Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron/Cariad

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron

gan Anhysbys

Doethineb Profiad

Cariad

YFAIS atat, glas dy lygad,
A Trwy bur serch a ffyddlon gariad;
Yfa dithau, ddwyael feinion,
At y mwya' a gâr dy galon.

Do, bûm ganwaith yn dy garu,
Feinir wcn, a thithau'n gwadu;
Ond yn awr, mae rhaid cyfadde,
Beth a wnaet pe gwadwn inne?

Afon Conwy'n llifo'n felyn,
Mynd â choed y maes i'w chanlyn,
Ar ei gwaelod mi rof drithro
Cyn y rhof fy nghariad heibio.

Mi ddymunais fìl o weithiau
Fod fy mron o wydyr golau,
Fel y gallai'r fun gael gweled
Fod y galon mewn caethiwed.

Acw draw mae fy nau lygad,
Acw draw mae f' annwyl gariad,
Acw draw dymunwn inna
Gysgu'r nos a chodi'r bora.

O f'anwylyd, dywed imi,
P'le mae gwreiddyn ffynnon ffansi—
Ai yn dy gorff ai yn dy galon,
Ai yn dy lân wynepryd tirion?


Blodau'r flwyddyn yw f'anwylyd,
Ebrill, Mai, Mehefin hefyd,
Llewyrch haul yn t'wynnu ar gysgod,
A gwenithen y genethod.

Dacw f'annwyl siriol seren,
Hon yw blodau plwyf Llangeinwen;
Dan ei throed ni phlyg y blewyn
Mwy na'r graig dan droed aderyn.

Duw dy bropred, Duw dy laned,
O na chai fy mam dy weled;
O na ddout ti hefo mi adre,
Ti gaut groeso os cawn inne.

Gwae fi erioed fy ngeni,
A 'nhad a'm mam fy magu,
Na fuaswn farw ar laeth y fron
Cyn dod i oedran caru.

Caled ydyw peidio caru,
Caled hefyd gwneuthur hynny,
Ond caletaf o'r caledion
Galw serch yn ôl i'r galon.

Os collais i fy nghariad gorau,
Colli wnelo'r coed eu blodau,
Colli'u cân a wnelo'r adar,
Duw a gatwo ffrwyth y ddaear.


Hardd yw gwên yr haul yn codi
Gyda'i lonaid o oleuni,
Hardd y nos yw gwenau'r lleuad,
Harddach ydyw grudd fy nghariad.

Tlws yw'r lleuad yn y tonnau,
Tlws yw'r sêr ar noson olau,
Ond nid yw y sêr na'r lleuad
Hanner tlysed ag yw 'nghariad.

'Rwyf yn hoffi sŵn y delyn
Gyda'i their-res dannau melyn,
Ac mae'r mêdd yn ddigon melys
Nes caf brofi mêl ei gwefus.

Sôn am godi pont o sglodion
O Sir Fôn i Sir Gaernarfon—
Gwallt fy mhen ro'n ganllaw iddi,
Er mwyn y ferch sy'n tramwy trosti.

Dy liw, dy lun, dy law, dy lygad,
Dy wedd deg a'th ysgafn droediad,
Dy lais mwyn a'th barabl tawel
A'm peryglodd am fy hoedel.

Mae 'nghariad i eleni
Yn byw yn South Corneli,
Yn fain ei gwest, yn nêt ei phleth
Yn wynnach peth na'r lili.


Dacw 'nghariad ar y bryn,
Rhosyn coch a rhosyn gwyn,
Rhosyn coch sy'n bwrw ei flodau,
Rhosyn gwyn yw 'nghariad innau.

Saif y lloer a'i chlustiau i fyny
Yn ddistaw, pan fydd Gwen yn canu;
Wel, pa ryfedd fod ei chariad
Yn gwirioni yn sŵn ei chaniad?

Gwyn fy myd na bawn yn walch
Neu ryw aderyn bychan balch,
Mi wnawn fy nyth yng nghwr y gwely
Lle mae Nansi Llwyd yn cysgu.

Tri pheth sy'n anodd imi—
Cyfri'r sêr pan fo hi'n rhewi,
Rhoi fy llaw ar gwr y lleuad,
Gwybod meddwl f'annwyl gariad.

Ni bu ferch erioed gyn laned,
Ni bu ferch erioed gyn wynned,
Ni bu neb o ferched dynion
Nes na hon i dorri 'nghalon.

Os collais i fy nghariad lân,
Mae brân i frân yn rhywle,
Wrth ei bodd y bo hi byw,
Ag 'wyllys Duw i minne.


Tros y môr mae'r adar duon,
Tros y môr mae'r dynion mwynion,
Tros y môr mae pob rhinweddau,
Tros y môr mae 'nghariad innau.

Tros y môr y mae fy nghalon,
Tros y môr y mae f'ochneidion,
Tros y môr y mae f'anwylyd,
Sy yn fy meddwl i bob munud.

Anodd plethu dŵr yr afon
Mewn llwyn teg o fedw gleision,
Dau anhawddach peth na hynny
Yw rhwystro dau fo'n ffyddlon garu.

Paham mae'n rhaid i chwi mo'r digio
Am fod arall yn fy leicio?
Er bod gwynt yn ysgwyd brigyn,
Rhaid cael caib i godi'r gwreiddyn.

Fe geir cyfoeth ond cynilo,
Fe geir tir ond talu amdano,
Fe geir glendid ond ymofyn,
Ni cheir mwynder ond gan Rywun.

Tra bo Môn a môr o'i deutu,
Tra bo dŵr yn afon Conwy,
Tra bo marl dan Graig y Dibyn,
Cadwaf galon bur i Rywun.


Lle bo'r cariad wiw mo'r ceisio
Cloi mo'r drws, a'i ddyfal folltio;
Lle bo'r 'wyllys fe dyr allan
Drwy'r clo dur a'r dderwen lydan.

Mynych iawn y bydd fy nghariad
Bryd a llais wrth drefn y lleuad,
A phan fyddo'r lloer yn llawngron,
Dyna'r pryd y bydd hi'n fodlon.

Union natur fy mun odiaeth
Yw nacáu a 'mroi ar unwaith—
Gweiddi Heddwch, diodde'i theimlo,
Dwedyd Paid, a gadel iddo.

Peth ffein yw llaeth a syfi,
Peth ffein yw siwgwr candi,
Peth ffein yw myned wedi nos
I stafell dlos i garu.

Sôn y maent ar hyd y dyffryn
Mai fi yw Neb a chwi yw Rhywun,
Os caiff Neb chwi, Gwen lliw'r blodau,
Bydd gwir i Rywun fy nghael innau.

Câr y cybydd gwd ac arian,
A phwy sydd nas câr ei hunan?
Myfi sy'n caru merch yn anghall
Ac yn bychanu popeth arall.


Do, mi welais heddiw'r bore
Ferch a gawn pan fynnwn inne,
Ac a welais, do, brynhawn,
Ferch a garwn ac nis cawn.

Mi gariaf rhwng fy mreichie
Gaerdydd ac Abertawe,
A Chasnewydd ar fy mhen,
O serch at Gwen lliw'r blode.

Rhyd y bompren grwca,
Pwy welais i 'n mynd drwa,
Dy gariad di, lliw blodau'r drain,
Fel cambric main o'r India.

Gyda'r nos daw'r tŷ yn dywyll,
Gyda'r nos daw golau'r gannwyll,
Gyda'r nos daw diwedd chware,
Gyda'r nos daw tada adre.

Merch o lun 'r wyf yn ei charu,
Merch o lun 'r wyf yn ei hoffi,
Nid o Lŷn gerllaw Pwllheli,
Ond o'r lliw a'r llun sydd arni.


* * *

Mae 'nghariad i'n Fenws, mae 'nghariad i'n fain,
Mae 'nghariad i'n dlysach na blodau y drain,
Fy nghariad yw'r lana a'r wynna'n y sir,
Nid wyf yn ei chanmol ond dwedyd y gwir.


Mynnwn gasglu'r niwl a'i hel,
A'i rwymo mewn sachlenni,
Ar hyd y gweunydd fore a hwyr
Cyn bario'n llwyr dy gwmni,
Mynnaf hynny, doed a ddêl,
Cyn cana'i ffarwel iti.


Mae'n dda 'mod i 'n galed fy nghalon,
Liw blodau drain gwynion yr allt;
Mae'n dda 'mod i 'n ysgawn fy meddwl,
Liw'r banadl melyn ei gwallt;
Mae'n dda 'mod i'n ieuanc, 'rwy'n gwybod
Heb arfer fawr drafod y byd;
Pam peidiaist ti, ferch, â 'mhriodi,
A minnau'n dy ganlyn di cyd?