Prif Feirdd Eifionydd/Gwir ac anwir

Oddi ar Wicidestun
Myfyrdod y Bardd wrth afon Dwyfach Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Coffadwriaeth am y diweddar fardd godidog Dewi Wyn o Eifion

Gwir ac Anwir.

TYNNU mae'r byd at anwir,
Enllibio a gwawdio
Gwir; Troi wyneb at yr anwir,
Bradychu a gwerthu Gwir.
Enynnu mae gwên anwir,
Ond prudd gan gystudd yw Gwir;
Anwiredd aeth yn eirwir,
Traws a gau y troes y Gwir.

Yr enaid ni choronir—
Er mor wael heb gael y Gwir.

Er enwog fawrhau anwir,
Cryfach, rhagorach y Gwir;

'R ennyd b'o cwymp yr anwir,
Dyna bryd gwynfyd y Gwir;
I ddinystr ydd â anwir,—
Rhag purdeb gwyneb y Gwir;
Y Duw uniawn di anwir,
Rho'ed i'm bron galon y Gwir;
Ac yna bid gwae anwir
A gwarth am gyfarth y Gwir.


Nodiadau[golygu]