Neidio i'r cynnwys

Patrymau Gwlad/Tremio i Maes

Oddi ar Wicidestun
O'r Ffau Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Harddach yw'r Cyfan Erddynt

TREMIO I MAES

WRTH y tân un tro eisteddwn
Yn ofidus ac yn drist,
O'r adnoddau aml a feddwn
'Doedd yn bod na chod na chist,
Na'r un ganig a gordeddwn
A roi falm i'm calon drist.

Troi a throsi llên y llonwyr
I geisio codi 'nghalon brudd,
Ymbil ar yr hen athronwyr
Am ryw hwb o nos i ddydd,
'Doedd y rhain i gyd ond honwyr,
Crach ddoctoriaid calon brudd.

Tremio i maes, a thrwy'r ystrydoedd
Rhuai'r oerwynt, curai'r glaw,
Ond canfûm beth mwy na bydoedd
Gau gysurwyr ol fan draw,
Hogyn bratiog, troednoeth ydoedd
Yn chwibanu yn y glaw.


Nodiadau[golygu]