Pen y Mynydd Du (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)
Mae Pen y Mynydd Du yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi
- Ple mae mam–gu?
- "Ar ben y Mynydd Du."
- Pwy sydd gyda hi?
- "Oen gwyn a myharen ddu.
- Fe aeth i lan dros yr Heol Gan,
- Fe ddaw i lawr dros yr Heol Fawr."