsedd Wen dy Dad.