Prif Feirdd Eifionydd/Hoffi'r Wyf Dy lân breswylfa
Gwedd
← Dysg im', Arglwydd, ffordd Dy ddeddfau | Prif Feirdd Eifionydd gan Edward David Rowlands |
Y Cynganeddion → |
Hoffder y Cristion.
HOFFI'R Wyf Dy lân breswylfa,
Arglwydd, lle'r addewaist fod;
Nid oes drigfan debyg iddi
Mewn un man o dan y rhod.
Teml yr Arglwydd sy dŷ gweddi,
Lle i alw arnat Ti;
Derbyn Dithau ein herfyniau,
Pan weddïom yn Dy dŷ.
Hoffi'r wyf wir Air y Bywyd,
Tystio mae am wlad yr hedd,
Lle mae gwynfyd yn ddiderfyn
I'w fwynhau tu draw i'r bedd.
Hoffi'r wyf ddadseinio'th foliant.
Yn Dy dŷ ag uchel lef—
Arglwydd grasol, gwna ni'n addas
I'th glodfori yn y nef.
—NICANDER.