Prif Feirdd Eifionydd/Crist ger bron Pilat

Oddi ar Wicidestun
Coffadwriaeth am y diweddar fardd godidog Dewi Wyn o Eifion Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Pilat yn y farn

Englynion.

Crist ger bron Pilat.

DROS fai, nas haeddai, mae'n syn,—ei weled
Yn nwylaw Rhufeinddyn;
A'i brofi gan wael bryfyn,
A barnu Duw ger bron dyn.


Nodiadau[golygu]