Prif Feirdd Eifionydd/Dysg im', Arglwydd, ffordd Dy ddeddfau
Gwedd
← Mae gennyf ddigon yn y nef | Prif Feirdd Eifionydd gan Edward David Rowlands |
Hoffi'r Wyf Dy lân breswylfa → |
"Dysg i mi Dy ddeddfau."
DYSG im', Arglwydd, ffordd Dy ddeddfau,
Ynddi rhodiaf hyd yn angeu;
Gair D'orchymyn, pan ei dysgaf
A'm holl galon byth fe'i cadwaf.
Gwna imi rodio ffordd D' orchmynion,
Maent i mi'n hyfrydwch calon;
Gostwng f'enaid at Dy gyfraith,
Ac nid at gybydd—dra diffaith.
Oddi wrth wagedd tro fy llygaid;
Yn Dy ffyrdd bywhâ fy enaid;
O sicrhâ D' addewid imi,
I'th lân ofn yr wy'n ymroddi.
—NICANDER.