Patrymau Gwlad/Tri Beddargraff

Oddi ar Wicidestun
Swn Wyth, Talu Naw Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Y Cyntaf i Syrthio

TRI BEDDARGRAFF

I


Isod mae'r Peintiwr Tai a'r bloeddiwr croch
A fynnai beintio'r byd i gyd yn goch;
O'i uchder syfrdan syrthiodd, gnaf anhydyn,
Pan roes yr ysgol ffordd o dano'n sydyn.

II


Benito fostfawr, a fu'n brentis iddo,
Sydd yma wrth ei ystlys wedi ei briddo;
Daeth terfyn ar ei ffrost, a'i gwrs addysgol,
Ac yntau'n ceisio dal i fyny'r ysgol.

III


Wrth draed y ddau y gorffwys y Ci Bach
Melyn, danheddog, o Ddwyreiniol ach.

Nodiadau[golygu]