Prif Feirdd Eifionydd/Coffadwriaeth am y diweddar fardd godidog Dewi Wyn o Eifion

Oddi ar Wicidestun
Gwir ac anwir Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Crist ger bron Pilat

Coffadwriaeth

Am y diweddar Fardd Godidog Dewi Wyn o Eifion.

GWAE oror wag Eryri,—gwae gannoedd,
Gwg Ionawr ddaeth inni:
Och! Wynedd, yn iach enwi
Iaith na dawn i'th enaid di

Gyrrwyd i ni flaguryn—o ardd Duw,
Iraidd deg blanhigyn,
A'r nodd a rodd o'i wreiddyn
Yw da waith ein Dewi Wyn.

Tyr Eifion ei bron am ein brawd,—a'i gwaedd
Mal gweddw am briawd;
Gwae randir hon gan gryndawd,
Mawr dy loes, hen Gymru dlawd.

Mae'r enaid yn merwino—am Ddafydd,
Ymddifad wyf hebddo;
A'r galon bur yn curo,
A hir ddeil o'i herwydd o.

Gwae fi, rhaid boddi dan bwys—poen gyfyng.
Pan gofiwyf ei orffwys;
A deoliad y wiwlwys
Awen o'r Gaerwen i'r gwys.

Gwyddom am ei gywyddau,—a gwiwdeb
Ei gedyrn linellau;
Pob cydsain gywrain yn gwau
Anadlant yn ei awdlau.

Dawn Eden a'i dynododd—uwch eraill.
A chywrain ymadrodd:
Dilafur y dylifodd
Yr iaith o'i ben wrth ei bodd.


Hwn fydd mawr bob awr tra bo—urdduniant
I farddoniaeth Cymro:
Er bedd erchyll, dywyll do,
Ei enw ni chuddir yno.

Nodiadau[golygu]