Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron/Doethineb Profiad

Oddi ar Wicidestun
Cariad Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron

gan Anhysbys

Rhyddid a Hoen

Doethineb Profiad

BÛM edifar, fil o weithiau,
Am lefaru gormod geiriau;
Ond ni bu gymaint o helyntion
O lefaru llai na digon.

Clywais siarad, clywais ddwndro,
Clywais bart o'r byd yn beio,
'Chlywais i eto neb yn datgan
Fawr o'i hynod feiau 'i hunan.

Ac yr awron 'rydwy'n dechrau
Dallt y byd a chyfri nghardiau,
Ac adnabod fy nghymdogion:
Duw, pa hyd y bûm i 'n wirion.

Lle bo cariad fe ganmolir
Mwy, ond odid, nag a ddylir,
A chenfigen a wêl feiau
Lle ni bydd dim achos, weithiau.

Tebyg ydyw morwyn serchog
I fachgen drwg yn nhŷ cymydog.
"A fynni fwyd?" "Na fynnaf mono "
Ac er hynny yn marw amdano.

Tebyg yw y delyn dyner
I ferch wen a'i chnawd melysber,
Wrth ei theimlo mewn cyfrinach
Fe ddaw honno'n fwynach, fwynach.


Merch i bwy wyt ti, lliw'r manod?
Merch fy nhad a'm mam o briod.
O ba wlad y deuthost allan?
O wlad fy nhad a'm mam fy hunan.

Pan fo seren yn rhagori,
Fe fydd pawb a'i olwg arni;
Pan ddaw unwaith gwmwl drosti,
Ni bydd mwy o sôn amdani.

Perchen tafod a arfero
Ddweud am bawb y peth a fynno,
Bydd rhaid iddo wrando'n fynych
Lawer peth na bo'n ei chwennych.

Hir yw'r ffordd a maith yw'r mynydd
O Gwm Mawddwy i Drawsfynydd;
Ond lle bo 'wyllys mab i fyned,
Fe wêl y rhiw yn oriwaered.

Hawdd yw d'wedyd, "Dacw'r Wyddfa,"
Nid eir drosti ond yn ara';
Hawdd i'r iach, a fo'n ddiddolur,
Beri i'r claf gymeryd cysur.

Bûm yn byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi'n ddwyfil;
Bûm yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad.


Gochel fostio'n fynych, fynych,
Y gweithredoedd gorau feddych,
Rhag cael dannod it yn rhydost
Y gweithredoedd gwaetha wnaethost.

'D af i garu fyth ond hynny
At y merched trwm eu cysgu,
Af at lodes groenwen gryno
Lawr y dyffryn, hawdd ei deffro.

Rhaid i bawb newidio byd,
Fe ŵyr pob ehud anghall,
Pa waeth marw o gariad pur,
Na marw o ddolur arall?

Mi fûm gynt yn caru glanddyn,
Ac yn gwrthod pob dyn gwrthun,
Ond gweld yr ydwyf ar bob adeg
Mai sadia'r mur po garwa'r garreg.

Amser sydd i dewi ar bopeth,
Amser sydd i ddwedyd rhywbeth,
Ond ni ellir cael un amser
I ddweud popeth yn ddibryder.

Os gweli ddyn yn lled orffwyllo
Na chais byth ag ef ymherio,
Fe daw â sôn ond dweud ei gyfran—
'Ymdaerodd neb erioed ei hunan.


Geiriau mwyn gan fab a gefais,
Geiriau mwyn gan fab a glywais,
Geiriau mwyn sy dda dros amser,
Ond y fath a siomodd lawer.

Mwyn a mwyn a mwyn yw merch,
A mwyn iawn lle rhoddo 'i serch,
Lle rho merch ei serch yn gynta,
Dyna gariad byth nid oera.

Da am dda sy dra rhesymol,
Drwg am ddrwg sydd anghristnogol,
Drwg am dda sydd yn gythreulig,
Da am ddrwg sy fendigedig.