Prif Feirdd Eifionydd/Mae gennyf ddigon yn y nef
Gwedd
← O am râs i garu Iesu | Prif Feirdd Eifionydd gan Edward David Rowlands |
Dysg im', Arglwydd, ffordd Dy ddeddfau → |
Duw, a Digon.
MAE gennyf ddigon yn y nef,
Ar gyfer f'eisieu i gyd;
Oddi yno mae y tlawd a'r gwael
Yn cael yn hael o hyd.
O law fy Nuw fe ddaw'n ddifêth
Fy mywyd a fy nerth;
Fy iechyd, synnwyr, a phob peth—
Fy moddion oll, a'u gwerth.
O law fy Nuw y daw, mi wn,
Bob cymorth heb nacau—
Holl drugareddau'r bywyd hwn
A'r gallu i'w mwynhau.
Gan hynny, digon, digon Duw!
Aed da a dyn lle'r êl;
Mi rof f'ymddiried yn fy Nuw
A deued fel y dêl.
Ym mhob cyfyngder, digon Duw!
Fy eisieu, Ef a'i gwêl:
Efe i farw, ac i fyw,
A fynnaf, doed a ddel.
—EBEN FARDD.