Prif Feirdd Eifionydd/Hen Wlad fy Nhadau
Gwedd
← Geirfa | Prif Feirdd Eifionydd gan Edward David Rowlands |
→ |
Hen Wlad fy Nhadau.
MAE hen wlad fy nhadau yn anwyl i mi,—
Gwlad beirdd a chantorion enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,
Dros ryddid gollasant eu gwaed.
Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau.
O bydded i'r heniaith barhau.
Hen Gymry fynyddig, Paradwys y Bardd,
Pob clogwyn, pob dyffryn i'm golwg sydd hardd,
Trwy deimlad gwladgarol mor swynol yw si
Dy nentydd, afonydd i mi.
Gwlad, &c.
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed,—
Ni luddiwyd yr Awen gan erchyll law brâd,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Gwlad, &c.
—T. JAMES.[1]
Cyhoeddedig gan
Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.),
Swyddfa "Cymru,"
Caernarfon.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Diawl y wasg. J(ames) James ac E(van) James