Patrymau Gwlad/Swn Wyth, Talu Naw

Oddi ar Wicidestun
Y Gwr Diog Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Tri Beddargraff

SŴN WYTH, TALU NAW

WYTH geiniog y dydd oedd am ddyrnu
Cyn gwasgu o'r dyrnwyr am fwy,
A Siôn, wedi tipyn o chwyrnu,
A roes naw, gyda holl feistri'r plwy,
Gan ddisgwyl i diwn rownd y ffustiau
Gyflymu, a chwyddo heb hoe,
Ond och, 'nôl tystiolaeth ei glustiau,
'Doedd ragor rhwng heddiw a ddoe;
A sylw Siôn Pwt oedd, wrth wrando gerllaw:
Sŵn wyth, talu naw.
Pe buasai Siôn Pwt heddiw'n byw yn y byd,
Câi reswm dros wneud yr un sylw o hyd.

Nodiadau[golygu]