Neidio i'r cynnwys

Prif Feirdd Eifionydd/Cywydd Elen

Oddi ar Wicidestun
Cywydd y Farf Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Englynion i Bont Menai

Cywydd Elen.

Aм un Elen mae 'nolur,
Am hon i'm calon mae cur;
Elen wen, o lân wyneb,
Yw f'eilun i o flaen neb.
Dra bum ddigloff i'w hoffi,
Elen aeth a 'nghalon i;
Uwch merched llon beilchion byd
Un Elen yw f'anwylyd:
Ac er neb caru a wnaf
Ydd Elen rinweddolaf.
Cyflawn hardd caf f' Elen hon,
F' angyles a fy nghalon.
Elen, fy munud olaf,
O chaf nerth, ei chofio wnaf.

Yn ol enwi hon un waith,
Enwi Elen wèn eilwaith,
Trymhau fy natur a 'mhen
Mae'r olwg im' ar Elen
Trwm am Elen, feinwen fâd,
Yw clwyf gwr claf o gariad;
O! na bid i ddwyn i ben
Marwolaeth im' er Elen.

Os yr Elen siriolaf
A ga'i 'n fy nydd gan fy Naf,
Bydd wrth fy modd rodd fy Rhên,
Moliant a ro'f am Elen:
A Duw a wnel mai Elen
Ddiwair fo fy Mair, Amen.


Nodiadau

[golygu]