Pechadur aflan yw fy enw
Gwedd
← Dyma Frawd a anwyd inni | Pechadur aflan yw fy enw gan Ann Griffiths |
Rhyfedd, rhyfedd gan angylion → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
209[1] Digon yn yr Iesu.
87. 87. D.
1.PECHADUR aflan yw fy enw,
O ba rai y penna'n fyw ;
Rhyfeddaf byth, fe drefnwyd pabell
Im gael yn dawel gwrdd â Duw :
Yno mae, yn llond ei gyfraith,
I'r troseddwr yn rhoi gwledd ;
Duw a dyn yn gweiddi, Digon,
Yn yr Iesu, 'r aberth hedd.
1.Anturiaf ato yn hyderus,
Teyrnwialen aur sydd yn ei law;
Estyniad hon sydd at bechadur,
Ni wrthodir neb a ddaw;
Af ymlaen dan weiddi, Pechais;
Af, a chŵympaf wrth ei draed,
Am faddeuant, am fy ngolchi,
Am fy nghannu yn y gwaed.
Ann Griffiths
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 209, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930