Profiadau Pellach (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Profiadau Pellach (testun cyfansawdd)

gan George Maitland Lloyd Davies

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Profiadau Pellach
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
George Maitland Lloyd Davies
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




PROFIADAU PELLACH

GAN

GEORGE M. LL. DAVIES




LLYFRAU PAWB

DINBYCH



Argraffiad Cyntaf—Tachwedd 1943



Argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych

THE MALTHOUSE WICK

Dwy aden colomen pe cawn
Mi hedwn, mi grwydrwn ymhell;
I gopa Bryn Nebo mi awn
I olwg ardaloedd sydd well;
A'm golwg tu arall i'r dŵr,
Mi dreuliwn fy nyddiau i ben,
Dan ganu wrth gofio y Gŵr
Fu farw dan hoelion ar bren.

—THOMAS WILLIAMS Bethesda'r Fro.

Pan fyddo awyr glir
Rwy'n gweld trwy ddrych di-freg
Rhai mannau o Salem dir
A'm hetifeddiaeth deg,
A'r olwg hon trwy gwrs fy mhaith
Ddwg f'enaid llaith i fynd yn llon.

—DAFYDD JONES o Gaio.


CENADAETHAU PERSONOL A CHREFYDDOL

Iwerddon. Y Cyfeillion. Cenhadaeth Gartref. Cymod mewn Diwydiant. Diwydiant Adeiladu. O Dan y Ddeddf. Cenhadaeth yng Nghernyw. Y Cyfandir. Yr Almaen. Ein Cyfrifoldeb am Ewrop. Apel Cymdeithas y Cyfeillion. Cynhadledd Heddwch. Y Senedd. Addysg. Addysg Grefyddol. Addysg a Bywyd. Yr Hen Archesgob. Gwersyll y Bechgyn. Rhyfel yng Nghymru. Ymbleidiaeth Torf. Cynhadledd Oberammergau. Yr Eglwys. Tom Nefyn. Coleg Woodbrooke. Y Weinidogaeth.

IWERDDON

PRIN yr arwyddwyd Cytundeb Fersai cyn codi o chwyldroad a rhyfel yn Iwerddon. Wedi i'r Llywodraeth lethu ysgarmes ramantus gwrthryfel plaid fechan y Sinn Fein yn Nulyn yn 1916, lledaenwyd gorfodaeth grym drwy Iwerddon; carcharwyd miloedd o wŷr dieuog, hyd oni thyfodd anarchiaeth a gwrthryfel trwy'r wlad. Cofiaf imi weled yng Ngharchar Birmingham ugeiniau o garcharorion Gwyddelig, ac yn eu plith yr hen wron tawel, Count Plunkett. Ffurfiwyd byddin arbennig y Black and Tans at y gorchwyl o lethu'r gwrthryfel; llosgwyd pentrefi, a ffatrïoedd ymenyn yr amaethwyr, a dialwyd mwrdwr gan fwrdwr; dihangodd gwragedd a phlant y pentrefwyr yn fynych i gysgu i'r mynyddoedd rhag ofn y dialydd gwaed. Wedi'r Etholiad Cyffredinol yn 1918, sefydlodd y Sinn Fein Lywodraeth a byddin annibynnol yn ôl esiampl Protestaniaid Ulster. Yr oedd gweithredoedd y Black and Tans, dan Brif Weinidog a Chadfridog Cymreig (y Cadfridog Tudor) fel eiddo gwylliaid y Cyfandir, a throwyd y Cadfridog Crozier yn Heddychwr selog gan yr hyn a welodd yn Iwerddon. Nid oedd hyn oll yn adlewyrchu'n ffafriol ar ein proffes yn y rhyfel i ymladd am ryddid i'r cenhedloedd bychain, a daliodd yr Eglwys yr un mor ddi-weledigaeth yn y rhyfel cartref ag ydoedd yn y Rhyfel Mawr. Yn 1920 cyfarfum yn ddirgelaidd yn Iwerddon â ffoadur Gwyddelig, Desmond Fitzgerald, a fu wedyn yn Weinidog Tramor i Lywodraeth y Sinn Fein. Cefais wybod trwyddo delerau heddwch ei blaid, sef yr hyn a elwid yn Dominion Home Rule; ond, wedi cloffi rhwng dau feddwl, cwympodd y Prif Weinidog i du grym a goruchafiaeth drachefn. Credais y buasai cenadwri a chefnogaeth yr eglwysi yn atgyfnerthiad i'w ffydd, yn enwedig "awel o Galfaria fryn" o'i wlad ei hun. Euthum gyntaf i Gymanfa Gyffredinol Presbyteriaid Sgotland. Yn Edinburgh cynhaliwyd cyfarfod mawr a anerchwyd gan H. W. Nevinson a'r Arglwyddes Aberdeen, a fu yn Nulyn gynt gyda'i gŵr, a oedd yn Arglwydd Raglaw y Brenin. Dywedodd yr hen arglwyddes fod milwyr ac arfau yn tyrru i Iwerddon, ac mor fawr oedd ei phryder rhag i anfadwaith gael ei gyflawni; daeth hithau'n unswydd o Iwerddon i geisio deffro'r wlad i erchyllterau y rhyfel yno. Cyfaill pennaf yr Efengylydd a'r gwyddonydd yr Athro Henry Drummond ydoedd yr arglwyddes, ac yr oedd yn dirion a thrugarog ac yn llawn serch at Iwerddon. Cynigiwyd a phasiwyd yn y cyfarfod cyhoeddus yn Edinburgh apêl at y Gymanfa Gyffredinol, a oedd yn eistedd ar y pryd, yn erfyn arnynt ddefnyddio eu dylanwad i atal y difrod a'r dialedd yn Iwerddon. Cefais ymgom hir â'r arglwyddes a'i gŵr am Iwerddon; prin y gallai gredu y byddai i'r Prif Weinidog fentro ffordd arall, ac yr oedd ei phryder a'i gofid yn fawr. Cyfarfûm â hi nifer o weithiau yn y misoedd canlynol a chefais lythyrau oddi wrthi am flynyddoedd. Erys ei choffadwriaeth yn wynfydedig fel Cristion tyner ac fel hen fam yn Israel. Bu am flynyddoedd wedyn yn llywydd ar Gyngor Cyd-genedlaethol y Gwragedd, ac yn fawr ei pharch ar y Cyfandir fel yn ei gwlad ei hun. Euthum o Edinburgh i Borthmadog am fod Lloyd George yn ŵr gwadd i'r Sasiwn yno. Bwriadwn apelio ato'n gyhoeddus yn ei wlad ei hun a cherbron crefyddwyr Cymreig am anturio'r "ffordd arall" yn Iwerddon. Ond wrth eistedd yn y galeri a gwrando arno'n astud, er fy mawr syndod, cefais fy hun yn cydweled yn hollol â'r hyn a ddywedai, sef nad dyletswydd yr eglwysi oedd gwneuthur protest yn unig, na chymryd plaid, ond yn hytrach galw'r ddwyblaid ddig i dir uwch yr Efengyl. Gadewais i'r Prif Weinidog wybod hanes ymddiddan cyfrinachol a fu yr wythnos honno rhwng cyfaill o Grynwr a Heddychwr, a de Valera, a oedd yn ffoadur ar y pryd rhag y milwyr Seisnig.

Dyma rai o eiriau'r Cymro enwog i'r Sasiwn a haedda ystyriaeth am fod cynrychiolydd Cesar teyrnas y byd hwn yn apelio at gynrychiolwyr Crist:

"Na foed i ni syrthio i bechod parod y dallbleidiwr gan gymryd arnom fod pob brwydr boliticaidd yn frwydr rhwng dynion da a dynion drwg. Yr un yw swydd uchel yr Eglwys mewn perthynas â gwleidyddiaeth ag ydyw mewn perthynas â busnes neu a rhyw wedd arall ar egnïon cymdeithas sef dysgu, cyfeirio a glanhau'r gydwybod ddynol. . . Geill pleidiau a phartïon gael eu ffurfio yn y Cynghrair; a rhyw ddydd a ddaw, pan fo'r mwyafrif ar un ochr a'r gallu mwyaf ar yr ochr arall, dichon y ceir gweled na wnaeth dadleuon Cynghrair y Cenhedloedd amgen na pharatoi'r ffordd i'r gwrthdrawiad mwyaf a welodd y byd erioed. Rhaid creu barn gyhoeddus iach drwy'r holl fyd dros heddwch ac yn erbyn creulondeb rhyfel. Trist yw meddwl ynglŷn â'r Rhyfel Mawr diweddar fod y cenhedloedd a ymladdai yn erbyn ei gilydd yn genhedloedd Cristionogol mewn enw, ac na ddarfu i ddylanwad Roll eglwysi cred ynghyd oedi y rhyfel am gymaint ag un awr ac na chanwyd clychau heddwch un awr ynghynt drwy unrhyw ddylanwad a ddaeth o'r eglwysi. ... Rhaid cael rhywbeth a ddylanwada ar galon y bobl. Rhaid deffro cydwybod y bobl fel y casânt y syniad o dywallt gwaed ac y cyfrifont ryfel yn bechod yn erbyn dynoliaeth. Gwaith yr eglwysi a'r cynhadleddau yw creu awyrgylch iach o blaid heddwch ac yn erbyn rhyfel, gan adael i wladweinwyr profedig benderfynu ar y moddion gorau a'r mwyaf effeithiol i sicrhau heddwch a brawdgarwch ymhlith y cenhedloedd. . . Gall, a dylai, yr Eglwys ddysgu ac ail-ddysgu, cymell ac ail-gymell dyletswydd y ddwy blaid i feithrin mwy o ysbryd cariad ac ewyllys da a mwy o barodrwydd i geisio sylweddoli safbwynt y gwrthwynebydd, i ymarfer dioddefgarwch, ac i wneuthur i eraill fel y dymunent i eraill wneuthur iddynt hwythau."

(15 Mehefin, 1922).

Ceisiais wedyn, yn Sasiwn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ganiatad i erfyn arnynt godi eu llais dros gymod, yn ôl awgrym y Prif Weinidog; ond gan nad oedd hyn ar yr agenda, yr oedd rhaid i mi ymfodloni ar ddweud gair yn y fynwent wrthynt pan yn gwasgaru. Euthum ar fy union oddi yno i Lundain i gyfarfod yr Arglwyddes Aberdeen ac eraill, a oedd yn dal yn daer i geisio deffro cydwybod y wlad i'r galanastra yn Iwerddon. O'r cyfarfod anfonwyd dau ohonom i Downing Street gyda'r apêl am i arweinwyr y ddwy blaid gyfarfod ac ymresymu ynghyd. Yr wythnos honno, er ein mawr syndod, anfonwyd gwahoddiad i drafod heddwch gan Lloyd George at de Valera. Trist ydoedd meddwl am ddiffyg tystiolaeth a mentar yr eglwysi Cymreig dros weinidogaeth y Cymod gan mai Cymro oedd y Prif Weinidog. Wedi ymweled â Dulyn, a chael ymgom â de Valera ac arweinwyr eraill, dychwelais gyda'r hanes i Lundain. Yno disgrifiais y sefyllfa i'r hen Archesgob, y Dr. Davidson, a gwrandawodd yn astud. Credai fod ymddygiad y Pab yn wan iawn, na buasai wedi condemnio'r holl lofruddio yn Iwerddon; eglurais wrtho fod y Pab wedi dweud, "Gwaed eich brodyr yr ydych yn ei dywallt," a bod Esgob ac eglwysi Catholig Tuam yn dal mewn gweddi ac erfyniad dwfn am heddwch, Gofynnais iddo yntau erfyn am weddïau a chefnogaeth yr eglwysi i anturiaeth heddwch y Prif Weinidog. Dywedai y gallai'r Anghydffurfwyr ddigio am hynny, ac nad oedd Eglwys Loegr yn unfryd, a bod yn rhaid amddiffyn deddf a threfn. Meiddiais ofyn onid oedd angen Gras yn hytrach na deddf yn awr. "Gwn hynny," meddai, "ond byddai raid i mi ofyn i'r Brenin cyn gwneuthur apêl o'r fath i Gristnogion y wlad, ac y mae yntau'n ddig iawn am y tywallt gwaed, ac yn fodlon mentro myned ei hunan i Iwerddon pe byddai hynny o help." Yn y diwedd ysgrifennodd lythyr personol dwys a da i'r Times yn pwysleisio yr angen am ffydd a gweddi dros ein Llywodraeth yn yr anturiaeth newydd am heddwch.

Diwedd Y stori ydoedd cyfarfyddiad cyntaf Lloyd George a de Valera, ac wedyn trafodaeth faith a dyrys a benderfynnodd, yn ôl cyfaddefiad de Valera ei hun, naw pwynt allan o'r deg yn foddhaol. Y maen tramgwydd olaf ydoedd ffurf llw Aelodau Seneddol Iwerddon o deyrngarwch i'r Brenin. Yr oedd y cynrychiolwyr Gwyddelig yn barod i gydnabod y Brenin, ond nid i dyngu llw o ffyddlondeb ffug i un a ymddangosai ychydig fisoedd cynt yn ormeswr caled. Nid ildiai Toriaid y Glymblaid ar ffurf y llw; rhybuddiwyd llys-genhadon Iwerddon, yn ôl Lloyd George, fod y Cadoediad ar fin terfynu; bygythiwyd hwynt, yn ôl adroddiad y Gwyddelod, y byddai'r rhyfel yn ail-ddechrau yn y man onid arwyddid y Cytundeb a'r llw y noswaith honno. Ac felly, dan orfodaeth amgylchiadau, neu fygythiad canlyniadau, yr arwyddwyd y Cytundeb, heb ryddid ysbryd a heb ras yn yr awr olaf. Gwadwyd awdurdod y llw gan de Valera, oherwydd ei orfodaeth, ac yn fuan diarddelwyd Lloyd George o arweiniad y Glymblaid gan Doriaid Tŷ'r Arglwyddi, am iddo aberthu cymaint o hawliau Prydain. Caled yw dilyn ffordd y Tangnefeddwr a chadw'n boblogaidd â'r byd. Oherwydd i'r Cymro enwog fentro mor bell i geisio heddwch a chytundeb, collodd ei swydd uchel ac ni chafodd swydd fyth wedyn yn Llywodraeth Prydain.

Caled hefyd yw gweled dynion yn drwg-dybio amcanion ei gilydd mewn gwleidyddiaeth. Y gŵr a gymerodd y cam cyntaf i wrthwynebu'r "trafodaethau cywilyddus" â De Valera, fel y galwodd hwynt, ydoedd Arglwydd Salisbury. Anfonais ato ef ar y pryd i ddweud yr hyn a wyddwn am gymhellion a thrafodaethau cais y cymod â'r Gwyddelod. Cefais ateb hir oddi wrtho:

"Chwi apeliwch ataf yn enw'r mwyaf o bob enwau ac nid oes raid i mi ddweud y triniaf eich apêl â'r parch dyfnaf sydd bosibl."

Yna cyfeiriodd yn faith at ei syniadau ar awdurdod y llywodraethwr

"fel awdurdod wedi ei phenodi gan Dduw i'r hwn y mae parch ac ufudd-dod yn ddyledus a than ddyletswydd i gosbi drwgweithredwyr a thrin gwrthryfel fel pechod a throsedd. Ni fynaswn, wrth gwrs, ddweud na ddaw yr amser pan fyddo'n bosibl cyrraedd yr holl amcanion y defnyddir grym er eu mwyn yn awr, trwy ddylanwad—dylanwad a ddibynna, wrth gwrs, ar gariad a ffydd ond yn amlwg ni ddaeth yr amser yn nyddiau Crist, ac yn sicr credaf na ddaeth yr amser eto. Gobeithiaf y teimlwch nad wyf wedi eich ateb heb y parch dwfn a ddymunwn ddangos i'ch argyhoeddiadau."

Tynnodd yn ôl ei rybudd o gerydd ar y Llywodraeth ar y pryd, ond wedi'r cytundeb heddwch ag Iwerddon, ef, yn anad neb, a oedd yn gyfrifol am gwymp Llywodraeth y Glymblaid. Anfonais iddo ymhen rhai blynyddoedd, hanes a ysgrifennais i'r Welsh Outlook yn 1924 o'r cyffyrddiadau personol ag arweinwyr yn y wlad hon ac Iwerddon. Ysgrifennodd yn ôl:

"Er na buom yn aelodau o'r un blaid wleidyddol, eto, efallai yn ysbryd llawer o'r hyn a ysgrifenasoch, fe'n galluogwyd i werthfawrogi y cymhellion a reolodd y naill a'r llall; gyda'r cywirdeb llawnaf gallaf ddweud y bu o ddiddordeb mawr i mi yn bersonol fod ar delerau'r gyfathrach gyda chwi a ffynnodd pan gyfarfuasem gyntaf. Am hynny, darllenais yr hanes dramatig a anfonasoch gyda chydymdeimlad â'r wedd ar yr argyfwng Gwyddelig y cysylltwyd chwi mor agos â hi-cydymdeimlad, wrth gwrs, nid â'r polisi a gymellasoch, ond â'r delfrydau uchel a oedd yn eich barn chwi yn ei annog."

Buan y rhannwyd gwerin Iwerddon yn ddwyblaid ddig o achos y llw, a dilynwyd hyn gan ryfel cartrefol andwyol. Dienyddiwyd gwŷr enwog fel Erskine Childers ar y naill law, a saethwyd Michael Collins ar y llaw arall. Yn y diwedd, enillodd plaid de Valera y dydd; difodwyd y llw, a phob hawl lywodraethol gan Brydain; ond ni ddaeth eto yr un gwir heddwch o gymod na gras gydag Iwerddon fel y digwyddodd trwy ras a haelioni Campbell Bannerman yn heddwch De Affrica. Rhyfedd oedd clywed cefnogaeth Syr Austen Chamberlain ar y pryd i'r cytundeb â Iwerddon a'i gyfaddefiad o edifeirwch am bleidleisio yn erbyn cynnig Campbell Bannerman a'i weledigaeth bell wedi rhyfel De Affrica.

Dysgais mor gaeth yw cynrychiolwyr Gweriniaeth i'w nerth a'u llu politicaidd, y farn gyhoeddus gyfnewidiol, a'r Wasg wamal. Felly hefyd yr oedd y swyddogion milwrol hynny a fynnai haelioni a gwir heddwch wedi'r rhyfel yn gaeth i'r gyfundrefn, megis Arglwydd Kitchener yn Ne Affrica, a'r Arglwydd Haig wedi'r rhyfel diwethaf. Bu enghreifftiau trawiadol o hyn yn helynt Iwerddon. Saethwyd Major Compton Smith yno, fel ad-daliad, pan yn garcharor i fyddin Sinn Fein; lladdwyd y Cadfridog Michael Collins gan ei hen gymrodyr gynt; a dienyddiwyd y Major Erskine Childers gan Lywodraeth gyntaf Sinn Fein. Yr oedd Compton Smith yn swyddog yn yr "R.W.F.", ac yn uchel ei barch gan y Cymry a'i gyd-swyddogion, fel y clywais gan un ohonynt, y Parch. Morgan Watkin Williams, M.C., Merthyr. Cyn ei ddienyddio ysgrifennodd y llythyr a ganlyn at ei wraig:

"Saethir fi ymhen yr awr, fy anwylyd. Bydd i'r eiddoch chwi' farw gyda'ch enw ar ei wefusau, eich wyneb o flaen ei lygaid, a bydd farw fel Sais a milwr. Ni allaf ddweud wrthych, fy nghariad, gymaint o beth yw eich gadael chwi ar eich pen eich hunan, ac mor ychydig o beth yw i mi'n bersonol farw. Nid oes arnaf ofn, dim ond y cariad eithaf, mwyaf a thyneraf atoch chwi, a'n hannwyl Anne fach. Gadawaf fy mlwch sigaret i'r Gatrawd, fy medalau i'm tad, a'm horiawr i'r swyddog sydd yn fy nienyddio, am fy mod yn credu ei fod yn foneddwr, ac er mwyn nodi'r ffaith nad wyf yn teimlo'r un malais ato am iddo gario allan y peth a' gred sy'n ddyletswydd arno."

ac i'w Gatrawd:

"Carwn i chwi wybod, fechgyn, fy mwriad i farw fel Royal Welsh Fusilier, gyda gwên a maddeuant i'r rhai sydd yn cario allan y weithred. Carwn i'm marwolaeth leihau, yn hytrach na chynyddu, y chwerwedd sydd rhwng Lloegr ac Iwerddon. Duw a'ch bendithio oll, fy nghymrodyr."

Ar ôl i'r llythyrau hyn ymddangos yn y Wasg, sylw Prif Gadfridog y Gwyddyl ydoedd, "Ni allwn ddal ymlaen i ymladd gwŷr fel Compton Smith."

Gŵr arall a adwaenwn oedd y Major Erskine Childers, a oedd yn nai i gyn-Ganghellor y Trysorlys, yn glerc i bwyll- gorau yn y Senedd, ac yn swyddog yn y llynges yn y Rhyfel Mawr. Gwyddeles oedd ei fam. Yr oedd Childers yn gyfaill agos i de Valera ac yn ysgrifennydd i Ddirprwyaeth Eire yn y Gynhadledd Heddwch. Ond yr oedd yn hollol wrthwynebus iddynt arwyddo'r llw i'r Brenin dan orfodaeth. Wedi hynny, ymunodd â phlaid de Valera yn y rhyfel cartref, a daliwyd ef a'i saethu gan Lywodraeth Cosgrave. Bûm ar ei aelwyd am oriau yn 1921 yn trafod materion heddwch, ynghyd â'r bardd Æ, golygydd yr Irish Statesman. Pan yn ymadael o'r tŷ, dywedodd Æ wrthyf ei fod ar ganol ysgrifennu llyfr yn archwilio sylfeini ysbrydol a moddion heddwch, a'i fod wedi myned i'r dwfn ynddo yn fwy nag yn un llyfr a ysgrifennodd erioed. Cyhoeddwyd y llyfr dan yr enw The Interpreters, gwaith clasurol ac ysbrydol a fydd byw wedi'r genhedlaeth hon. Yr oedd Æ yn heddychwr ac yn gydweithredwr o'i hanfod, ac wedi gwneuthur llawer gyda Syr Horace Plunkett i hyrwyddo cydweithrediad amaethyddol yn Iwerddon. Dyma lythyr olaf Erskine Childers. i'w wraig:

Dywedwyd wrthyf y saethir fi am saith yn y bore ac yr wyf yn berffaith barod. Gwelaf ei fod yn well felly o'r safbwynt uchaf. Y mae gennyf gred yng nghynllun daionus ein tynged, a chredaf fod Duw yn bwriadu hyn fel y gorau i ni, ac i Iwerddon ac i'r ddynoliaeth. Y mae marwolaeth milwr hefyd yn beth mor syml. A fydd i'r genedl ddeall a pharchu cymhellion ein cymrodyr yn ein hachos? Credaf y bydd. Pe bai fodd i mi farw gan wybod y byddai fy marw rywfodd—ni wn sut—ond yn achub bywydau eraill, a rhoi terfyn ar y polisi o ddienyddio. Tawelwch—y mae hwnnw gennyf o'r diwedd mewn modd nad oedd gennyf o'r blaen. Aequanimitas—y fath anfeidroldeb a ddatgan y gair-ffydd, gobaith, sancteiddrwydd, ymostyngiad, ac ewyllys da at bawb. Gwelaf bwerau mawrion yn rhwygo, a hefyd yn rhwymo, ein pobl yn eu profedigaethau. Yr wyf yn marw yn llawn cariad angerddol at Iwerddon. Gobeithiaf y bydd, rhyw ddydd, i'm henw gael ei glirio yn Lloegr. Teimlais yr hyn a ddywedodd Churchill am fy 'nghasineb' a'm 'malais' yn erbyn Lloegr. Mor dda y gwyddai nad oedd yn wir. Pa linell a ysgrifennais erioed i gyfiawnhau'r fath gyhuddiad? Yr wyf yn marw gan garu Lloegr. ac yn gweddïo y bydd iddi newid yn llwyr ac yn derfynol tuag at Iwerddon."

Ysgrifennais at C. P. Scott, y Manchester Guardian, i erfyn arno ddefnyddio ei ddylanwad i rwystro dienyddiad Childers. Atebodd nad oedd yn cydweled â Childers nac yn dymuno ymyrryd yng ngwleidyddiaeth Eire, ond ei fod wedi gwneud ei orau mewn ysgrif yn y Manchester Guardian. Dywedodd yn ei ysgrif nad oedd ganddo hawl i ymyrryd, ond i gyflwyno i'r Gwyddyl ei argyhoeddiad a'i brofiad, sef mai doethineb pennaf gwleidyddiaeth Prydain oedd ei datganiadau o haelfrydedigrwydd, a oddefai i droseddwyr euog amlwg gael maddeuant a myned yn rhydd.

Y mae geiriau cyngor olaf C. P. Scott i lywodraeth newydd Iwerddon yn werth eu hystyried yn ddwys yn nyddiau dial a rhyfel fel profiad un o'r gwŷr cywiraf a dewraf ymhlith y Rhyddfrydwyr a golygydd newyddiadur heb ei fath ym Mhrydain yn ei ddydd:

"Ac eto, fe ddengys hanes oesol werth meddyginiaethol tiriondeb at droseddwyr politicaidd, a hefyd y gwenwyniad-gwaed gwleidyddol sydd rywfodd yn dilyn dienyddiad pa mor eglur bynnag a fo'r achos, pa mor wael bynnag a fo'r tramgwydd, pa mor daer bynnag yr ymddengys yr angen am wneuthur esiampl. Ar ryw ystyr, peth rhad yw i ni ddywedyd hyn. Y mae'r dasg ger bron arweinwyr Iwerddon yn amgenach nag a fu erioed o flaen arweinwyr y genedl, ac nid oes gennym ni panacea i'w gynnig iddynt, ond yn unig ryw deimlad greddfol o gyfeillgarwch sydd yn gwylio eu prawf ofnadwy o dipyn o bellter. Nid oes gennym ddim i'w gyfrannu iddynt ond datganiad o'n teimlad dwfn nad yw holl hanes llywodraethwyr dynion, ie y gorau ohonynt, wedi canfod diwedd yr holl ddaioni a all ddeillio wrth ollwng troseddwyr amlwg ac agored yn rhydd."

Rhyw bum mlynedd yn ôl, pan yn Nulyn, clywais fod gweddw Childers yn dymuno fy ngweled. Yn y prynhawn euthum i'r Abbey Theatre i weled y ddrama angerddol Juno and the Paycock gan Sean O'Casey—darlun deifiol o drychineb personol chwyldroad y Sinn Fein, gyda'i gymhellion cymysg a'i foddion creulon yn enw cenedlaetholdeb. Euthum oddi yno i dŷ Erskine Childers. Gwisgai ei weddw ddillad duon ei galar; eisteddasom am ddwy awr i drafod hen bethau. Cefais fod y storm wedi ei gyrru at loches y graig dragwyddol. Dywedodd am y tro olaf y gwelodd ei gŵr, a'i fod yn sefyll yn y fan yr eisteddwn i, ac yn dweud wrthi yn drist, "Y mae'n rhaid i mi ymuno â hwy" (sef plaid de Valera).

"Erskine," meddai hithau, "wnewch chwi ddim lladd."

Edrychodd yntau yn ôl arni a dywedodd yn araf, fel gŵr yn gwneuthur adduned, "Na, wna' i ddim lladd."

Yn lle'r chwerwedd a welswn ynddi, ynghanol yr ymbleidiaeth yn 1921, yr oedd haelfrydedigrwydd ei gŵr wrth farw wedi ei meddiannu hithau hefyd. Siaradodd am Loegr: "Y mae'r Saeson mor deg wedi iddynt ddeall pethau yn iawn." Dywedodd fod cylchgrawn hen ysgol ei gŵr yn Haileybury wedi cyhoeddi ysgrif hael am Childers fel un o enwogion yr ysgol. Diolchai fod ei meibion yn gwneuthur gwaith cyd-weithredol yn y wlad, yn hytrach na gwaith politicaidd, a soniai am gysur y Groes, a'i ffydd Gatholig. Wrth ymadael â'r weddw hardd ac athrylithgar yn ei gofid personol a'i hunigedd, wedi buddugoliaeth plaid a chenedl, yr oedd fy nghalon yn llawn dagrau, a hefyd o ddiolchgarwch am na rwystrwyd gan ryfel na dial dynion amcanion personol a grasol y Goruchaf yn addysg a pherffeithiad ei blant.

Y CYFEILLION

Cadwyd rhai miloedd o wrthwynebwyr cydwybodol yn y carchardai a'r gwersylloedd llafur tan Fehefin 1919. Yn gynnar ym mis Gorffennaf cafwyd caniatad gan ychydig o Grynwyr (Cymdeithas y Cyfeillion) i ymweled â'r Almaen. Arhosasant dan nawdd y Dr. Siegmund Schultze, cyn-gaplan i'r Kaiser a Vicar y Plas Brenhinol gynt, a gadwodd yn heddychwr drwy'r rhyfel, ac a bery felly hyd heddiw yn ei alltudiaeth yn yr Yswisdir. Yr oedd effeithiau'r gwarchae (blockade) i'w gweled ar bob llaw, prinder alaethus o laeth ac ymenyn, sebon, gwlân a chotwm. Dosbarthwyd ar un- waith gan y Cyfeillion roddion o fwyd a dillad drwy'r ysbytai i'r plant newynog a ddangosai, yn eu cyrff, farciau dialedd dyn. Ofnid y buasai cannoedd o filoedd o'r plant hyn yn gloff ar hyd eu hoes oherwydd rickets a diffyg bwyd. Ond prif angen y werin, meddent, oedd:

"Cariad yn lle casineb ac ofn ac anobaith du. Ni soniasant am Dduw na chrefydd uniongred oherwydd i'r ddau enw gael eu cysylltu gymaint â rhyfel a chasineb."

Yr oedd cynnyrch y glowyr yn Frankfurt wedi cwympo i'r hanner oherwydd diffyg bwyd a nerth, ac amhosibl ydoedd cynhyrchu nwyddau a phrynu bwyd heb lo. Anfonodd Pwyllgor y Crynwyr werth 127,000p. o fwydydd i'r Almaen yn ystod y deunaw mis cyntaf wedi arwyddo'r Cadoediad. Yr oeddynt eisoes yn ystod y rhyfel wedi codi a chyfrannu 230,000p. at angen y werin yn Ffrainc, ac eisoes yn dechrau chwilio i gyflwr gwerin Awstria. Yn Vienna, prifddinas boneddigeiddrwydd Ewrop, yr oedd y llaeth wedi lleihau i'r ugeinfed ran o'r hyn ydoedd cyn y rhyfel, a phrin y gwelid plentyn yno heb ôl gwaeledd a chloffni y rhyfel arno. Cyn hir anfonwyd Cenhadon Hedd y Cyfeillion i Rwsia, i Bwyl, i Hwngari, i Serbia, ac i fannau diffaith a newynog yn anarchiaeth y byd ar ôl y rhyfel. Casglwyd a gwariwyd 1,500,000p. ganddynt ar y rhai oedd ar ddarfod amdanynt. Pan yn teithio wedyn trwy wledydd Sgandinafia a'r Almaen, cefais na wyddent fawr am Gymru, ond yr oedd pawb yn gwybod am Genhadaeth Hedd (Quaker Politics) y Cyfeillion er nad oeddynt ond rhyw ugain mil yn y wlad hon. Dyma dystiolaeth yr enwog Dr. Nansen i'r gwaith ar y Cyfandir:

"Bu eu rhagwelediad a'u hymdrechion yn paratoi'r ffordd, yn amgen- ach nag unrhyw foddion eraill, i ymdrech gydwladol i achub miliynau o bobl Rwsia rhag marw o newyn. Ni fynnaf am foment fychannu gwaith

15

ymarferol y Gymdeithas yr oedd hwn yn fawr mewn gwirionedd ond carwn bwysleisio hefyd yr ysbryd caredig a chymwynasgar a ddygwyd gan y Genhadaeth pan yr oedd calonnau dynion yn methu cyfateb i unrhyw gymhelliad dynol. Ar adeg mor bwysig yn hanes Rwsia fe ailgynheuwyd gan eich gweithwyr wreichionen y serch dynol gan eich moddion o gyffyrddiad personol, ac unwaith eto, dechreuodd dynion gredu ym mrawdoliaeth dyn oedd ar fin diffoddi."

A. RUTH FRY (Three Visits to Russia: 1/-)

Fe ddisgrifir y Genhadaeth Hedd ryfedd hon yn llawn, yn ei holl amrywiaeth o ffydd a gweithredoedd gras, yn y Quaker Adventure gan A. Ruth Fry, merch yr enwog Farnwr Cyd-genedlaethol, Syr Edward Fry, a weithredodd fel ysgrifennydd yr holl anturiaeth. Gwelir yma ddull newydd o Genhadaeth Hedd, nid yn gymaint y pregethu ond gwneuthur gweithredoedd cenhadol crefydd Crist i'r rhai sydd mewn angen-y newynog, y sychedig, y claf, yr estron a'r carcharor. Ni allaf anghofio drwy hyd fy ngharchariad olaf am naw mis yng ngharchar Birmingham, na phallodd dau hen Grynwr, marsiandwyr pwysig, ymweled â mi bob wythnos, a threfnu cyfarfod bach o weddi a chyfeillach a'm cynhaliodd ar hyd y misoedd blin.

CENHADAETH GARTREF

Yn fuan wedi fy rhyddhau o garchar, deallais nad ar y Cyfandir yn unig yr oedd achos ac effaith y rhyfel, ond ei fod mewn cyflawn arfogaeth yn Iwerddon, yn crynhoi yng nghymoedd y De, ac yn cael ei fagu ar feysydd Môn. Clywais fod teimladau drwg iawn yn codi rhwng amaethwyr a'u gweision ynghylch eu dogn isel a'u horiau hir. Mewn rhai mannau bygythiwyd rhoi'r das wair ar dân, a throwyd y gwas trwy'r drws mewn ambell le arall. Nid oedd Undebiaeth eto wedi cyrraedd ymhell ymhlith gweision amaethyddol, ac yr oedd cryn wrthwynebiad iddo. Gwyddwn trwy brofiad yn ystod y rhyfel beth oedd gweithio ar ffarm am wyth swllt o gyflog mewn wythnos, a thorri cerrig ar y ffordd wedyn am bedwar swllt. Wedi gweddïo am arweiniad i drafod y rhyfel cartref oedd wrth fy nrws, euthum i guro ar ddrws Pwyllgor Gwaith Undeb y Gweithwyr yn Llangefni, ac wedyn i erfyn arnynt gredu a gweithredu ffordd Crist tuag at eu gormeswyr a'u gwrthwynebwyr. Er fy mawr syndod, yn lle cael fy nhroi trwy'r drws, cefais wrandawiad astud, a chroeso a chennad calonnog i fyned trwy'r Undeb ym Môn gyda'm cenadwri; cywilyddiwyd fi'n aml wedi hynny gan hogiau'r ffermwyr a hwsmyn gwlad oherwydd eu cwrteisrwydd a'u croeso a'u parodrwydd i gredu posibilrwydd ymarfer â duwioldeb cyfeillgarwch Crist tuag at y rhai a wnaeth elw mawr yn y rhyfel ar gefn eu llafur a'u cyflog bychan. Gwelaf hwynt eto yn eu 'sgidiau mawr a'u melfared yn cyfarfod mewn hen ysguboriau dan olau'r lamp,

"Yn hogiau go anhygar,
Taeog eu gwedd, tew eu gwar'

a chofiaf ambell hen hwsmon yn codi i ddweud, "Ffordd Iesu Grist bia hi hogiau; ennill yr hen ffarmwrs, mae O'n siŵr ohoni hi."

Gwahoddwyd fi i'r Bwrdd Cymod yn Llŷn am fod y ddwy-blaid wedi methu cytuno. Wedi imi wrthod bod yn "farnwr nac yn rhannwr" yn eu plith, ac egluro mai mater o agwedd ac ysbryd a mentar ffydd oedd trafod materion yr anghydwelediad, trefnwyd i mi annerch yr amaethwyr yn Ffair y Sarn a'r gweision yn Rhoshirwaun ar egwyddorion cymod. Cofiaf y llu o weision pen Llŷn, a'r drafodaeth a ddilynodd fy nghais iddynt ymwadu â phob bygwth a gorfodaeth ar eu gwrthwynebwyr wrth apelio am eu hiawnderau. Penderfynwyd yn y diwedd dynnu allan gais i'r Cyfarfod Misol i'w arwyddo gan y dynion, i erfyn am arweiniad i gyrraedd cyfiawnder yr oriau rhesymol a'r cyflog deg a gydnabuwyd gan Gomisiwn y Corff fel hawl y gweithiwr. Penodwyd pwyllgor cryf gan y Cwrdd Misol i ystyried yr holl gwestiwn, a thynnwyd allan benderfyniad doeth ar ddyletswydd meistr a gwas. Fe'm gwahoddwyd innau yno i annerch ar "Frawdoliaeth Dyn," a chafwyd trafodaeth fyw a chynnes yng ngwydd ffermwyr a gweithwyr heb roi y tŷ ar dân gan fater mor llosg. Clywais wedyn i'r ymdrafodaeth gael dylanwad mawr ar ysbryd y Bwrdd Cymod a'r cynrychiolwyr, a welodd ei gilydd o'r newydd fel brodyr yn yr Eglwys, yn hytrach na phleidwyr. Enwaf hyn i egluro nad oes raid i'r Eglwys aros yn fud yn amser rhyfel gwlad na phlaid, rhag ofn llosgi ei bysedd wrth ymyrryd. Y gamp yw ymwrthod ag ymbleidiaeth a rhagfarn plaid a cheisio tynnu'r ddwyblaid yn un a dweud y gwir mewn cydymdeimlad deallus.

Y gair olaf a gefais ar y mater oddi wrth arweinydd y gweision yn Llŷn ydoedd a ganlyn: "Gallaf ddweud yn ddibetrus fod gwahaniaeth mawr yn y Bwrdd Cymod y tro o'r blaen, a hynny am fod y Cyfarfod Misol; fu dim anhawster i gytuno y tro yma gan fod yr ysbryd yn hollol wahanol. Ni fuaswn yn credu y buasai'r gwahaniaeth yn gymaint heb fod yn rhaid i mi deimlo hynny. Credaf na bydd dim anhawster i gytuno am un o'r gloch yr haf nesaf."

CYMOD MEWN DIWYDIANT

Symudais yn 1920 o'r bwthyn annwyl yn Nant Ffrancon i Blas Gregynnog yn Sir Drefaldwyn. Amcanwyd gwneuthur y plas yn fan cyfarfod a chymod i wahanol agweddau ar fywyd Cymru. Cyfarfu yno yn y blynyddoedd canlynol o dro i dro gerddorion, gweinidogion a lleygwyr, arloeswyr mewn gwahanol feysydd o wasanaeth cymdeithasol, a chynhadleddau o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd. Pan oeddym yno yn Ionawr 1921, cefais lythyr oddi wrth gyfaill yn Sir Fôn, a oedd yn ysgrifennydd i Undeb y Gweithwyr, yn fy atgoffa o'm hymweliad y flwyddyn gynt â chwarelwyr Penmon. Eglurodd eu bod ar streic ers misoedd a bod cryn ddioddefaint ymhlith eu teuluoedd, a'i fod yn ceisio hel tipyn o gronfa iddynt. Ceisiais ond methais gael unrhyw help sylweddol iddynt, ond cynigiais wneuthur unrhyw beth oedd yn fy ngallu i geisio cymod yn yr ymrafael. Cefais ateb yn ôl mai ffyrm yn Glasgow oedd perchenogion y chwarel, a'u bod yn fwy o deyrn na'r Arglwydd Penrhyn gynt, bod y Cadfridog Owen Thomas a'r Weinyddiaeth Lafur wedi ceisio yn ofer gael trafodaeth.

Digwyddai fy mod yn myned i Glasgow yr wythnos ar ôl hynny, am y tro cyntaf ac olaf yn fy mywyd, i Gynhadledd Undeb Cristnogol y Myfyrwyr. Wedi cyrraedd Glasgow a chael rhan mewn cynhadledd o gyn-filwyr o wahanol wledydd dan nawdd Brawdoliaeth y Cymod, euthum gydag ysgrifennydd y Frawdoliaeth, a oedd yn Sgotyn, i geisio cymod rhwng gweithwyr Cymreig a chyflogwyr Ysgotaidd. Euthum at swyddfa fawr yn George Street, a gofynnais am gael gweled ysgrifennydd y cwmni. Wedi i mi egluro'r hanes a'r amcan, torrodd ar fy nhraws: "Y maent wedi tynnu'r tŷ ar eu pennau eu hunain, a rhaid iddynt ddioddef y canlyniadau. Bygythiasant streic am fwy o gyflog tra oedd chwareli o'r fath yn gorfod cau oherwydd prinder marchnad i'r cerrig."

Atebais innau mai gwragedd a phlant oedd yn dioddef, ac na byddwn yn rhydd fy meddwl heb wneud y cwbl oedd yn fy ngallu drostynt. Yna, wedi iddo ddweud y drefn gryn dipyn am Undebaeth Llafur, dywedodd nad ef oedd yn gyfrifol am drafodaethau o'r fath, ond y prif gyfarwyddwr. Gofynnais a allwn ei weled, ond nid oedd yn Glasgow. Cynigiais fyned i unrhyw fan yn Sgotland i'w weled, a chefais addewid o'r diwedd gan yr ysgrifennydd i ohebu ag ef, ac arhosais yn Glasgow dros y Sul. Bore Llun euthum drachefn i'r swyddfa, a bûm yn aros peth amser "ar y mat" ac yn teimlo yr edrychid arnaf fel cranc yn busnesa tu hwnt i'm hawl. Toc daeth yr ysgrifennydd heibio a golwg ffwdanus arno. Dywedais wrtho na fynnwn ei gadw am eiliad, ond cael clywed a gafodd ryw ateb oddi wrth y prif gyfarwyddwr. Atebodd, "Y mae yn y swyddfa y munud yma, a chyfle iawn i chwi ei weled." Yr oedd yntau yn amlwg wedi gwneud tipyn o bont. Wrth ddisgwyl am y gŵr mawr mewn ystafell hardd, yr oedd yr ysgrifennydd dipyn yn nerfus, ond dywedai, "Yr oedd ein gweinidog ddoe yn pregethu am angen y byd am gymod, ond y mae'r byd wedi mynd â'i ben iddo—y farchnad yn cwympo ar bob llaw, a'r Undebau Llafur mor afresymol.

Toc daeth y gŵr mawr i mewn, ac er fy syndod yr oedd yn ŵr hoffus, naturiol a rhydd. Eglurodd wrthyf nad mater o frwydr yn erbyn Undebiaeth ydoedd, bod rhai o arweinwyr Llafur yn gyfeillion personol iddo, ond fod y cais am godiad cyflog ym Mhenmon, a'r bygythiad o streic, wedi dod ar adeg pan oedd y ffwrneisiau haearn yn cau y naill ar ôl y llall, am nad oedd adeiladu llongau bellach â'r haearn. Defnyddiwyd y garreg galch ym mhroses y ffwrneisiau haearn. Wedi trafod y mater yn llawn, gofynnais a gawn i ei ganiatad i egluro'r mater drachefn i Swyddog yr Undeb? Cymylodd ei wyneb dipyn: "Yn ôl a glywaf, dipyn o bluffer yw ef." Atebais fy mod yn ei adnabod fel dyn hoffus a chywir. "Wel, rhyngoch chwi ag ef, ond ni allaf addo yr agorir y chwarel yn y cyflwr y mae'r farchnad yn awr." Yna euthum i sôn am bethau cyffredinol, am Undeb y Myfyrwyr, a gobeithion cymod rhwng cenhedloedd. Modd bynnag, ffarweliodd yn garedig a chynnes. Ysgrifennais yr hanes llawn at fy nghyfaill ym Môn, a thrennydd cyfarfûm ag ef yn Abermaw. Wrth i mi ail-adrodd y manylion, daeth gwên o amheuaeth ar ei wyneb, "Ofnaf ei fod yn eich blyffio chwi."

"Wel," meddwn, "dyna'r gair yn union a ddefnyddiodd amdanoch chwi. Pa fodd, mewn difrif, y mae disgwyl heddwch tra byddo amheuaeth o'r fath dan y cwbl?"

Llaw ar gledd, arall ar groes
Gogeled pawb ei einioes;
Gan amau cymod nid oes.

"O 'rwyf yn barod i fyned ymhell i'ch cyfeiriad chwi, ond yn Y diwedd efallai y bydd yn rhaid ei ymladd hi allan."

O'r diwedd, cytunodd i ymweled a'r prif gyfarwyddwr pe medrwn drefnu cydgyfarfyddiad rhydd a phersonol. Ysgrifennais i Glasgow, ond cefais ateb ymhen ryw ddeng niwrnod fod y streic wedi ei diweddu'n heddychlon ers tridiau. Cefais y llythyr a ganlyn oddi wrth fy nghyfaill ym Môn:

"Fe gyfarfu'r gweithwyr, ac ar ôl trafod y safle o bob cyfeiriad a gwrando arnaf finnau yn rhoddi adroddiad o'ch ymweliad chwi á Glasgow, fe basiwyd gyda mwyafrif fy mod i, a dirprwyaeth o'r dynion, yn myned i weled y goruchwyliwr er cael gwybod beth oedd y cwmni yn barod i'w wneud. Yr oedd ymweled â'r goruchwyliwr y tro hwn yn bur wahanol i'r tro o'r blaen. Yr oedd cyfnewidiad amlwg yn ei ymddygiad a'i ysbryd, ac yr oedd y Directors wedi anfon ato ynglŷn â'ch ymweliad chwi, a chasglai ei fod wedi gadael argraff ragorol arnynt, ac y mae'n debyg fod y dylanwad wedi cyrraedd Penmon. Modd bynnag, bu'r cyfnewidiad ysbryd yn help anghyffredin i rwyddhau'r ffordd i heddwch, a sicrhawyd ddoe ar ôl ymweliad y Goruchwyliwr â Glasgow. Diolch yn fawr am eich ymdrech i ddwyn heddwch."

Cefais lythyr hefyd oddi wrth ysgrifennydd lleol yr Undeb:

"Cwmni ystyfnig iawn y cyfrifir hwynt, ac anodd iawn eu symud. Hefyd y mae'r goruchwyliwr sydd ganddynt yn y chwarel o'r un stamp a hwythau; ond y mae yntau, yn ôl pob argoelion, wedi cael troedigaeth a chyfnewidiad ysbryd, a bydd gwell dealltwriaeth a chydweithrediad yn bod rhwng y cyflogwyr a'r cyflogedig o hyn allan. Dyma'r ysbryd yn ddiau sydd yn ddiffygiol yn y wlad hon, neu mae'n ddiamau na fuasai cymaint anghydwelediadau."

Rhoddaf y llythyrau hyn yn eu manylion oherwydd fy argyhoeddiad fod maes eang cymod wrth ddrws yr eglwysi ac wrth law i lawer lleygwr ond iddynt gymryd y Genhadaeth Hedd o ddifrif.

Cofiaf ddeugain mlynedd yn ôl ysgrifennu at ŵr colegol i holi am obaith mynediad i'r coleg i gael goleuni ar fy nryswch crediniol. Atebodd: "Os bydd rhyw wybodaeth sicr i'w gael am Dduw, chwi a'i gwelwch yn siŵr yn y papur newydd." Ateb ffol, ond nid ffolach na disgwyliad llaweroedd a ddisgwyl am weled heddwch yn y papur ac a ddywed Wele yma neu Wele acw" am ryw frwydr neu fuddugoliaeth newydd. I heddwch, ac i gymod, y mae gwreiddiau cuddiedig a dyf yn aml megis "gwreiddyn o dir sych." Nid oes gair yn Llundain am y miloedd o weithredoedd cyfeillgar a chymwynasgar a gadwodd y Rhondda wrth ei gilydd yn nyddiau'r hir gyfyngder; ond os bydd streic neu ymladdfa neu etholiad, fe ddaw'r Rhondda yn enwog yn Llundain rhag blaen. Ond y pethau a welir sy'n myned heibio; y pethau ni welir (gan y papurau) sydd yn aros. Paham na chlywwn ers ugain mlynedd am hanes diwydiannau eraill heblaw y pyllau glo-gwaith adeiladu,. neu esgidiau, a llawer diwydiant arall sydd yn heddychol ers blynyddoedd? Y drwg a wna dynion sydd yn amlwg, cleddir y da yn aml gyda'u llwch.

DIWYDIANT ADEILADU

Cofiaf yn 1916 ddechreuad anturiaeth ryfedd ym myd adeiladu, diwydiant a fu cyn y rhyfel yn enwog am anghymod. Yr oedd Crynwr o'r enw Malcolm Sparkes yn gyfarwyddwr mewn ffatri saeryddiaeth ac ar delerau hapus â'i weithwyr. Yn 1914 bygythiwyd gan y meistri, er mwyn rhoi terfyn ar streic yn Llundain, gloi allan yr holl weithwyr adeiladu drwy'r deyrnas, ond pasiwyd yr helynt rywsut pan dorrodd y Rhyfel Mawr allan. Erbyn 1916 yr oedd cynnen yn codi drachefn oherwydd prisiau bwyd a cheisiadau am gyflogau uwch. Ysgrifennodd Malcolm Sparkes at ysgrifennydd Undeb y Seiri yn gofidio am fod helynt o'r fath yn codi, tra oedd eu cymrodyr yn marw yn Ffrainc am swllt yn y dydd. Erfyniai am iddynt gyfarfod â'i gilydd fel meistri a gweithwyr i drafod yr undeb oedd rhyngddynt, yn hytrach na thrafod cwyn a cham yn wastadol. Gwahoddwyd ef i gyfarfod Pwyllgor yr Undeb, ac, wedi iddo egluro'i syniadau ymhellach, cafwyd trafodaeth rydd a chydymdeimladol. Yn y diwedd fe ddywedwyd pe delai'r- meistri i'r un tir, y buasai'n hawdd gael cymod, a phwyswyd ar Malcolm Sparkes i'w hargyhoeddi. Gwrthododd, gan ddweud mai hanfod heddwch oedd dechrau anturiaeth ymddiriedaeth y naill ochr yn y llall, a'i fod yn anhepgor i'r gwahoddiad ddod oddi wrthynt hwy. Yn y diwedd anfonwyd gan Undeb y Seiri at Undeb yr Adeiladwyr lythyr oedd yn ôl G. D. H. Cole, yn un o lythyrau pwysicaf hanes diwydwaith diweddar. [1].


Yn y cyfamser digwyddodd Mr. J. H. Whitley, Llefarydd y Tŷ Cyffredin, ddarllen disgrifiad Malcolm Sparkes o'i anturiaeth yng nghylchgrawn Brawdoliaeth y Cymod, a chymhellwyd ef i ddilyn y weledigaeth ei hun a cheisio sefydlu Byrddau Cymod ym mhob diwydiant; a dyna ddechrau y Whitley Councils, a wnaeth gymaint o les yn anghymod diwydiant y wlad am flynyddoedd. Ond yn y dyddiau hynny diflannodd Malcolm Sparkes o'r amlwg i gysgod carchardai am ddwy flynedd am ei fod yn Wrthwynebwr Cydwybodol i ryfel.

Yn raddol lledaenodd rhwyd y cyfeillachu a'r cydweithredu at yr holl fasnach adeiladu. Ffurfiwyd "Senedd yr Adeiladwyr," fel y gelwid hi, a phenodwyd pwyllgorau pwysig o feistri a gweithwyr i ystyried cwestiynau fel Prentisiaeth, Damweiniau, Pensiynau a Chyflogau, a ducpwyd adrodiadau unfryd am welliannau. Y tir llosg ydoedd mater cyflog ac elw, ond yr oedd y ddwyblaid wedi dod

yn rhydd ac agos at ei gilydd erbyn hyn. "Paham na weithiwch chwi fel cynt?" ebe un o'r meistri. "Paham y dylem weithio i'n lladd ein hunain er mwyn elw i chwi?" oedd yr ateb. "Ond ni ddisgwyliwch i ni fod heb elw?" "Na," meddant, "ond disgwyliwn i chwi gymryd elw cymedrol a rhoddi'r elw dros ben at fudd y diwydwaith." Fe fuasai hynny'n well nag ennill ar un gontract, a cholli ar gontract arall oherwydd streic a helynt."

O beth i beth cytunwyd ar gynllun mai'r ddelfryd ydoedd i'r ddiwydwaith logi cyfalaf y meistri, a thalu am eu gwaith a'u cyfarwyddyd, a thalu'n ôl eu colledion anocheladwy, a bod yr elw dros ben i fyned at fudd cyffredin yr adeiladwyr. Bu trafodaeth frwd ar yr Adroddiad yn Senedd yr Adeiladwyr, ond ni chafwyd mwyafrif digonol i fentro Sosialaeth wirfoddol o'r fath. Felly fe fentrodd Malcolm Sparkes daflu ei goelbren i blith y gweithwyr yn yr anturiaeth a alwyd The London Guild of Builders. Yn ôl eu cyffes, gwasanaeth gonest a da oedd eu delfryd, a chyflog yn ôl yr angen, fel guilds crefyddol yr Oesoedd Canol. Ar y dechrau, yn ôl tystiolaeth arbenigwr cyfarwydd, adeiladasant yn well, yn rhatach, ac yn gyflymach na neb ar y maes. Wedi hynny, cododd guilds cyffelyb fel caws-llyffaint ar hyd a lled y wlad, yr un mewn enw ac ymddangosiad, ond heb yr hanes a'r drafodaeth oedd wrth wraidd Guild Llundain. Mewn amser, ceisiwyd eu huno mewn un guild cenedlaethol gan S. G. Hobson, gŵr a fagwyd fel Crynwr ond a droes i athrawiaeth y rhyfel dosbarth Marxaidd. Cofiaf ei gyfarfod yn nhŷ arch- adeiladydd a oedd mewn cydymdeimlad llwyr â delfryd y guilds ac a fentrodd gyflwyno contract bwysig iddynt; ond cyflawnwyd y gwaith yn bur araf ac yn anfoddhaol. Wedi clywed cwynion y pensaer dywedodd Hobson, "Wel, rhaid cael gwared â'r manager; y mae yn fachgen da, ond yn ffwl yn ei drefniadau."

Gofynnais iddo onid oedd yn syrthio i fai pennaf y cyfalafwr-unbennaeth—haeru awdurdod i farnu a diswyddo dynion.

Atebodd yntau, "Fy syniad i yw, cael saith o ddynion galluog ar y blaen a stopio'r clebran; syniad Malcolm Sparkes yw trafod pob peth gyda'r gweithwyr fel Cyfarfod Mamau.'

Yn y diwedd diswyddwyd Malcolm Sparkes ei hun gan Hobson a'i blaid; aeth y Guild Cenedlaethol o waeth i waeth, a darfu mewn methdaliad ariannol a moesol.

Felly fe drowyd y cloc yn ôl am genhedlaeth gan wŷr a oedd yn rhy brysur i oddef tyfu gwreiddiau graddol a diwyllio ysbryd a chydweithrediad. Gwir a ddywedodd Lloyd George am Folsiefiaeth, "Trefnyddiaeth ddiamynedd"; a gallesid cymhwyso'r un gair at lawer math ar unbennaeth mewn byd ac Eglwys. Hanfod moddion gweriniaeth, yn ôl Meistr Coleg Balliol, ydyw trafodaeth rydd ac argyhoeddiad cyffredin, ac nid cyfrif pennau difeddwl mewn etholiad pwyllgor na Senedd. Ond nid aeth gweledigaeth ac anturiaeth Malcolm Sparkes yn ofer. Yn y diwydiant adeiladu daliwyd at yr arfer a gychwynnodd o gyd-ymgynghori rhwng meistr a gweithwyr, ac achubwyd y diwydiant eang rhag un anghymod ac ymrafael o bwys am flynyddoedd lawer.

O DAN Y DDEDDF

Pan yn gweithio, o dan y ddeddf, ar y ffordd fawr yn Sir Gaerfyrddin yn 1918 deuthum i sylweddoli peth o'r dirmyg a'r trais a deimlwyd gan hen navvies a gweithwyr y ffordd. Annheg a fyddai galw dynion o'r fath yn unskilled labour; pwy mor ddyheig â'r hen navvy i ddeall natur coed a cherrig a chrefftwaith y ffyrdd a'r ffosydd? Teimlais yn aml, wrth weithio ochr-yn-ochr â hwy, mor ddiystyrllyd oedd gwŷr cyfforddus y cerbydau wrth ruthro heibio i ni a'n gadael dan gwmwl o lwch eu holwynion. Yn wir, dywedai Cocky, yr hen Ganger: "Diolch i Dduw nad ydynt yn poeri arnom." Eto dyma'r gwŷr mwyaf annibynnol a welais erioed; dywedent eu meddwl yn groyw ac yn rymus wrth fach a mawr, ac os byddai'r ffrwgwd yn mynd i'r pen, cymerent eu pac ac i ffwrdd â hwy ar hyd y ffordd fawr i geisio gwaith amgenach. Cyfaddefai Cocky: "Y navvy yw ei elyn ei hun; casglwn dipyn o bres a chelfi yn y tŷ, ac yna gwariwn ormod ar y ddiod; ac wedyn y ffordd fawr amdani!" Pan yn ymresymu â hwy am wario 15s. yn y dafarn ar ddiod, yr esgus oedd: "Wel,' 'does un man ond y dafarn i fechgyn y ffordd, ac os bydd un yn galw am rownd o ddiod, teimlwn na allwn lai na galw am rownd arall i dalu'n ôl, ac felly y byddwn wedi cael gormod. Ond y mae hyn i'w ddweud, yn y dafarn, 'Be' gymerwch chwi?' yw hi; ond yn y capel, 'Be' rowch chwi?'; a gwell gennyf fod yn feddwyn nag yn gybydd; ni fuaswn yn gybydd er neb, hyd yn oed y Gŵr sy'n byw i fyny'r grisiau."

Eglurais wrtho fod y Gŵr hwnnw yn grwydryn ei hun pan ar y ddaear.

"Felly y clywais," meddai, "yn mynd ar gefn mul ynte, ond nid wyf fawr o sgolor i chwi.".

Ond yr oeddynt yn hynod o gymwynasgar i'w gilydd ac yn barod i rannu eu tamaid olaf yn ôl angen y munud. Yr oedd defod y navvy's honour ganddynt; pan fyddai crwydryn yn dod am waith casglent swllt yr un iddo gael dechrau'n anrhydeddus yn eu plith nes cael ei gyflog. Cofiaf dorri twmpath o gerrig rhyw ddiwrnod a chael fy ngheryddu gan un o'm cydweithwyr am wneud gormod a difetha'r job; dywedais nad oeddwn yn fy lladd fy hun, a'i bod yn ddyletswydd i wneud diwrnod o waith teg.

"Ie," meddai, "ond peidiwch â bod yn hunanol; y mae'r hen dad yma (gan gyfeirio at hen ŵr musgrell a oedd yn gweithio ar fy nghyfer) yn methu torri cymaint â chwi, ac fe gaiff y sac os gwêl y Clerk of Works hynny."

Trodd yr hen ŵr ataf ei hun: "A wyddoch chwi faint sydd rhwng y gwir a'r gau-dwy fodfedd." Yn fy mhenbleth eglurodd: "Y pellter rhwng y glust a'r llygaid. Y peth a welaf ddyn yn ei wneud a gredaf, nid y peth a glywaf. Dyma ni yn gosod y ffordd i lawr; ond nid ydym yn cerdded y ffordd; ac felly gyda'r personiaid a'r pregethwyr—gosod y ffordd i lawr y maent, ond nid ydynt yn ei cherdded mwy na ninnau."

Felly, o enau fforddolion y cefais gerydd, a chan y crwydriaid y cefais ymborth i gorff a meddwl a barodd i mi deimlo'n hynod o gynnes atynt. Yr oedd eu cymdeithas rywsut yn gynhesach na chymdeithas y Sosialwyr a'r Comiwnyddion pybyr a oedd yn gyd-garcharorion ac yn cynllunio a dadlau beunydd am ryw fyd o bell, ac yn dilorni'r byd wrth law, gan gyfrif y crwydriaid yn anwariaid. Llawer tro wrth glywed eu cŵyn am dra-arglwyddiaeth Mamon a'r "materialist interpretation of history," meiddiais ddweud fy mod yn teimlo fy mod yn ddyn rhydd.

"Nac ydych," meddent, "caethwas ydych i'r gyfundrefn; pe gwrthodech weithio, chwi aech yn ôl i garchar."

Ceisiais egluro'r hen ddihareb: "Gwell bod yn rhydd mewn carchar na bod yn gaeth mewn llys," ond yn ofer. Pwysodd y broblem dipyn ar fy meddwl, ac wedi ymneilltuo a myfyrio, deuthum yn ôl i'r babell a dywedais fy mod am ffarwelio â hwy yn y bore, er mwyn adfeddiannu fy "rhyddid cynhennid" a phregethu efengyl heddwch Crist. Cynhyrfwyd hwy'n fawr gan fy mhenderfyniad, a gwnaethant eu gorau i'm perswadio i beidio â rhedeg yn rhyfygus i ddannedd y ddeddf. Modd bynnag, ffarweliais â hwy drannoeth, ac â'r hen navvies geirwon, yn hynod o ddwys a thyner. Wedi cerdded chwe milltir at y prif wersyll, yn Llanwrda, synnasant fy ngweled; yr oedd si am fy ymadawiad eisoes wedi eu cyrraedd. Euthum i weled y pennaeth-hen Sergeant Major oedd yn swyddog dan y Swyddfa Gartref. Synnodd yntau fy ngweled, a dywedodd ei fod wedi anfon dyn i'r orsaf i'm gwylio. Eglurais wrtho fy mhenderfyniad, a dywedais na byddai'n deg i mi ymadael heb ffarwelio, ac egluro wrtho. Er fy mawr syndod, dywedodd, "Fy nyletswydd innau, mae'n debyg, yw eich atal a'ch dal, ond gadewch i'r Home Office wneud eu gwaith budr eu hunain." Yna estynnodd ei law a dywedodd: "Duw a'ch bendithio." Y noson honno nid oedd gennyf unlle i gysgu, nac arian, ac euthum at y Felin yn Llanwrda i ofyn am ganiatâd i gysgu yn yr ysgubor; ond nid oedd neb yn y tŷ ond y plant hoffus; arhosais gyda hwynt nes daeth eu rhieni i mewn. Eglurais fy neges, ond ni chawswn ganiatâd i'm cais nes cael swper gyda'r teulu; yna gwrthodasant yn bendant, gan egluro eu bod wedi paratoi gwely i mi yn y tŷ. Felly o dy i dŷ, ac o fan i fan, y cefais ymgeledd cyfamserol yn Sir Gaerfyrddin wrth siarad mewn pentrefydd a chapelau. Deuthum o'r diwedd i Burry Port, lle'r oedd pentref newydd ar gael ei adeiladu gan fy hen gwmni, y Welsh Town Planning Trust. Er fy syndod, cefais fod hen gydnabod hoffus, Ben Thomas, yn Clerk of Works, a mawr oedd croeso y Cymro caredig a'i wraig a'r plant. Wedi cael bwyd a holi am ei fyd, eglurodd Ben anawsterau ei swydd-fod y gwaith wedi sefyll am na wyddai rheolwr yr adeiladwr sut i drin y navvies Cymreig a oedd yn ymadael y naill ar ôl y llall. Euthum at y navvies yn y bore a chlywais ganddynt y gŵyn fod y Sais yn eu bygwth a'u cyfarth fel ci. Euthum at y rheolwr a dywedais. am fy mhrofiad fel navvy a bod ffordd i'w trin; ei esgus oedd fod y Clerk of Works yn cwyno am yr oediad yn y gwaith, a'r dynion yn chwarae cardiau ac yn cael eu sacio; ond toc, cyfaddefai fod y dull o weithredu-pawb yn erlid ei gilydd wedi andwyo hapusrwydd ei fywyd, a phe bai modd newid y drefn y buasai'n fodlon ar hanner ei gyflog; ond, yn y diwedd, dywedodd nad oedd obaith am hyn am fod ei feistr yntau yn un o "wŷr caletaf y Midlands." Cynigiais fyned gydag ef yn y bore i ofyn caniatâd y Meistr i anturiaeth newydd.

Wedi cyrraedd Melton Mowbray, hawdd oedd credu ei syniad am ei feistr, ond wedi i mi ddweud yr hanes wrtho, ac egluro fel yr oedd pob swyddog yn ceisio cadw trefn wrth fygwth eraill, ac nad oedd hynny'n fusnes da nac yn Gristnogaeth dda, atebodd y meistr: "Rwy'n hollol gydweled â chwi. Deugain mlynedd yn ôl, bûm ar fin myned i'r weinidogaeth, ond gwelais y byddai hynny'n golygu'r Bregeth ar y Mynydd, ac ni allwn ei hwynebu. Felly euthum i fusnes, ond camgymeriad mawr ydoedd. Os mynnwch chwi weithredu'r cynllun a eglurwch, gwnaf bopeth i'w hyrwyddo; cymeraf unrhyw gomisiwn a fernwch chwi yn deg, yn lle elw ar y gwaith, ac yn wir buaswn yn barod i gymryd rhan yn y gwaith â'm dwylo fy hun."

Fe'm synnwyd yn ddirfawr, a neb yn fwy felly na'r rheolwr. Prysurais yn ôl i Gymru; cefais gan arch-adeiladwyr y cwmni, a chan y Cyrnol David Davies, y cadeirydd, y Clerk of Works, a'r gweithwyr eu hunain, ganiatâd i fentro'r ffordd newydd a eglurais wrthynt, a chynigiais weithio gyda hwynt fel navvy fy hunan. Ond ni chaniatawyd hyn gan Gyfarwyddwyr y Cwmni; dywedodd yr is-gadeirydd gweithredol nad oedd yn ystyried y fath anturiaeth yn "ymarferol"—a llywydd enwad crefyddol ydoedd.

Felly euthum ymlaen o fan i fan i geisio tir agored arall i'm cenhadaeth nes cael fy ngharcharu drachefn.

Yn 1923 fe'm gwahoddwyd i Gynhadledd Swanwick gan y Frawdoliaeth Wesleaidd i arwain cyfres o astudiaethau ar anturiaeth yr Efengyl ym mywyd addysg a diwydiant. Cyhoeddais lyfryn ar faes yr astudiaeth dan yr enw Direct Action, yn awgrymu camau personol o'r ddelfryd i'r weithred. Wrth i mi sôn am enghreifftiau o driniaeth rasol o'r bywyd is-ddynol—dofi colomenod, dysgu cŵn, iwsio ceffylau—daeth hen amaethwr crefyddol ataf; ofnais fy mod wedi ei dramgwyddo wrth ddod â'r cŵn i'r Seiat; ond i'r gwrthwyneb, dymunai ddiolch o galon am hynny, a dywedodd: "Y mae gennyf ddau gi annwyl yn y farm acw, a diolchaf i'm Tad Nefol am y fraint a gefais o'u trosglwyddo o deyrnas y tywyllwch i deyrnas ei annwyl Fab." Cyfrifasid y fath sylw yn anystyriol gan lawer un, ond nid oedd y syniad am gysegredigrwydd bywyd yr anifail yn ddieithr i'n tadau a ddarllenodd "Cyfatebiaeth Rhwng Natur a Chrefydd," gan yr enwog Esgob Butler. Yn wir, yn ôl esboniad Syr G. Adam Smith, athrawiaeth y ddeddf a'r proffwydi ydoedd swydd offeiriadol dyn tuag at y creaduriaid.

Gŵr arall a ddaeth ataf wedi i mi sôn am ddiwydiant oedd un a fu yng ngharchar fel gwrthwynebwr cydwybodol. Dywedodd beth o'i brofiad a'i hanes wrthyf ac am ei anturiaeth yn ceisio brawdoliaeth yn ei fusnes. Pan y'i cafodd ei hun yn y gell wedi ei wisgo yn nillad confict torrodd ei galon bron, a theimlai na allai byth ddangos ei wyneb yn Birmingham drachefn; ond yn y gwaelod oll cyffyrddodd â'r graig dragwyddol, a chysegrodd ei fywyd oll i ofal Duw. Wedi ei ollwng yn rhydd, gwahoddodd y gwŷr a'i gwasanaethai mewn tair o siopau i swper, ac wedyn eglurodd wrthynt ei brofiad a'i benderfyniad i geisio gwir frawdoliaeth rhyngddynt, a'i fod yn barod i dderbyn eu barn am beth a fyddai'n deg rhyngddynt. Y noson honno penderfynwyd y cyflog yn ôl safon yr Undeb, ac i'r elw gael ei rannu dair rhan o bump i'r dynion a dwy ran o bump iddo ei hun. Canlyniad y cynllun y flwyddyn ganlynol oedd fod 50p. o'r elw yn dod i bob gweithiwr yn ychwanegol i'w gyflog. Y flwyddyn nesaf yr oedd anhawsterau mawr mewn masnach trwy'r wlad; cafodd lythyr o'r banc yn pwyso arno i dynnu ei ddyled i lawr. Gwelodd un o'r gweithwyr fod golwg bryderus arno, a holodd am yr achos; dangoswyd y llythyr iddo. Y noson honno daeth y gweithiwr yn ôl gyda phapur, wedi arwyddo gan y dynion oll, yn cynnig tynnu eu cyflogau i lawr, o 5s. yn yr wythnos hyd at 2p. yn yr wythnos mewn un achos. Syfrdanwyd ef gan weithred rasol a hollol annisgwyl o'r fath. Gostyngwyd felly ddyled y banc, a dechreuwyd cystadleuaeth bellach mewn gras a brawdoliaeth rhwng meistr a gwas.

Yn ystod y blynyddoedd canlynol bûm mewn cysylltiad aml â'r cwmni rhyfedd hwn, ac yn ŵr gwadd i'w cynadleddau. Erbyn hyn, y mae gan y cwmni yn agos i gant o siopau, cyflogau anghyffredin, pensiwn am 60 mlwydd oed, gwyliau â thâl, amgylchiadau cysurus a'r cydweithrediad rhyfeddaf a welais erioed. Sicrhawyd fi wrth groesholi'r pwyllgor am "hanes yr achos" nad cyfundrefn yw'r esboniad, ond perthynas frawdol a chydweithredol. Y meistr a fu'n gyntaf yn cynnig a chymell codiad cyflogau, a'r gweithwyr yn unfryd yn gwrthod codiad, a hynny er mwyn amcanion amgenach. Cyfranasant 9p. yn yr wythnos yn nyddiau'r dirwasgiad yn y De, a 10p. yn wythnosol at dlodion eu dinas eu hunain. Cyfranasant hefyd filoedd o bunnau at ysbytai, i wella'r tai slymaidd, ac at achosion da eraill. Eglurasant i mi fod "y meistr yn feistr am nad oedd yn feistr," ac mai o ras, ac nid o raid, y teimlent eu dyletswydd. Cŵyn fwyaf y meistr oedd eu bod yn gweithio gormod; dygasant feichiau ei gilydd pan fyddai gormod o waith mewn un siop, heb gŵyn na gwobr. Deallais, wedi eu croesholi'n fanwl, mai llu o weithredoedd grasol a phersonol a oedd wedi gweu y rheffynnau dynol a'r rhwymau cariad rhyngddynt. Cyfeiriant at ffordd yr Efengyl fel ffaith o brofiad mewn busnes, a chyda throseddwyr a ddug arian, neu a ddiogasant, yr oedd gras yn gorfoleddu yn erbyn deddf a'r troseddwr yn aml yn cael ei le yn ôl a'i drin yn frawdol. Etholwyd y meistr erbyn hyn yn Master Cordwainer Prydain, sef llywydd i'r guild hynafol sydd yn perthyn i grefft y cryddion o'r Oesoedd Canol.

Ni allaf beidio a chyfaddef fy nyled bersonol i'r cwmni rhyfedd hwn. Daeth fy nghynhaliaeth bellach ers deuddeng mlynedd oddi wrth gyfeillion dienw na fynasent i mi wybod eu henwau; ond yn ddiweddar iawn, ac yn ddamweiniol, cefais wybod fod gan y cryddion grasol hyn law yn y cynllun er mwyn fy rhyddhau i waith y Cymod, a wnaeth y fath drefn yn eu hanes a'u busnes eu hunain. Disgwyliaf y cyhoeddir hanes yr anturiaeth cyn hir i egluro Cristnogaeth ymarferol a gweriniaeth ar waith mewn diwydiant.

CENHADAETH YNG NGHERNYW

Fe'm gwahoddwyd i gyfarfod hynod yng Nghernyw yn Eglwys Gadeiriol Truro. Yr oedd yr Esgob yn llywyddu ar gyfarfod yn cynrychioli Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr, tirfeddiannwr a mwynwyr, i ystyried cenhadaeth yr Eglwys yn ymrafaelion y wlad: Dywedodd yr Esgob fod y byd yn rhanedig am fod yr Eglwys yn rhanedig ac yn methu dangos ffordd ac esiampl gwell. Teimlodd eu bod oll mewn angen am wir edifeirwch am eu hymraniadau a'u methiant i fod yn dangnefeddwyr tu allan i'w drysau. Wedi'r drafodaeth, cyfarfyddai nifer o'r rhai a oedd dan argyhoeddiad yn y mater, yn St. Hilary, Marazion, hen Eglwys y gŵr hynod hwnnw, y Tad Bernard Walke. Yn y gwasanaeth dechreuol, gwelsom holl ardderchowgrwydd yr Offeren, a chlywsom arogl yr arogldarth, a sain y gloch sanctaidd. Sibrydodd gweinidog Presbyteraidd wrthyf, "Camgymeriad mawr a thramgwydd i amryw ohonom fydd hyn.'

Teimlai'r offeiriad yn amlwg rywbeth o'r un pryder, oherwydd daeth, wedi'r gwasanaeth, at risiau'r Gangel yn ei wisgoedd llaes, a dweud wrthym, "Teimlaf y gall rhai ohonoch deimlo tramgwydd oherwydd ffurf o wasanaeth sydd yn ymddangos efallai yn ofergoeledd i chwi. Ond nid yw'n ddigon i ni gyfrannu yn unig yn y pethau sydd gennym yn gytun, megis cyd-adrodd Gweddi'r Arglwydd, ond mentro, fel brodyr yng Nghrist, ddatgan y rhan o'r profiad a'r weledigaeth a fu i ni yn wir 'foddion gras,' ac y mae'r Offeren wedi bod yn foddion gras anhraethol i mi; ond nid yr unig foddion yw; y mae'r Crynwyr yma yn cael moddion gras wrth wrando a gweddio mewn distawrwydd, a'r Methodistiaid yn eu Seiat Brofiad. Felly, os eiddo Crist ydym, y mae'r holl foddion hyn yn eiddo i ni." Yna, â'r arogldarth yn yr awyr, dilynwyd y gwasanaeth gan ddistaw-rwydd dwys, ac wedyn gan gyffes y naill a'r llall o'r pethau a berthynai i heddwch enaid a bywyd; ac yr oedd yr offeiriad yn dweud ei brofiad mor naturiol â hen Fethodist.

Y diwrnod canlynol aethom allan yn ddau a thri i bentrefi Cernyw i genhadu yn yr awyr agored. Testun y genhadaeth oedd undeb yr Eglwys fel moddion i uno'r byd; natur Eglwys ydoedd cymdeithas y rhai oedd yn barod i roddi popeth i fyny ond eu Harglwydd a'u cyd-ddyn. Cofiaf, ym mhentref St. Just, ym mhegwn eithaf Cernyw, annerch, gyda'r Tad Bernard, rai ugeiniau o bysgotwyr, mwynwyr a phentrefwyr. Dywedai y teimlai y gallasent edrych arno fel dyn od, ond credai ped adnabuasent ef, yr hoffent ef, a'i fod yn sicr ei fod yn eu hoffi hwy, am fod yr Iesu yn eu caru hwy ac yntau. Ffurfiwyd Brawdoliaeth y Bwrdd Cyffredin gan gylch ohonynt, yn Grynwyr ac yn Uchel Eglwyswyr ac eraill, i rannu, nid yn unig y pethau a berthynai i heddwch mewn profiad, ond hefyd y pethau a berthynai i'r cysur beunydd- iol, ac angen y naill a'r llall. Yr oedd un ohonynt, Gerard Collier, yn fab i Arglwydd Monkswell ac yn byw mewn bwthyn cyffredin, a'i fachgennyn, a oedd yn aer i'r arglwyddiaeth, yn rhedeg yn droednoeth gyda phlant y pentref. Rhyfedd ydoedd clywed ym mhellteroedd Cernyw yr un pwyslais ag a roddasai Williams Pantycelyn yn "Nrws y Seiat Brofiad" ar ddyletswydd y saint i rannu beichiau ei gilydd, ac felly gyflawni cyfraith Crist. Ond yr oedd syniad o'r fath eisoes yn nhraddodiad Geltaidd yr Eglwys yng Nghernyw. Dangoswyd i mi hen ddarlun yn eglwys St. Just yn darlunio'r croeshoeliad, a gwaed Crist yn llifo at law'r aradrwr tra oedd yn hau'r had. Daliai'r Tad Bernard mai ystyr gyntefig yr Offeren ydoedd arwyddo rhaniad y pethau tymhorol, yn fwyd ac yn ddiod, yn ôl arfer comiwnyddiaeth yr Eglwys Fore, yn ysbryd a haelioni Crist. Pan yn St. Ives euthum i weled yr offeiriad Pabaidd, ac wedi i mi egluro iddo amcan y genhadaeth, dywedai na allai ymuno oherwydd na chydnabyddai'r un eglwys ond yr Eglwys Gatholig. Gofynnais iddo onid oedd sectyddiaeth yr Eglwys honno yn ei flino ef, wrth weled yn y rhyfel filwr Catholig o Ffrainc yn lladd ei gyd-Gatholig yn yr Almaen, a'r ddau yn ymladd dan fendith eu Hesgobion? Cyfaddefai ei fod yn gwestiwn dyrys, ond credai fod y rhyfel yn gosb Duw ar Ewrop oherwydd pechod y Diwygiad Protestannaidd. Nid oedd gennyf ond plygu fy mhen, a myned allan yn drist gan synnu wrth yr athrawiaeth a oedd yn barotach i andwyo cymeriad Duw na chyfaddef gwendidau ei gyfundrefn enwadol.

Ymhen blynyddoedd erlidiwyd y Tad Bernard gymaint gan blaid eithaf y Protestaniaid—y Kensitites Uchel-Brotestannaidd a ddrylliodd allor a darluniau ei eglwys, nes iddo dorri ei galon a chlafychu a diweddu ei einioes yn Eglwys Rufain. Ond gŵr tyner a charuaidd a maddeugar ydoedd, a chredaf fod ei enw, fel enw Keir Hardie, o fewn y cyfamod. Ei gamgymeriad, efallai, oedd disgwyl i'w hawl gyfreithiol fel rheithor plwyf ganiatau iddo dorri llythyren y ddeddf, a bod yn Gatholig yn lawn ystyr y gair, ac felly daeth i afael gwŷr y llythyren, a dioddef eu sarhad. Felly hefyd y dioddefodd yr Esgob Barnes yn ei dro, gan wŷr eithafol plaid yr Uchel Eglwyswyr, wrth iddo geisio eu rhwystro yn eu seremonïau a oedd yn groes i'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Yn wir, gefail arw yw'r ddeddf i drin troseddwyr da a drwg. [2].

Y CYFANDIR

Lledaenwyd cyfle'r Genhadaeth Hedd yn 1922 gan wahoddiad i deithio trwy wledydd Norwy, Sweden a Denmarc. Nid anghofiaf daith y gaeaf dros Fôr y Gogledd, a'r croeso a gefais yn nhrefydd bychain y Fjords gan athrawon, pysgotwyr, morwyr ac eraill, yn Bergen, Stavanger a Haugesund, a'r gwrandawiad astud i egwyddor a phrofiad heddychwr. Yn Sweden cefais wahoddiad gan gyfaill i dreulio diwrnod gyda'r gŵr enwog a chatholig hwnnw, yr Archesgob Soderblom o Upsala. Ni bu gweinidog gwlad yn ei astudfa yn fwy cartrefol a syml na'r Archesgob a'r ysgolhaig a'r arweinydd hwn. Yr oedd mewn cryn bryder am yr hyn a glywodd yn ddiweddar gan gyfaill a oedd newydd ymweled â'r Ruhr yn yr Almaen, a feddiannwyd gan fyddinoedd y Ffrancwyr, a hawliodd wragedd o'r Almaen fel puteiniaid i'w milwyr negroaidd. Y diraddiad hwn, yn fwy na dim, a wenwynodd ysbryd yr Almaenwyr yn eu gwae a'u gwarth, Credai'r Archesgob fod perygl gwenwyno ysbryd Ewrop oll gan y fath bethau. "A dyma eglwys Crist yn fud," meddai, "yn wyneb erchyllterau o'r fath."

Dywedais innau fy mod yn credu mai ofer ydoedd gwrthdystiad yn unig heb erfyniad ac arweiniad yr Eglwys i'r ddwy-blaid ddig esgyn i dir uwch yr Efengyl, sef maddeugarwch. Atebodd: "Af â chwi i'r eglwys gadeiriol yn awr, ac wedi i mi ei dangos i chwi, cewch eistedd mewn tawelwch a tharo ar bapur y pethau a deimlwch y dylid eu dweud yn awr; y mae Esgobion Sweden yn cwrdd â mi yr wythnos nesaf i wynebu'r sefyllfa a'n dyletswydd." Wedi iddoddangos i mi feddau'r hen frenhinoedd a gwisgoedd yr hen Archesgobion gynt, a chyn fy ngadael ar ben fy hunan, trodd ataf ger bron yr Uchel Allor a dywedodd, "A gawn ni weddio ynghyd am ennyd am dyfod o ysbryd Crist i Ewrop?" Yn y dwys ddistawrwydd wedyn yr ysgrifennais fy meddyliau.

Dyma eiriau'r apêl a anfonwyd cyn pen yr wythnos at wladweinwyr y byd, Archesgobion Caergaint, a Pharis a Christnogion y byd:

"Ni ellir cyfrif rhif y rhai a gynhyrfir i waelodion eu bod ym mhob rhan o'r byd gan y digwyddiadau presennol. Gobeithiasom am fendithion heddwch wedi'r rhyfel, ond tyfu'n waeth anarchiaeth wna y weriniaeth Ewropeaidd. Y mae newyn a gwenwyn chwerwder eneidiau a dreisiwyd, llygrad corfforol a moesol, yn anrheithio cylchoedd urddasol o'r teulu dynol yng Nghánolbarth Ewrop. Yn ystod yr heddwch (fel y'i gelwir) y maç byddinoedd medrus yn rhwygo darnau helaeth o diriogaethau cu cymdogion diarfait, ac felly yn lledu trueni a oedd cisoes yn llefain i'r nef. Fe fydd i'r hadau a heuir yn awr ddwyn ffrwyth mewn rhyfel newydd a mwy echryslawn, canys 'Yr hyn a heuo dyn hynny hefyd a fed efe.' Yn amlwg daw trueni Ewrop o wneuthur grym bwystfilaidd a hunanoldeb. byr-olwg yn ddeddf uchaf yn hytrach na gwrando ar lais Crist. Ni farnwn neb, canys ni wêl dyn ond mewn rhan, eithr condemniwn foddion trais. Llosga cydwybodau a chalonnau ym mhob man gan y cwestiwn 'Beth a ellir ei wneuthur?" Erfyniwn ninnau, gweision Eglwys Sweden, ar ein cyd-Gristnogion yn Ffrainc ac ym mhob gwlad i ymuno â ni mewn ymbil ar Dduw i roddí i ni weledigaeth a gallu i weithredu â'n holl galon. Er budd holl broblem heddwch y mae'n angenrheidiol codi cwestiwn yr iawndal o'r gors bresennol a bygythion rhyfel ac ad-daliadau, i dir uwch o ymddiriedaeth ac ewyllys da. Rhaid i ddynion faddau fel y disgwyliant am faddeuant. Apeliwn felly yn ostyngedig at Wladweinwyr cyfrifol, ac yn arbennig atoch chwi, Arlywydd yr Unol Daleithiau, i ysgafnhau y straen sydd yn dod o ddydd í ddydd yn fwy annioddefol a melltithiol, a hynny gyda'r prysurdeb pennaf ac mewn cytundeb cywir trwy gyfarfyddiad ynghyd a chyda terfyniad gonest, rhwng cynrychiolwyr y Pwerau."

Gwelais eiriau'r apêl gyntaf yn y papurau yn Copenhagen, yr wythnos ganlynol. Creodd ddiddordeb neilltuol yno, ond dywedodd Archesgob Denmarc wrthyf: "Y drwg yw y tybir bod Sweden o blaid yr Almaen, fel y tybir bod Denmarc o blaid Ffrainc." Awgrymais iddo pe gallasai yntau gefnogi'r apêl, a'i chodi felly yn wastad rhag drwg-dybiaeth, y gallasai'r Eglwys yn Lloegr drefnu cynhadledd gyd-eglwysig i drafod mater heddwch Ewrop. Wedi iddo ystyried, dywed- odd pe byddai i Archesgob Caergaint ei wahodd i gynhad- ledd o'r fath y buasai yn rhoddi heibio ymweliad a fwriadodd â'r America, a dod yn unswydd i Loegr. Ni allwn gefnu ar wledydd Norwy, Sweden a Denmarc heb werthfawrogi y croeso syml a siriol a gefais ym mhob man i'm cenhadaeth hedd, a rhyfeddu wrth eu diwylliant uchel, eu bywyd cysurus, eu trefydd heirdd, eu gwareiddiad rhydd a naturiol, ac at symledd ac agosatrwydd gwŷr mawr eu heglwysi. Cofiaf hefyd gartrefi annwyl ar lannau'r Fjords ac yn nhrefydd heirdd Stockholm a Copenhagen, a bechgyn hawddgar yr ysgolion gwerin, a chredaf na ddiffoddir golau Crist ynddynt gan drais a drygfyd y rhyfel.

YR ALMAEN

Wedi cyrraedd Berlin, ymwelais â'r Dr. Siegmund Schultze, cyn-Gaplan y Kaiser, a Ficer Potsdam gynt, a drodd, fel Dick Sheppard, yn heddychwr, ac a gadwodd felly yn ystod y rhyfel. Trwyddo ef cyfarfûm ddau ŵr amlwg o Eglwys yr Almaen, sef y Dr. Schreiber a'r Dr. Julius Richter, llywydd y Coleg Cenhadol. Disgrifiasant i mi gyflwr yr Almaen ar y pryd-y prinder bwyd amlwg, y cwymp yng ngwerth arian-papur y wlad i'r filfed ran o'u gwerth ymddangosiadol; meddiant y Ruhr gan filwyr duon y Ffrancwyr; peryglon chwyldroad Bolsiefaidd a goresgyniad gan fyddin Rwsia; esgymundod byd ac Eglwys yr Almaen gan fyd ac Eglwys Prydain. Bûm am rai oriau yn nhŷ mawr cysurus y Dr. Schreiber, ac mewn cynhadledd grefyddol o wŷr blaenllaw a diwylliedig; ond deallais wedyn nad oedd ganddo ond dwy ystafell o'r holl dŷ, am fod yn rhaid iddo osod pob ystafell arall, er mwyn cael dau ben y llinyn ynghyd. Yr unig luniaeth a gawsom, ar noswaith oer yn y gaeaf, oedd cwpanaid o de, heb na siwgr na llaeth, a darn bach'o fara sych. Ar y ffordd yno telais yn y tram 10,000 marks (500p.) am fy nghludo o'r ddinas i'r tŷ. Mewn gair, yr oedd holl eiddo'r dosbarth canol cysurus wedi mynd yn ddiwerth. Bara a margarin ydoedd lluniaeth pennaf y werin. Yr oedd glo, golau trydan, a nwy, yn brin iawn; yn y Ruhr cynyddodd darfodedigaeth hyd 24 yn y cant. Gofynnais i'r ddau weinidog osod ar bapur y ffeithiau a adroddasant i mi, ac euthum ar fy union i Lundain gyda'r hanes. Gwelais hefyd yn Berlin Herr Simon, mab y Dr. Simon, y cyn-Weinidog Tramor, a oedd yn ysgrifennydd i Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn yr Almaen. Disgrifiodd Herr Simon y gobaith Mesianaidd a gododd ymhlith ieuenctid yr Almaen yn amser y Cadoediad am Almaen newydd ac Ewrop newydd. Yr oeddynt wedi darfod â'r filitariaeth a orfodwyd arnynt, a phropaganda celwyddog y rhyfel. Ymunasant wrth y lluoedd ag Undeb y Cynghrair. Ond pan welsant fradychu'r telerau heddwch a 14 Pwynt yr Arlywydd Wilson, a'u diystyru am bedair blynedd bellach, yn eu newyn a'u diraddiad, a phan glywsant ddim ond un cwestiwn gan y buddugoliaethwr, sef, "Faint fedrant ei dalu; gwnawn iddynt dalu," chwalwyd eu gobeithion. Felly digalonasant ac oerodd yr edifeirwch wrth iddynt glywed edliw'r hen filitarwyr, na ddylasent erioed gredu gair y Sais, ond dal i ymladd yn hytrach nag ymddiried ynddo a diarfogi.

Wedi cyrraedd Llundain euthum yn ddi-oed at Arglwydd Parmoor, tad Syr Stafford Cripps, gŵr eglwysig a Thori gynt, a ddaeth yn heddychwr ac wedyn yn Llywydd y Cyfrin Gyngor a chynrychiolwyr y Llywodraeth yn 1924 yn Genefa. Aeth â mi i Bwyllgor Cynghrair y Byd dros Gyfeillgarwch drwy'r Eglwysi, a gwahoddwyd fi i ddweud hanes fy nghenhadaeth. Wedi i mi ei adrodd, trodd Arglwydd Parmoor at y cadeirydd, Esgob Oxford: "Wel, dyna ni fel Cynghrair yr Eglwysi yn wynebu'r fath ing a cham yn Ewrop heb na dweud na gwneud dim yn ei gylch, ac fe fydd hanes yn barnu ein distawrwydd. Os nad yw'r pwyllgor am fentro gwneuthur tystiolaeth bendant heddiw, yr wyf yn ymddi- swyddo." Cydwelodd yr Esgob â'i brotest, ac wedi trafodaeth penderfynwyd anfon dirprwyaeth bwysig at y Prif Weinidog a galw ynghyd aelodau'r Cynghrair Cyffredinol i gynhadledd yn y Swistir yn fuan.

Cyhoeddwyd wedyn apêl y Cynghrair at eglwysi'r byd, ond ni chlywais ei fod wedi cael fawr o sylw yn Eglwys Loegr nac yng Nghymru. Anfonais innau gylch-lythyr, yn cynnwys yr hanes uchod am gyflwr yr Almaen a pheryglon y brad a'r diraddiad a'r dioddef dan ormes y Ffrancwyr, i bob gweinidog Methodist yng Ngogledd Cymru, ond ni chafodd fawr sylw.

EIN CYFRIFOLDEB AM EWROP

Dyma eiriau fy nghylch-lythyr i'r gweinidogion:

(Awst 1923).

"Pasiodd naw mlynedd heibio er pan aeth ein gwlad i'r Rhyfel Mawr. Apeliwyd at ein pobl ieuainc gan y Wasg, yr arweinwyr gwleidyddol a chan y pulpud i ymladd dros amddiffyniad y gwan, i ddifetha militariaeth, ac i waredu rhyddid y cenhedloedd. Dros yr amcan aruchel hwn anogwyd hwynt gan eu hynafgwyr, nid yn unig i farw, ond i ladd, dros eu gwlad. Addawyd iddynt mai hwn fyddai y rhyfel i derfynu rhyfel', a phe gorchfygid y gelynion gan eu dewrder a'u haberth, y byddai heddwch cyfiawn a pharhaol yn cael ei sefydlu gan ein harweinwyr. Anghofiwyd, neu gwrthodwyd, yr addewidion hyn. Triniwyd fel 'darn o bapur' delerau pendant yr addewid a barodd i fyddinoedd yr Almaen osod eu harfau i lawr, sef 14 Pwynt yr heddwch cyfiawn a ddatganwyd gan yr Arlywydd Wilson. Trwy warchae ar fwydydd am naw mis wedi'r Cadoediad, fe alluogwyd y Cynghreiriaid i wasgu cyffes gelwyddog mai ein gelynion yn unig a oedd euog ac yn gyfrifol am y rhyfel, a'u gorfodi i addo iawndal ymhell y tu hwnt i delerau'r Cadoediad ac ymhell uwch gallu gwlad wedi ei difrodi a'i dihysbyddu gan ryfel. Yr anwiredd a'r trais yma yw sylfaen anfoesol Cytundeb Fersai, a ddaeth â'r fath ddinistr ar Ewrob. Pan hawliodd Prydain Drefedigaethau a llongau'r Almaen, a'i gorfodi i dalu dros 600,000,000p. eisoes i'r Cynghreiriaid, rhagorwyd ar raib ein hesiampl gan y Ffrancwyr a'r Belgiaid. Felly y cwblheid difrod a dioddefaint yr Almaen. Beth yw ein cyfrifoldeb arbennig fel Cymry a chrefyddwyr am y sefyllfa? Bod Cymro, a anrhydeddwyd gan uchel-wyliau ein heglwysi a'n cenedl, mewn prif awdurdod o amser y Cadoediad ymlaen, a bod ei arwydd a'i bolisi ynghlwm wrth weithred a saif yn wrthun mewn hanes. Ni watwerir Duw, pa dywyllwch bynnag a bentyrrwn ar ein gweithredoedd.

"Datganodd Mr. Reginald McKenna (Llywydd Banc y Midland) yn ddiweddar ein bod yn dechrau sylweddoli, trwy ein hanghyflogaeth, fod yr iawndal wedi: troi'n fwy o felltith nac o fendith, ac y buasai nid yn unig yn Gristnogaeth dda, ond yn fusnes da, pe buasem wedi maddau i'n gelynion.' Felly y'n haddysgir trwy dlodi a dioddefaint yr hyn y gallasem ei ddysgu a'i ymarfer dan ddisgyblaeth Crist. Ac nid yw'r diwedd eto.

"Dyma'r sain nas clywyd yn ein polisi y saith mlynedd tywyll hyn—ymrwymiad Cristnogion i faddeuant, sydd yn sail ac yn sylwedd ffydd a buchedd. 'Maddau i ni ein dyledion fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.' Hyd oni phregethir hyn gan offeiriaid a phregethwyr, yn sicr difethir y bobl. Oni allwn, fel cenedl y Cymry, erfyn ar Dduw a dynoliaeth am fwy o drugaredd nag a ddangosasom i'n gelynion, bydd ein dyfodol fel cenedl a chrefyddwyr yn dywyll iawn.

"Eisoes y mae mwy o fyddinoedd arfog yn Ewrop na chyn y rhyfel; eisoes traddodwyd i ni wario'n anferth ar baratoadau newydd am arfau erchyll môr ac awyr, er nad oes yn awr gyd-ymgeiswyr mewn arfogaethau -ond Ffrainc, Siapan a'r Unol Daleithiau-ein Cynghreiriaid ddoe.

"Amgacaf ddatganiadau gan Gymdeithas y Cyfeillion. Y mae cu cywirdeb a'u cysondeb Cristnogol a'u gweithredoedd trugarog yn nioddefaint Ewrop heddiw yn haeddu sylw. Erfyniaf eich sylw difrifol i'w hapêl.

"Onid oes angen taer yn ein cynadleddau crefyddol am alwad i edifeir- wch cenedlaethol a phersonol, ac am gyfnewidiad calon a ffordd? Onid oes angen i weinidogion a blaenoriaid dorri'r distawrwydd am gyfrifoldeb ymddygiad y Cristion ym materion y genedl rhag i'n pobl gael eu difetha heb weledigaeth gan y farn gyfiawn ryw ddydd, sef cael ein barnu fel y barnasom ac y condemniasom ein gelynion? Pa fodd y gwneir iawn am y dioddefaint a achoswyd gan ein pechod a'n distawrwydd?

"Am fod fy nghalon yn drom gan y gwae a'r anobaith a welais yn ystod mwy nag un ymweliad â'r Almaen, meiddiaf apelio atoch, fel un sydd mewn sefyllfa o gyfrifoldeb a rhagorfraint arbennig, i geisio deffro ein heglwysi a'n pobl i edifeirwch am ein pechodau ac i faddeugarwch i'n gelynion; yn y pethau hyn y mae'r unig obaith am gymod â Duw ac â dyn, ac am ddyfodiad Teyrnas Dduw ar y ddaear. Onid trwy'r porth cyfyng ac isel hwn y gellir disgwyl gwir ddiwygiad crefyddol, a heddwch ar y ddaear, ac ewyllys da rhwng dynion?"

APÊL CYMDEITHAS Y CYFEILLION

Felly nid oedd dim i'w wneud ond troi drachefn, fel yn nyddiau'r carchar, at Gymdeithas y Cyfeillion am gefnogaeth mewn gair a gweithred i'r Genhadaeth Hedd a an- wybyddwyd gan eglwysi eraill. Yr oedd y gymdeithas fechan hon wedi codi 1,500,000p. a chynnal dwy fil o weithwyr trugaredd, ar hyd a lled Ewrop newynog. Ac yr oedd gair eu tystiolaeth ar y pryd mor groyw â'u gweithredoedd. Dyma eu tystiolaeth i'r byd yn 1923:

"Fe ymdeimla Cymdeithas y Cyfeillion, fel cymdeithas grefyddol a ddygwyd i berthynas ddynol agos a phobl yn dioddef yn ein gwlad ni a gwledydd eraill, yn ystod y rhyfel ac ar ei ôl, yn orchfygwyr ac yn orchfygedig, â'r rheidrwydd o ddatgan ei barn ar goedd am gyflwr alacthus Ewrop ar hyn o bryd.

"Y mae'r byd yn dal i ymbalfalu am ffordd heddwch. Methodd Cytundeb Versailles ddwyn na heddwch na diogelwch i Ffrainc a'r byd. Y mae ei orfodi yn hoelio militaraieth yn sicrach ar Ewrop, yn distrywio'r awydd am heddwch ac yn dyfnhau ysbryd dial. Yn yr un modd methodd pob Cynhadledd a gynullwyd dan y dylanwad hwn.

"Condemniwyd Cytundeb Versailles ar dir cyllidol, economaidd a pholiticaidd. Fe'n beichir ni gan mwyaf, sut bynnag, gan ei anfoesoldeb hanfodol. Dylasai ei gynllunwyr ystyried yn gyntaf sut i liniaru dioddefaint cyffredin y bobloedd yn hytrach nag ychwanegu at allu y Gwladwriaethau buddugoliaethus. Yr oedd yn anghyfiawn gau allan y gorchfygedig o'r Gynhadledd Heddwch, yn anghyfiawn i fwrw euogrwydd ar un genedl ac i orfodi cyfaddefiad o'r euogrwydd hwnnw ag arf newyn, ac yr oedd yn anghyfiawn anwybyddu'r addewid am well termau i Almaen ddemocrataidd. Y mae'r Cytundeb yn ddi-rym yn foesol am fod llawer o'i amodau, sy'n anghyfiawn ynddynt eu hunain, yn bradychu'r telerau y cytunodd y Galluoedd Canol arnynt i orffen y rhyfel.

"Cyfaddefwn i'n gwlad ni ein hunain honni hawliau a sicrhau manteision yn groes i delerau'r Cadoediad, a chydnabyddwn fod ein galw am ddiwygiad yn golygu o angenrheidrwydd barodrwydd i ymwrthod ag enillion lle y gofyn cyfiawnder am ymwadu. Credwn, fel y daw'r ffeithiau'n adnabyddus, y teimla gwŷr o anrhydedd rwymedigaeth i ymgeisio o'r newydd am waredu Ewrop.

"I gyrraedd yr amcan hwn, galwn am fath newydd o gynhadledd i ddiwygio'r Cytundeb. Gan gynrychioli anghenion cyffredin dynion cyffredin yn hytrach nag amcanion politicaidd gwladweinwyr, a chan fod ar dân â'r awydd i weithio'n ffyddlon er mwyn lles cyffredinol, rhaid i'w haelodau gydweithredu fel gwŷr cydradd, heb eu llesteirio gan amodau'r Cytundeb ac yn rhydd o ysbryd tra-arglwyddiaeth.

"Yn wyneb trasiedi'r anobaith sy'n dyfnhau'n barhaus, yr ydym yn argyhoeddedig o'r angen am ymgais fuan i drefnu Cynhadledd o'r fath yn ddioed. Fe ofyn hyn am gydweithrediad cylchoedd eang o eneidiau taer yn benderfynol na ollyngant afael nes lledaenu'r fath ysbryd ewyllys da a'i gwna'n bosibl i adael o'r neilltu ymrafael a chwerwder yr amser presennol a dwyn i fod gytundeb wedi ei sylfaenu ar gyfiawnder a gwirionedd. "Argyhoeddwyd ni'n fwy nag erioed gan flynyddoedd rhyfel a'i ganlyniadau mai, yn yr amgylchiadau anhawsaf posibl, y galluoedd a all gyfodi cymdeithas dyn i dir cymod a bywyd newydd yw'r ymdrechion ymgyflwynedig hynny a wneir yn ysbryd Crist."

Anfonais beth o'm profiad ar y Cyfandir ynghyd ag apêl Esgobion Sweden at Arglwydd Salisbury, fy marnwr gynt, a llywydd y Blaid Geidwadol yn awr. Y mae ei ateb yn awgrymu'r anawsterau a deimlir gan lawer enaid dwys yn hualau teyrnasoedd y byd hwn:

"Ofnaf i mi gadw eich llythyr dros amser heb ei gydnabod, ac ofnaf nad oes gennyf esgus ond un annheilwng braidd, sef cilio rhag wynebu'r math ar gwestiynau a ofynasoch. Ond, mewn gwirionedd, gall unrhyw ddyn gael ei ddigalonni gan y pellter sydd rhwng polisi cyd-genedlaethol ag ysbryd y Testament Newydd. Heblaw hynny, hyd yn oed i sant, nid yw'r anhawster moesol yn syml. Rhwng unigolion, er ein bod yn cael anawsterau mawrion wrth ddilyn rheol yr Efengyl, eto nid oes gwestiwn o'u cymhwyster at berthynas dynion. Ond pan ddelech i ddelio â chymdeithasau dynol nid oes orchymyn sicr. Ni chyfeiria y Testament Newydd yn uniongyrchol at berthynas cymdeithasau. Cymhellir cariad, hunan- aberth, a hyd yn oed maddeuant, at berthynas dyn a'i gymdogion, ond pan yn ymwneud â chymdeithasau, yna y mae gan ddyn berthynas ddeublyg. Os yw dinasyddion gwlad arall yn gymdogion iddo yn ystyr yr Efengyl, felly hefyd y mae ei gydwladwyr. Ac, yn wir, mewn rhai cyfeiriadau y mae ganddynt alwad gryfach arno na'r lleill, a phan fo'n delio â buddiannau ei gydwladwyr ni all un aberthu yn yr un modd ag y gelwir arno i aberthu ei fuddiannau ei hun. Nid wyf yn golygu o gwbl, wrth gwrs, na ddylai egwyddorion y Testament Newydd gael dylanwad dwfn ar weithrediadau un wlad tuag at y llall. Ond nid yw'r cymhwysiad yn fater syml; am hynny, nid wyf yn teimlo y gellwch drin gwlad fel uned y gellir cymhwyso ati holl orchmynion yr Efengyl a draethwyd gynt with unigolion. Modd bynnag, credaf fod Cynghrair y Cenhedloedd yn gam i'r iawn gyfeiriad er iddo ofyn gofal mawr wrth roddi pwysau arno rhag i'r offeryn dorri dan ein dwylo. Nid oes raid i mi ddweud am ddylanwad a theimlad neges Esgobion Sweden. Dymunaf fedru gweled rhyw arweiniad glir ar y mater."

CYNHADLEDD HEDDWCH

Y flwyddyn honno cefais wahoddiad i gynhadledd heddwch o 200 o gynrychiolwyr eglwysi, dosbarthiadau a chenhedloedd gredodd fod allweddau heddwch gan Grist a'i Eglwys. Rhyfedd oedd gweled Almaenwyr a Ffrancwyr, offeiriad Pabaidd a gweinidogion Lutheraidd, Eglwyswyr a Chrynwyr, yn eu pryder a'u cyffes a'u proffes ynghyd, yn chwalu canolfur y gwahaniaeth. Er yr holl straen a'r dioddef gan gam y gormeswyr, medrwyd cyrraedd cyfamod gan y Ffrancwyr oedd yno ag Almaenwyr o'r Ruhr. Cofiaf gadeirydd y gweithwyr yng ngweithfeydd enwog Krupps, Herr Dabringhaus, yn adrodd fel y bu'n erfyn ar y gweithwyr i beidio â thalu drwg am ddrwg i'r milwyr Ffrengig, ond gwneud pob cymwynas a cheisio eu hargyhoeddi hefyd o'r cam a wnaethant i werin yr Almaen ddiarfau. Gofynnais iddo a gyfarfu â'r Crynwyr. "A," meddai, "dyna bobl sanctaidd," a deallais o ba le y daeth ateb rhyfedd yr Almaenwr hwn i'r hen gwestiwn, "Pa beth a wnaech pe deuai?" Nid Hitler oedd bwgan y dydd hwnnw, ond Poincare, Llywydd Ffrainc. Amdano y dywedodd Lloyd George wrthyf, "Dyn bychan deddfol ac yn llawn casineb." Am ei bolisi fe ddywedodd hefyd:

"Rhaid felly ystyried polisi Ffrainc a'i Chynghreiriaid ar ôl y rhyfel fel un o'r prif achosion oedd yn gyfrifol yn uniongyrchol am fethiant yr Almaen i dalu'r iawndal. Rhaid oedd iddynt ddewis rhwng polisi o gyfeill- garwch a chynorthwyo'r Almaen i adferiad economaidd at safon a'i gallu- ogai i dalu; neu ynteu bolisi o wanhau a difrodi, er diogelu dyfodol Ffrainc. Dan ddylanwad M. Poincare gwnaethant yr ail, mewn gobaith am fedi holl elw'r cyntaf."

Cafwyd yng Nghynhadledd Denmarc unfrydedd rhyfedd ar bolisi gwleidyddol a chymdeithasol a weddai i Gristnogion; yr anhawster mwyaf ydoedd cael eglwysi cred at ei gilydd. Cofiaf sciat neilltuol o dros ddeugain o offeiriad Pabaidd, ac o weinidogion Lutheraidd ac enwadau Protestannaidd eraill." Ceisiasom drwy hyd un bore dynnu allan ddatganiad o'n cyd-weledigaeth a'n cydymdeimlad ysbrydol; ond yr oedd pob enw wedi ei lygru gan ryw au-gysylltiadau. Nid oedd "Sosialwr Cristnogol" yn Awstria yn golygu dim ond plaid wrth-Iddewig; Bolsheifiaeth ydoedd cysylltiadau'r gair cydwladol"; Marxiaeth oedd cysylltiadau'r gair "Gweriniaeth" yn yr Almaen; Pabyddiaeth oedd ystyr "Catholigiaeth" yn Belfast ac yng Nghymru. Felly methasom yn llwyr a chyrraedd unrhyw formula a chredo. Yn y prynhawn aethom ati yn wahanol, a dyma'r datganiad:

"Cyfarfuasom, yn weinidogion a chlerigwyr Cristnogol o wahanol wledydd ac enwadau ac ysgolion meddwl, yng Nghynhadledd Gydwladol Brawdoliaeth y Cymod, a daethom o hyd i'n gilydd. Rhoddwyd i ni y profiad byw fel y gall cwestiynau lawer, dyrys a chymhleth, o fywyd crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol, gael eu trafod mewn modd agored a rhydd, ac eto yn hollol frawdol. Argyhoeddwyd ni fod rhyfel a chasineb mewn bywyd gwleidyddol a chymdeithasol yn ddrwg, yn enwedig rhwng Cristnogion, a'i bod yn ddyletswydd gysegredig i'r gweinidogion a'r clerigwyr oll weithio â'u holl adnoddau modd y byddo egwyddorion yr Efengyl yn safon yn y cwestiynau hyn oll. Teimlasom a phrofasom oddi tan ein holl wahaniaethau enwad a gwlad ein dwfn undeb cyffredin yng Nghrist. Y profiad o'r posibilrwydd hwn sydd yn ein calonogi i obaith anorchfygol lledaeniad dealltwriaeth o'r fath rhwng Cristnogion o wahanol. genhedloedd a chyfundebau. Gwna hyn hi'n ddyletswydd agos atom o'r dydd hwn ymlaen i weithio i'r amcan yma a thaer erfyn ar ein cyd-weinidogion gyd-weithio yn y ddyletswydd wir Gristnogol o baratoi'r ffordd i ddyfodiad Teyrnas Duw ar y ddaear."

Cofiaf y Dr. Schultze, wrth i mi ddweud wrtho am fy siom pan fethasom gael formula, wedi inni gael cyd-welediad a chydymdeimlad mor llwyr: "Wel, llwyddasom yn well na'r Esgobion yng Nghyngor Nicea. Hwy a gawsant y formula ond cwerylasant fel diawliaid." Ac nid yn Nicea yn unig y bu'r "llythyren yn lladd," ond yng Nghymru hefyd. Diolch fod Cyngor Ffydd a Threfn yr Eglwysi yn 1942 wedi agor ei ddrysau i rai, fel y Crynwyr a'r Undodwyr, na allent fodloni ar ddatgan eu ffydd mewn formula o eiriau ystrydebol a lyncir, fel penderfyniadau Sasiwn yn aml, heb wir ystyried eu cyfrifoldeb. Cefais, yn y Gynhadledd hynod hon yn Nenmarc ryw gip-olwg ar ystyr a phosibilrwydd eglwys Crist yn ei holl amrywiaeth gatholig, "heb na Groegwr nac Iddew, caeth na rhydd," ond "Crist i bawb, ym mhawb a thros bawb." Nid yw'n debyg y cyhoeddir Gweinidogaeth y Cymod yn y byd hyd oni bo i'r eglwysi edifarhau o'r culni sectol, a deffro sêl dros gyfuno holl fywyd dynion yng Nghrist.

Pwysicach nag unrhyw "benderfyniadau cyffredinol" pen-agored ydoedd y penderfyniad a wnaethpwyd, gyda chymorth Crist, i sefyll dros heddwch yn y gelyniaethau oedd yn rhannu a rhwygo Ewrop. Cyn i ni wasgaru i'n gwledydd ein hunain o Ynys Tangnefedd Denmarc, gwnaethom gyd-adduned ddwys i geisio sefyll, yng nghanol llifogydd gelyniaeth gwledydd, torfeydd, pleidiau a sectau, dros Weinidogaeth y Cymod yng Nghrist gan gofio'r gair difrifol:

"Cymerwch atoch holl arfogaeth Crist fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi gwneuthur pob peth sefyll . . . oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd."

Duw a ŵyr gost yr adduned a'r safiad hwnnw i lawer un a oedd yno. Alltud hyd heddiw yn y Swistir yw'r Dr. Siegmund Schultze, o'r amser y cododd Hitler yn Unben yr Almaen. Carcharwyd cyn y rhyfel dros ddeuddeg cant o weinidogion yr Almaen am ddal at eu cyffes o Grist. Safodd yr Arglwyddes Mathilda Wrede dros gymod â'r Bolshefiaid yn y chwyldro a fu yn Ffinland, a hefyd dros drugaredd i'r mynaich Rwsiaidd a erlidiwyd yn y wlad honno. Yn Ffrainc carcharwyd y Pasteur Henri Roser am wrthod gwasanaeth milwrol. Costiodd ymddiswyddiad o arweiniad y Blaid Lafur i George Lansbury am sefyll yn erbyn rhyfel a'r polisi a arweiniodd ato.

Fe'm gwahoddwyd oddi yno i gynhadledd hynod yn Ne Denmarc yn nhiriogaeth Schleswig Holstein. Galwyd y gynhadledd hon gan wragedd Denmarc yn y mannau a feddiannwyd o'r Almaen gan Ddenmarc wedi'r rhyfel. Ceisiwyd gan y Daniaid wneuthur y rhaniad mor deg ag oedd yn bosibl drwy gymryd pleidlais fanwl o'r boblogaeth cyn tynnu'r llinnell-derfyn rhwng y ddwy wlad. Er hynny, yr oedd "pocedau" o Almaenwyr yn aros yn Nenmarc, a Daniaid dros y goror yn yr Almaen. Amcan y gynhadledd ydoedd ceisio tynnu unrhyw chwerwedd o weinyddiad y ddeddf trwy gydymdeimlad a chyd-ddealltwriaeth a chyfiawnder gwirfoddol. Rhyfedd ydoedd cwrdd, yn hen Gastell y Dug o Augustenborg, â gwragedd diwylliedig a oedd yn Aelodau Seneddol yn Nenmarc, ac yn eu plith hen Gadfridog yr Almaen, y Baron von Schoenaich, oedd wedi troi'n heddychwr (fel y Cadfridog von Deimlich), ac a oedd yn awr yn amaethwr. Dywedodd imi beth o'i hanes a'i brofiad, a'r diraddiad a fu arno gan y swyddogion milwrol; ond yr oedd yntau wedi cerdded "ffordd Damascus." Llwyddodd amcan y gwragedd heddychlon trwy sefydlu Ysgol Werin ar y goror, fel man-cyfarfod a lle trafodaeth i'r ddwy genedl; a phasiwyd mesur gan y Llywodraeth i drefnu os byddai ugain Almaenwr yn dymuno cael ysgolfeistr neu weinidog o'u cenedl eu hunain ac yn siarad eu hiaith eu hunain i'w plant, y cawsent hynny ar draul y wlad. Canlyniad cyntaf polisi o'r fath ydoedd "chwalu canolfur y gwahaniaeth" wrth chwalu cwyn y lleiafrif, mewn modd na welwyd ei hafal yn Ewrop. Canlyniad diweddarach y polisi ydoedd y driniaeth arbennig a gafodd Denmarc gan fyddinoedd yr Almaen yn y rhyfel presennol, a adawodd iddynt eu brenin a'u Senedd a rhyddid barn. Yr oedd Denmarc eisoes wedi diarfogi cyn y rhyfel.

Y SENEDD

Yn Hydref 1923 cefais wahoddiad i sefyll dros Brifysgol Cymru. Ni allwn rwymo fy nghydwybod wrth unrhyw blaid, ac felly sefais fel Heddychwr Cristnogol a cheisiais egluro, mewn datganiad lled faith, i'r etholwyr beth a olygai'r egwyddorion hyn i mi ar gyfer gwleidyddiaeth, diwydiant, amaethyddiaeth ac addysg fy ngwlad. Gwelais yn yr etholiad gyfle i hau had heddwch, ac, mewn cyfarfodydd lawer o raddedigion y Brifysgol ar hyd a lled Cymru, cefais gyfle i erfyn arnynt feddwl allan egwyddorion sylfaenol y Genhadaeth Hedd, a'u gweithredu yn eu cylchoedd eu hunain, ac yn arbennig yn ysgolion y wlad. Nid oedd sawr ymbleidiaeth nac ymgecraeth yn y cyfarfodydd, ond yn hytrach seiat brofiad; diweddodd amryw o'r cyfarfodydd mewn gweddi. Er fy mawr syndod, fe'm hetholwyd i'r Senedd. Yno fe'm croesawyd yn gynnes gan gynrychiolydd y Prif Ysgolion Unedig Seisnig, Syr Martin Conway, a oedd yn enwog fel llenor a dringwr mynyddoedd yr Alpau a'r Andes, a hefyd yn grefyddwr. Eglurais iddo fy syniad o geisio gan grŵp o'r rhai a roesai eu crefydd o flaen eu plaid, drafod cwestiynau . a cheisio cymod Crist a'i gyflwyno i eraill. Cofiais am grŵp o'r fath a gyfarfu yn y Senedd ar adeg helynt Iwerddon. Datganodd ef gryn ddiddordeb, a chof af iddo ddweud: "Os gwn y teimlwch chwi fel finnau weithiau-pan fyddwyf gydag un set o bobl, teimlaf ryw annigonolrwydd ac awydd am fod gyda'r set arall." Gwyddwn am y profiad yn dda-y dyhead, yng nghylchoedd crefyddol esmwyth ac ystrydebol, am weled wyneb gwŷr gwerin a'u geiriau garw gonest; ac ymhlith y rheini wedyn, hiraeth am naws a dwyster Puleston. Yn wir, mewn rhan y gwelwn ac mewn rhan y proffwydwn. Fe'm gwahoddwyd gan Mr. Arthur Henderson i fynychu cynghorau'r Blaid Lafur a chael y Chwip. Eglurais. innau fod rhyddid llais a chydwybod yn rhy ddrud gennyf i ymrwymo wrth blaid a Chwip, a'm bod yn hytrach yn ceisio "tynnu'r ddwyblaid ddig yn un" yn lle chwennych buddugoliaeth plaid gan fwyafrif ar leiafrif anfoddog. Wedi i mi osod y pethau hyn mewn llythyr, gwahoddwyd fi fel dyn rhydd i'w cyngor. Cofiaf ymgynghori â Llafurwr a oedd yn heddychwr ac yn Grynwr am y buddioldeb o anfon i'r Prif Weinidog gylch-lythyr wedi ei arwyddo gan y rhai a deimlai mai heddwch gwirioneddol â'r Almaen oedd y cam cyntaf a phwysicaf gerbron y Senedd. Cydwelodd yn hollol, ond pan awgrymais y byddai nifer o Ryddfrydwyr a rhai Toriaid yn barod i arwyddo'r apêl, syrthiodd ei wyneb a dywedodd, "Yr oedd ymddygiad y Rhyddfrydwyr yn ffiaidd yn yr etholiad, yn ein galw yn Folsiefiaid a phopeth."

"Ond," meddwn, "beth am ——?" gan enwi Rhyddfrydwr, a oedd yn heddychwr ac yn Grynwr. "Na, yr oedd yntau yn y busnes hefyd."

Deallais yn fuan mor gyndyn oedd rhwymau ymbleidiaeth yn y Tŷ, nid yn unig oherwydd y Chwip, a'r etholaeth, a'r safle, a'r sicrwydd o'r 400p. yn y flwyddyn, ond y teimlad fod pob un a âi'n groes i "ffrynt unedig" y blaid, yn cael ei gyfrif yn granc neu'n fradwr. Y tu allan i'r Tŷ, yn y Lobi, gwelid Tori a Rhyddfrydwr, Sosialwr a chyfalafwr yn siarad yn eithaf rhydd, ond yn y Senedd a'r wlad yr oedd pawb dros. ei blaid ym mhopeth, nes i'r Prif Weinidog ei hun ddweud fod aelodau wedi myned yn cyphers diystyr dan Chwip eu plaid. Deallais hefyd fy mod innau "tan y ddeddf" fel pris fy hawl yn y Senedd, a bod pob pleidlais mwyafrifoedd yn treisio barn lleiafrif, yn peri ystrywiau rhwystrol diddiwedd gan yr Wrthblaid. Gorfodaeth hefyd oedd pob gweithred Seneddol, gan ddeddf a dirwy a chosb, ac nid oeddwn innau'n rhydd i osgoi dadlennu a chosbi trosedd o'r ddeddf gan gâr a chyfaill gwleidyddol fy hunan. Parodd yr anawsterau hyn ofid a phenbleth, er yr holl garedigrwydd a gefais gan y Llefarwr (a ddywedodd wrthyf fod ei fab ei hun yn heddychwr) a'r Aelodau yn gyffredinol. Bûm yn wael am rai misoedd o deyrnasiad byr y Llywodraeth Lafur. Pan ddeuthum drachefn i'r Tŷ a siarad am gymod ar fater rhannu tiriogaethau De a Gogledd Iwerddon, synnwyd fi gan sirioldeb

Aelodau o bob plaid wedi i mi apelio am godi'r cwestiwn at Frawdlys Crist a'i ysbryd. Daeth nifer ohonynt i ysgwyd llaw, a mynnodd Syr Charles Trevelyan, Gweinidog Addysg wedi hynny, i ni gael cinio ynghyd er mwyn dilyn meddwl y cymod ymhellach; ac yr oedd yntau'n ŵr heb broffesu crefydd. Nid oes ofod yma i ddisgrifio polisi Macdonald na'i gais i leddfu gelyniaeth Poincare a Ffrainc, na'r ystrywiau anystyriol a'i bwriod ef o'i swydd, na'r cyhoeddi gan y Daily Mail o'r Zinoviev Letter (heb i neb hyd heddiw wybod nad oedd yn gelwydd) i chwarae ar ofn a rhagfarn y wlad am Rwsia. [3] Perthyn y pethau hyn i game gwleidyddiaeth. Cofiaf awr olaf y Senedd honno. Yr achos gerbron ydoedd araith gan ŵr dinod o Gomiwnydd o'r enw Campbell, a fu'n erfyn ar filwyr beidio ag ymladd dros Lywodraeth gyfalafol; gwrthododd y Llywodraeth ei gosbi gan feddwl na buasai hynny ond yn tynnu sylw at ddemagogiaeth ddinod. Cyhuddwyd y Llywodraeth gan yr Wrthblaid o goleddu Comiwnyddiaeth, a hynny gan wŷr a aethant, ymhen rhai blynyddoedd, yn gefnogwyr Macdonald yn y Llywodraeth Genedlaethol. Cynigiwyd pleidleisiau gwahanol o gondemniad gan y Toriaid a'r Rhyddfrydwyr; ffromodd y P.W. gan fychander ystryw o'r fath, a dywedodd y safai neu y cwympai'r Llywodraeth ar y bleidlais. Yn yr awr olaf, tynnodd y Toriaid eu cynnig yn ôl, er mwyn pleidleisio gyda'r Rhyddfrydwyr, a oedd bellach wedi eu dal yn eu bagl eu hunain; ac yn hytrach nag ildio "a cholli wyneb" gadawsant i'r Llywodraeth gwympo ar hanner ei waith. Bûm yn siarad â Macdonald hanner awr cyn y bleidlais; yr oedd mewn tymer nerfus ac yn dioddef yn fawr gan y ddannodd. Dywedais wrtho fod Lloyd George a Syr John Simon yn edrych yn glaf wedi chwarae tactics plaid a chael eu dal gan y Toriaid yn eu bagl eu hunain. Torrodd yntau allan: "Dylent edrych yn glaf. Y fath chwarae plant am fater mor fychan, a chymaint o broblemau pwysig gerbron y wlad." Modd bynnag cafwyd y bleidlais a thaflwyd allan Lywodraeth a wnaeth lawer mewn byr amser i wella sefyllfa Ewrop. Yn olaf peth, ysgydwais law a'r hynod E. D. Morel, y gŵr a wnaeth gymaint i ddadlennu erchyllterau Belg ar frodroion y Congo, a hefyd yr ystrywiau diplomyddol rhwng y cenhedloedd cyn y rhyfel yn ei lyfr Truth and the War, ac a gafodd chwe mis o garchar am anfon copi o'r llyfr i'w gyfaill Romain Rolland yn y Swistir. Diolchais iddo am feiddio dal at "y gwir yn erbyn y byd" trwy'r blynyddoedd. Daeth dagrau i'w lygaid, daliodd yn fy llaw. Bu farw ymhen ychydig fisoedd. Gŵr na chafodd y parch dyladwy gan ei wlad, ond a geisiodd gadw Prydain at ddelfrydau gwirionedd a thrugaredd, ac a dorrodd ei galon yn yr ymdrech.

Dysgodd fy mhrofiad byr yn y Senedd ystyr ddyfnach i'r gair a roddais yn fy anerchiad etholiadol, sef, "Gwell bod yn rhydd mewn carchar, na bod yn gaeth mewn llys." Fel y canodd Pantycelyn:

"Mae dyfais parch, mae dyfais clod,
Mae dyfais bod yn fwy

yn wreiddiau cuddiedig i lawer o'r anghymod sydd mewn gwleidyddiaeth a Senedd. Profwyd gan hanes Lloyd George, Lansbury a Ramsay Macdonald fel ei gilydd, fod gelynion dyn, mewn gwleidyddiaeth, yn aml "o'i dy a'i dylwyth ef ei hun," a bod y dorf, fel y galon, "yn fwy ei thwyll na dim." Y drwg yw fod byd ac Eglwys wedi dysgu cyfrif pennau a barnu llwyddiant wrth swydd a phoblogrwydd. Yn y dyddiau hynny agorwyd drysau cynadleddau crefyddol i mi led y pen, mewn modd gwahanol iawn i'r hyn a fu yn nyddiau'r genhadaeth hedd yn y rhyfel; ond buan y caewyd hwynt ac y daliwyd fi led braich pan gymerais ochr amhoblogaidd drachefn. Modd bynnag, dysgais fod clicied y drws i frawdoliaeth rydd, fel i ryddid yr Efengyl, yn is o lawer na llwyfan Senedd a Sasiwn ac na allai'r dorf na chynrychiolwyr y dorf fyned yn hawdd drwy borth cyfyng rhyddid ysbrydol.

ADDYSG

Profiad pwysicaf yr aelodaeth Seneddol, efallai, heblaw y cyffyrddiadau personol lawer â dynion o bob math, a phlaid ac enwad, ydoedd y cyfarfodydd o'r graddedigion a oedd yn athrawon yn ysgolion Cymru. Cymhellais hwynt i weithio allan eu hiachawdwriaeth eu hunain, ac iachawdwriaeth y plant yn y mannau lle'r oeddynt, a chyflwyno addysg, fel crefydd, "Nid rhag ofn y gosb a ddêl, nac am y wobr chwaith." Credais ei fod yn bosibl, ac yn ymarferol mewn ysgolion diwylliedig, fagu cymdeithas rydd a threfnus a chariadus yn yr ysgol heb blygu i'r curo dwl a'r gystadleuaeth afiach a'r cramio dienaid a dynnodd gerydd a phrotest Syr O. M. Edwards pan oedd yn Brif Arolygydd Ysgolion Cymru. Yn ddieithriad bron, cyfododd yr apêl gyffes a phrotest yr athrawon yn erbyn safonau arholiadol a wnaeth fywyd athro a phlentyn fel ei gilydd yn faich mewn llawer ysgol. Yr oedd y rhieni gymaint yn y tywyllwch â'r aelodau o'r Cyngor Addysg, yn eu hanwybod o'r ffaith eu bod yn "lladd y cywion er mwyn yr wyau." Wrth darfu rhyddid, naturioldeb, gwreiddiolder, a gwir ddiwylliant y plant, yr oedd bywyd yn mynd yn feichus a nerfus iddynt dan ddisgyblaeth arholiad a amcanwyd nid i'r lliaws ond i'r llai na 7 yn y 100 a aeth ymlaen am addysg academig i'r colegau. Nid oedd gennyf yr un ateb i gŵyn a cham yr athrawon, ond eu cymell i addysgu eu meistri ac agor llygaid y rhieni a'r cyhoedd i'r difrod ar galon a meddwl y plant, a'u datgysylltiad o wir ddiwylliant Cymru. Mewn ambell ysgol mentrwyd tynnu'r iau a dibynnu ar ras yn ôl eu proffes crefyddol. Yn ysgol enwog Howell, Dinbych, nid oes na marc na chosb ers blynyddoedd, ac mewn ysgol yn Llŷn gweddnewidiwyd wynebau plant yr ardal gan athro deallus a dwys.

ADDYSG GREFYDDOL

Un peth yw tynnu allan fap o'r wlad a disgwyl ffarmio crefydd trwy lun a chynllun o addysg grefyddol; crefft arall yw dysgu trin gardd a thyfu llysiau a charu blodau. Yn wir, cyfeiliornodd Cymru oddi wrth foddion gwirfoddol a chrefyddol addysg wrth roddi ei bryd ar gynlluniau cenedlaethol, ac ar ffarmio addysg er mwyn marchnadoedd, ac anghofio'r cymhelliad efengylaidd, "Nid rhag ofn y gosb a ddêl, nac am y wobr chwaith." Dywedodd Syr O. M. Edwards, yn ei adroddiad fel Prif Arolygydd yr ysgolion yn 1909, ein bod eisoes yn yr ysgolion canol yn magu "bechgyn pren" wedi eu cramio â ffeithiau di-fudd ond at bwrpas pasio arholiad. Cofiaf imi gael gwahoddiad, pan oeddwn yn y Senedd, i ymweled â'r hen ŵr Syr Arthur Acland, y Gweinidog Addysg pan basiwyd Mesur Ysgolion Canolraddol Cymru. Soniodd yr hen ŵr gyda hiraeth am ddyddiau'r brwdfrydedd gynt yng Nghymru am addysg, am ei gyfeillgarwch â Tom Ellis, am ei dŷ yng Nghlynnog Fawr, am orymdaith fawr o chwarelwyr a welodd ym Mlaenau Ffestiniog i wrando arno'n annerch ar ddelfrydau addysg i Gymru, ac am gyfraniadau gweithwyr a gwladwyr i godi ysgol sir a choleg. "Ni welais y fath sêl dros addysg yn unman yn Ewrop, ebe'r hen ŵr, "ond sut y mae'r cwbl yn gweithio allan?" Ni allwn ond plygu fy mhen wrth feddwl am eiriau Syr O. M. Edwards a Syr Alfred T. Davies, ei olynydd, am siboleth yr arholiad a'r certificate, a dywedais fy mod yn ofni i'r pethau hyn fyned yn eilunod yng Nghymru. Gofidiai'r hen ŵr. "O'm rhan fy hun hoffwn weled gwneud i ffwrdd â'r arholiadau i gyd," meddai, gan gyfeirio at adroddiad rhyw bwyllgor o'r Bwrdd Addysg.

Eleni fe gyhoeddir o bennau'r tai am ddrwg yr eilunaddoliaeth o'r certificate, a gyfaddefwyd ugain mlynedd yn ôl gan athrawon ystyriol yng Nghymru. Onid yw Papur Gwyn y Gweinidog Addysg, ac Adroddiad Norwood ar Addysg Ganolradd yn cyfaddef y cam gafodd cenhedlaeth o blant y gallesid eu gwaredu pe buasai arloeswyr a diwygwyr ddigonol i'r cyfle ym mhlith athrawon Cymru. Onid trwy arloeswyr a gwirfoddolwyr, ynghanol eilunaddolwyr y gyfundrefn, y bu pob diwygiad mewn crefydd ac addysg?

Fel yn yr Eglwys, felly yn yr ysgol, y mae rhyw ymdrech wastadol rhwng sant a swyddog; y mae'r ddelfryd yn mynd yn ddelw, ac ysbryd yn creu cyfundrefn, a'r gyfundrefn yn llethu’r ysbryd. Wrth ymweled ag ysgolion gwlad, a chyfarfod athrawon, cefais olwg ar y gwahaniaethau dirfawr a allai fodoli rhwng ysgolion dau bentref yn yr un cwmwd neu yn yr un dref. Dywedai prifathro diwylliedig yn Chwilog wrthyf ei fod wedi alltudio'r gosb ers blynyddoedd a bod y gwrthwynebiad i hynny wedi dod oddi wrth flaenoriaid y capel a amheuodd fod ymarferiad gras o'r fath yn groes i'r Ysgrythur. Cofiaf weinidog ym Mhen Llŷn yn dweud wrthyf fod athro ieuanc "wedi gweddnewid wynebau plant yr ardal." Euthum yn un swydd i Fynydd y Rhiw i gael gweled y rhyfeddod. Wedi myned i'r ysgol, hawdd ydoedd credu gair y gweinidog. Yr oedd rhyddid naturiol a hoffus y plant yn eu cadw'n ddistaw pan oeddwn yn ymgomio â'r athro, ond ni rwystrwyd iddynt ymgomio'n dawel na chodi o sedd i gael gair â bachgen ar ddesg arall. Gofynnodd yr athro a fuasent yn hoffi canu i mi; "Anthem Johnny," ebe un o'r genethod. Eglurodd yr athro mai Johnny oedd wedi ei chyfansoddi. Dyfeisiwyd ganddo chwaraeon i fechgyn a genethod ynghyd, modd y gallai cyflymder y genethod gytbwyso cryfder y bechgyn. Wedi myned i'w dŷ am ginio, ac aros hanner awr wedi'r amser i'r ysgol ail-ddechrau, cefais y plant yn yr ysgol yn gweithio'n siriol ac wedi tynnu a lliwio darluniau o'r pentref yn gelfydd ddigon. Dywedodd yr athro lawer stori wrthyf am y naill a'r llall o'r plant, ac am ei ymdrech i dynnu allan eu doniau neilltuol o ryw gaethwasiaeth meddwl, a oedd wedi eu meddiannu hwynt o'r blaen. Dywedodd am un bachgen dwl na fedrai ei ddiddori mewn dim na'i ysgogi i unrhyw uchafiaeth, nes ei osod am fis cyfan i drin ei ardd. Gwnaeth y bachgen orchest o'r gwaith, nes tynnu edmygedd y plant eraill. Ac o hynny allan, deffrodd ei ddiddordeb mewn pynciau eraill yr ysgol. Pan gyfarfu'r athro â damwain, anfonodd am ddau o'r bechgyn at ei wely a gofynnodd eu barn. Cynigiasant ar unwaith ofalu am yr ysgol, a gwnaethant hynny mewn modd boddhaol am wythnos. Gwelais yn yr ysgol honno wir ystyr addysg grefyddol pe buasent heb agor y Beibl erioed, oherwydd undeb ysbryd a chymdeithas rasol dan "berffaith gyfraith ryddid."

Bûm yn ymweled hefyd yn aml âg Ysgol Howel, Dinbych, ysgol eglwysig a gyfrifid gynt yn geidwadol a snobyddol. Wedi i brifathrawes newydd dynu'r ysgol i drefn a llwyddiant, yn ôl ystyr ystrydebol y geiriau hyn, teimlodd ryw anfoddhad a chymhelliad i aberthu a myned yn genhades i India. Trowyd ei meddwl oddi wrth y genhadaeth dramor at genhadaeth gras yn yr ysgol, a chymryd o ddifrif sanctions addysg grefyddol, sef "Gras ein Harglwydd Iesu Grist a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân." Gwelai fod hyn yn golygu chwyldro ym moddion yr ysgol a chymhellion meddwl y plant, os oeddynt, mewn gwirionedd i "gael eu maethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Felly, wedi trafodaeth a gweddi gyda'r athrawesau eraill, datganwyd i'r ysgol anturiaeth newydd, a chymryd addysg grefyddol o ddifrif; a chyhoeddwyd na byddai na marciau na chosbau o hynny ymlaen. Yn naturiol fe ddigwyddodd yr helyntion sydd i'w disgwyl ym mhob pererindod o gaethwasiaeth yr Aifft i ryddid Gwlad yr Addewid. Yn naturiol hefyd cwympodd y results yn ddifrifol am dro; cwynodd a beirniadodd y rhai arwynebol yn llym, ond yr oedd bywyd newydd yn amlwg yn yr ysgol, a bu'r hen Archesgob, cadeirydd y llywodraethwyr, a hen brifathro ei hunan, yn gysur ac yn gefn i'r athrawesau yn eu hanturiaeth. Y flwyddyn ganlynol enillwyd y ddwy ysgoloriaeth uchaf yn Rhydychen, ac yna daeth troad y rhod a chystadleuaeth rhieni i gael eu plant i'r ysgol. Daeth yr Arglwydd Ganghellor i ddosbarthu'r gwobrau, a soniodd am yr ysgol enwog," a chafwyd can mil yn rhodd at adeiladau ychwanegol. Yn ôl archwilwyr y Bwrdd Addysg, "Nid oes yn yr ysgol ddisgyblaeth, ond y mae ynddi drefn berffaith."

Dymuna pawb goron llwyddiant y byd, ond gwinga pawb yn erbyn croes y tyfiant newydd distadl, "Megis gwreiddyn o dir sych." Ond yn ôl Syr Michael Sadleir, felly y datblyg odd y diwygiadau mwyaf bendithiol a bywydol ym myd addysg, sef o dosturi dynol. Meddyliais weithiau wrth glywed cwyn y dydd yn erbyn militariaeth, cyfalafiaeth, eglwysyddiaeth, a bwganod eraill yr oes, fod diafol pen- pentan yn agosach o lawer: yr oedd yn cael llonydd i weinyddu ei awdurdod fygythiol a rhwystro'r plant rhag myned i mewn i lywodraeth lariaidd Teyrnas Dduw. Canai'r hen fardd gwlad, Siôn Pistyll:

"Echel Duw yw cydweithrediad,
Esmwyth arni try y cread;
Diafol, trwy gael help dynoliaeth
Roddodd echel 'Cystadleuaeth.'

Trowch i'r Eglwys, dyma'r echel
Gaiff ei moli, gaiff ei harddel,
Uchaf marciau arholiadau
Am y mwyaf rhif aelodau.

Pa wahaniaeth i chwi sarnu
Eich cyd-ddynion, os bydd hynny
Er eich mantais yn ariannol,
'Hunan-garedd sydd grefyddol'."

ADDYSG A BYWYD

Cyn i mi ymadael o Lanrwst fe'm gwahoddwyd gan Mr. Wynn Wheldon, Cofrestrydd Coleg Bangor, i geisio dechrau dosbarth (Extra Mural Course) yno dan nawdd y Brifysgol. Tynnais allan gwrs o astudiaeth ar "Gydweithrediad mewn Natur a Chymdeithas"; defnyddiwyd llyfr Kropotkin ar Mutual Aid yn werslyfr. Yr oedd y cyfarfod cyntaf yn yr Ysgol Ganol, ac yn hynod o ffurfiol a dilewyrch, a phawb wrth ei ddesg ei hun, nes i ni symud i'r gegin ac eistedd o amgylch y tân a'r ystafell. Yr oedd y dosbarth yn hynod amrywiol a diddorol-Rhingyll yr Heddgeidwaid, meddyg anifeiliaid, athrawon ac athrawesau, tyddynwyr, siopwyr, etc. Ceisiais wynebu, yng ngolau rhyfel a rhyfel dosbarth, y syniad Darwinaidd, fel y'i dehonglwyd gan Huxley, Haeckel ac eraill, mai ymdrech ddiystyr a di-foes y "trechaf treisied" ydoedd bywyd natur. Yr oedd y syniadau hyn eisoes wrth wraidd athroniaeth y Sosialaeth Farcsaidd yn yr Almaen a Rwsia, ac yn lledaenu yn Ne Cymru. Dilynwyd enghreifftiau o obaith moesol a welwyd gan fywydegwr, fel Henry Drummond, megis "gronyn o had mwstard," ym mywyd y bychan a'r gwan yn nyth yr aderyn ac yn ffau'r anifail, ac fel yr ymddangosai fel ymdrech o fath arall, ymdrech dros, ac nid yn erbyn bywyd. Dilynwyd lledaeniad bywyd o berthynas i haid y colomennod, a phraidd y defaid, yn ôl "Efengyl Datblygiad" Syr Arthur Thomson, nes dod at y teulu a'r tylwyth dynol, yr hen "gymortha" Cymreig, a'r Seiat a geisiodd rannu beichiau calon, meddwl a chorff dynion, i'r addysg a liniarodd gosb y tad a cherydd yr ysgol a phoenydiaeth y carchardai. Cawsom gyfraniadau gwreiddiol a phrofiadol gan y vet a'r tyddynwr ar natur a magwraeth anifeiliaid, gan yr athrawon ar ddisgyblaeth plant, a chan y Rhingyll ar driniaeth troseddwyr deddf. Fel yr elai'r cwrs (awr o ddarlith ac awr o ymgom) yn ei flaen, yr oedd y diddordeb yn cynyddu, yr ymchwil yn dyfnhau, y cymhwysiad yn agosau, a'r gwrthdrawiad rhwng grym a gras i'w weled ym mhob agwedd o'n perthynas gymdeithasol. Ar ddiwedd y cwrs, ac yn y wledd ymadawol, yr oedd rhyw ddwyster wedi ein meddiannu oll. Dywedodd y Rhingyll siriol a diwylliedig: "Yr ydym wedi darganfod fod cysegredigrwydd a chyfrifoldeb ysbrydol yn perthyn i'r holl alwedigaethau y meddyg, yr amaethwr, yr athro a'r heddgeidwad—ac wedi gweled gwerth gweinidogaeth y naill a'r llall. Pe daliem at y weledigaeth, gellid gweddnewid Llanrwst."

Meddyliais wedyn lawer am y rhyddid, y diddordeb, y dwyster a gawsom ynghyd, a thybiais fod modd ac angen ail-gynneu tân ar hen aelwyd y Seiat Brofiad—nid yn unig i gyffes profiad y galon, ond hefyd i ddealltwriaeth y meddwl ac i gyffyrddiad llaw y bywyd beunyddiol. Fe andwywyd y Seiat fore am 12 mlynedd gan ddadleuon diwinyddol dansoddol a di-fudd rhwng Harris a Rowlands, ac eraill ar eu hôl, oedd heb ddysgu goddef barn wahanol a rhyddhad o ddeddfoldeb y llythyren i chwilio'n ddyfnach am gymod meddwl a chalon. Ond ni ellir darllen "Drws y Seiat Brofiad" gan Williams Pantycelyn heb ganfod mor ddwfn oedd ei ddehongliad o angen yr holl ddyn yn y Seiat, a'i gynllun ar gyfer angen a diwylliant calon, meddwl a gweithred cydweithredol. Yr oedd dull a threfn diwylliant ysbrydol Pantycelyn yn hynod debyg-a chan mlynedd o'u blaen—i ddulliau'r proffwyd Grundtvig yn Nenmarc; pe buasem wedi dilyn gweledigaeth Pantycelyn, yn hytrach na mesur llwyddiant crefydd wrth gyfrif eisteddleoedd a chynulleidfa—oedd, pwy a ŵyr na fuasai yng Nghymru heddiw y diwylliant crefyddol a'r amaethyddiaeth gydweithredol a wnaeth werin Denmarc yn batrwm i weriniaeth Ewrop? Yn wir dyna erfyniad athronwyr cymdeithasol fel G. D. H. Cole, ac addysgwyr fel Syr Richard Livingstone, yn awr—ar i ni ddechrau ar weriniaeth leol a chymdogol, ac addysg wir, wrth drafod profiad a bywyd yn rhydd gyda'n gilydd.

YR HEN ARCHESGOB[4]

Efallai mai oherwydd fy aml ymweliadau ag Ysgol Howel, Dinbych, y cefais lythyr oddi wrth Archesgob Cymru yn fy ngwahodd i ymweled ag ef pan fyddwn nesaf yn y Gogledd. Arferwn edrych arno yn nyddiau ieuenctid ac ymbleidiaeth Rhyddfrydiaeth fel prif elyn Ymneilltuaeth fy nhadau, a mawr oedd fy rhagfarn yn ei erbyn. Ef oedd testun darlith Lloyd George gynt ar "Esgobion yn gyffredinol ac Esgob Sant Asaff yn neilltuol"; atebwyd ef gyda'r un dilorniad gan yr Esgob, a soniodd am "Ragrith rhyfygus yr Anghydffurfwyr." Wedi i mi gyrraedd y Plas, derbyniwyd fi ganddo â'r hynawsedd mwyaf. Ar ôl cinio, aethom i'w lyfrgell. Siarad- odd yn rhydd ac yn annwyl am ei dad, a fu'n Rheithor Llanymawddwy, ac am ei fam, a ddysgodd Gymraeg, ac am yr hen frwydrau rhwng capel ac eglwys. Dywedai-fwy nac unwaith, gan ysgwyd ei ben, "Gormod o ymryson yn fy mywyd: triniwyd yr Anghydffurfwyr yn gywilyddus gan yr Eglwys, ac ad-dalwyd y cam ganddynt hyd yr eithaf." Dywedodd mor falch ydoedd o weled Lloyd George yn galw, pan ar ei ffordd o Lundain i Gricieth, ac am y fraint a gafodd o weinyddu'r Cymun iddo ar adeg ei orseddiad fel Archesgob, ac fel y credai mai ei hen elyn gynt ydoedd y gwladweinydd â'r weledigaeth bellaf o holl wladweinwyr y wlad. Rhyfedd- ais glywed fel yr oedd yr hen elyniaeth wedi darfod, a chyfeillgarwch wedi cymryd ei lle; ond gofidiais na buasai dau ŵr mor fawr wedi dod yn gyfeillion yn gynt, ac er lles eu gwlad. Soniodd am grefydd yng Nghymru a'r gobaith am Undeb Cristnogol. "Nid Anglo-Catholig mohonof," meddai, gan ysgwyd ei ben drachefn.

Dywedais wrtho nad oeddwn yn credu llawer mewn undeb cyfundrefnol deddfol, ond yn hytrach mewn cyfuneb ysbryd a chyfeillgarwch wrth gydweithio. Dywedais wrtho am y gwaith ym Maes-yr-haf, a Chrynwyr, Eglwyswyr, Presbyteriaid ac Annibynwyr yn byw a gweithio ynghyd heb neb yn tynnu'n groes. "Nid wyf yn disgwyl i chwi," medd- wn, "fod yn gyfrifol am grwydriadau creadur od fel minnau, ond byddai'n gysur teimlo eich bendith ar yr amcan." Er fy syndod atebodd, "O, yn sicr fe'i cewch. A gawn ni fynd ar ein gliniau?" Arhosasom felly am ennyd; yna cododd ac adroddodd y Fendith yn y modd mwyaf archoffeiriadol. Wedi i mi godi, rhoddodd ei law yn fy mraich a dywedodd, "Nid sant mohonof, fel Joyce, ond gŵr garw gyffredin mewn swydd uchel yn yr Eglwys." Bellach diflannodd yr Arch- esgob, a'r Eglwyswr cadarn, a'r gwleidydd pybyr; gwelais dad, a chalon ysig a chatholig y Cristion.

Yr olwg olaf a gefais ar yr hen Archesgob wrth ffarwelio oedd yng nghapel bach ei blas. Gofynnodd: "A gawn ni fyned ar ein gliniau am ennyd?" Felly y bu-minnau yn y côr ac yntau wrth yr allor-mewn distawrwydd hir; ac yna clywais ei lais mewn gweddi yng ngeiriau Newman:

"Arglwydd, cynnal ni ar hyd y dydd o'n bywyd trafferthus, hyd ymestyniad y cysgodion, a dyfod dechreunos, distewir prysurdeb byd, derfydd twymyn bywyd, a gorffennir gwaith. Yna, Arglwydd, yn Dy drugaredd caniatâ i ni lety diogel, gorffwys sanctaidd a thangnefedd yn y diwedd, trwy Iesu Grist, ein Harglwydd."

Ffarwel, a heddwch i'w enaid.

GWERSYLL Y BECHGYN

Yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel, teimlodd nifer ohonom a welodd helyntion y rhyfel ei bod yn bwyer dangos i'r ieuainc fod modd cyfuno gwyl a gwaith a gweddi mewn ffordd naturiol a chyfeillgar mewn gwersylloedd haf i fechgyn Cymru. Yr oedd yr Athrawon C. Harold Dodd, Herbert Morgan, y cyn-Gapten E. C. H. Jones, Tom Ellis, ac eraill, yn weinidogion ac yn leygwyr, ymhlith arloeswyr y mudiad. Am ddeng mlynedd cynhaliwyd gwersylloedd haf i gannoedd o fechgyn Cymru, yn Gymry ac yn Saeson, yn yr Afonwen, Tonfanau, Builth, Aberedw, Manorbier, a mannau eraill yn y De a'r Gogledd. Cysgasom mewn pebyll a chymerasom ein lluniaeth yn llawen, a'n gwaith bawb yn ei dro. Ymunodd hen ac ieuainc i ddringo'r mynyddoedd, ymdrochi yn y môr, chwarae a chanu ynghyd a chyd-weddïo mewn gwasanaeth crefyddol fore a hwyr. Erbyn yr ail Saboth yr oedd y gyfeillach wedi myned mor rhydd a naturiol fel yr aeth yn arfer cadw seiat gan y bechgyn eu hunain. i ddweud eu meddyliau ac i drafod y profiadau a oedd yn eu cyrraedd. Hyfrydwch dihafal ydoedd hyn i ninnau y rhai hŷn, wrth gael rhan ym mywyd meddwl a chalon y bechgyn. Teimlais ein bod, wrth fedru cadw'n ddistaw, fel pe'n gweled cwningod gwylltion wedi mentro o'u tyllau ac yn pori a chwarae yn ein hymyl.

Ym mater "trefn a chynhaliaeth" y gwersyll yr oedd pawb yn rhannu'r gwaith, ac yn cael llais yn nisgyblaeth y trosedd- wyr. Rhan o syniad sylfaenol iawnderau Prydain yw'r hawl i'w "farnu gan eu cymar" (judgment by peers), ac wrth ddod ag achos trosedd gerbron y bechgyn, a gwahodd eu sylwadau, yr oedd eu dyfarniad yn llawer agosach a phwysicach i'r bechgyn na phe buasai "hen ddynion wedi oeri eu gwaed" yn gosod y ddeddf i lawr. Gwahoddwyd i'n plith fachgen o Almaenwr a ddaeth yn fuan iawn i'n serch ac a gollodd ddagrau wrth ymadael â'r gwersyll. Y mae yntau'n awr yn Llu Awyr yr Almaen, a'i gyfaill mynwesol yn y gwersyll yn Llu Awyr Prydain. Beth yw atgofion Karl a Gwilym tybed, a'u hamheuon wrth hedeg i'r entrych i ddinistrio, pan gofiant hwy am gyfeillach diniwed hen-wersyll y bechgyn ym Manorbier? Wrth fyw ynghyd, cafwyd cyfeillgarwch mewn wythnos na chyrhaeddir ei hafal mewn cynulleidfa barchus efallai am flynyddoedd. Pwy a anghofia'r Cymun a weinyddwyd o Fara a Dŵr, a ninnau'n eistedd ar lan afon fach ymhlith y bechgyn troednoeth? Yn wir, nid syniadau, nac enwadau, na sefydliadau, yw sylfaen a moddion gwir gymdeithas, ond dylanwadau "rheffynnau dynol a rhwymau cariad" a dynn galonnau ynghyd, wrth gofio mai "crwydr- iaid a phererinion ydym ar y ddaear." Nid yn ddiystyr y cadwyd Gwyl y Pebyll fel defod flynyddol gan yr hen genedl rhag iddynt anghofio'r ffaith hon.

Cyfarfum yn aml ag athrawon, a gwahoddais nifer o brif- athrawon ysgolion elfennol ac ailraddol Cymru, ynghyd â phrifathro'r Liverpool Institute, i ystyried ynghyd ofynion gwir addysg grefyddol. Dyna oedd eu casgliad, nad mater o ddysgu gwersi Beiblaidd, na chanu emynau, ydoedd addysg grefyddol, ond bywyd, cydweithrediad, gras a gwirionedd ymarferol yng nghymdeithas ddyddiol yr ysgol. Nid oedd sail i ddisgwyl cydweithrediad ar y tir rhwng amaethwyr a addysgwyd i gystadlu yn erbyn ei gilydd ym mywyd yr ysgol a'r ffair. Amcan addysg ydoedd deffro meddwl, dangos egwyddor, deall diwylliant eu cymdeithas, a dysgu sut i fyw gyda'i gilydd.

Cofiaf ymhen blynyddoedd wedi hyn, ymweled â'r annwyl a'r dysgedig Ddr. Prys Williams, Prif Arolygydd ysgolion Cymru, yn ei waeledd olaf. Pur ddigalon ydoedd am ei waith ynglŷn â'r ysgolion. "Cofiaf pan oeddwn yn llanc yn Chwilog," meddai, "ddwsin o ddynion gwreiddiol y gallasech ddisgwyl barn annibynnol, ddeallus, ganddynt ar gwestiwn o wleidyddiaeth neu ddiwinyddiaeth; ond heddiw, wedi hanner can mlynedd o addysg ysgol, ni allaf feddwl am ddau cyffelyb iddynt yn y pentref." Nid oedd ei brofiad yn fwy digalon na chyfaddefiadau diwethaf Syr Richard Livingstone, yn ei lyfr, The Future in Education, sydd yn troi'n ôl at ddiwylliant gwerin a phrofiad bywyd a thrafodaeth agored o drefn yr Efengyl fel moddion addysg wirioneddol.

RHYFEL YNG NGHYMRU

Wrth geisio, yn ôl penderfyniadau'r Sasiynau, barhau i oleuo aelodau'r eglwysi ar achosion rhyfel sydd yn eu cyrraedd ac yn gyfrifoldeb iddynt, nid ellir anwybyddu y rhyfel diwydiannol a fu wrth eu drysau. Yng nghymoedd y De trwythwyd yr Undebau Llafur gan athrawiaeth Karl Marx, a ddysgai fod rhyfel dosbarth cyfalaf a llafur yn "achos mawr tu ôl" i ryfel gwledydd a phleidiau. Dengys adroddiad y Comisiwn Ymchwil, a benodwyd yn 1917, dan lywyddiaeth yr enwog a'r annwyl Syr Lleufer Thomas, i archwilio achosion anghymod diwydiant yn Ne Cymru, fel y bu ymrafael sectau, a hen gweryl capel ac eglwys yn feithrinfa i ysbryd plaid. At hynny, rhaid oedd cofio dylifiad y dynion dod i'r cymoedd o Fryste, Dyfnaint a Gwlad yr Haf, heb fawr o draddodiad crefyddol. Ond o bob achos, y cryfaf ydoedd dylanwad delfrydau Sosialaidd yr "I.L.P." (y Blaid Lafur Annibynnol) a dynnodd gymaint o gefnogwyr o blith y rhai a ddeffrowyd gan Ddiwygiad 1904 i geisio cyfiawnder cymdeithasol. Wedyn y daeth yr athrawiaeth Farxaidd a materol, a ddylanwadodd yn fawr ar yr arweinwyr ieuainc, drwy foddion y Central Labour College a gynhaliwyd gan Undeb y Glowyr ac Undeb Gwŷr y Rheilffyrdd. Yn ôl yr athrawiaeth Farxaidd, a ddysgwyd yno, yr oedd y rhyfel dosbarth yn rhan o ddatblygiad anocheladwy, a'r moddion gwaredigaeth i'w cael mewn Undebiaeth ddiwydiannol orfodol, nes rheoli o'r diwedd yr holl foddion cynhyrchu. Yn ôl adroddiad y Comisiwn, "Nid oes un rhan o'r wlad yn dal yr athrawiaeth hon mor eang, ac yn ei phregethu mor gyson, â rhanbarth lo Morgannwg a Mynwy."

Yn 1917 nid oedd llai na 500 o efrydwyr y De yn nosbarthiadau'r Coleg Llafur, yn dysgu athrawiaeth Marx am y rhyfel dosbarth, ac yr oedd eu dylanwad yn ehangu'n gyflym iawn mewn gelyniaeth anghymodlon tuag at y gyfundrefn gyfalafol, ac mewn ymdrech am reolaeth lwyr o ddiwydiant gan y gweithwyr. Cynyddodd y dylanwadau chwyldroadol hyn yn yr ugain mlynedd dilynol nes o'r diwedd y pleidleisiodd 12,000 dros yr ymgeisydd Comiwnyddol yn yr etholiad diwethaf, ac yn erbyn y Sosialydd Marxaidd yn y Rhondda. Heddiw y mae Llywydd Undeb Glowyr y De yn Gomiwnydd agored. Ffaith gwerth ei hystyried yw bod arweinwyr plaid yr Aswy yn y Rhondda—A. J. Cook, Frank Hodges, W. Mainwaring ac Arthur Horner, wedi eu codi, a'u colli hefyd, o'r capelau, oherwydd diarddeliad, neu ddilorniad o'u syniadau. Yr oedd hen Sosialaeth yr "I.L.P.", dan arweiniad gwŷr crefyddol, fel Keir Hardie a Bruce Glasier, heddychwyr a ddaethant yn nes-nes at ysbryd a moddion yr Efengyl cyn eu diweddu. Trueni ydoedd diffyg pont yn yr Eglwys rhwng y ddwyblaid a oedd yn datblygu y tu mewn a'r tu allan i'r capelau. Cyffes olaf Keir Hardie i'w gymrodyr oedd:

"Fy nghyfeillion a'm cymrodyr; weithiau yr wyf yn glaf o galon gan wleidyddiaeth a phopeth a berthyn iddi; pe bawn ddeng mlwydd ar hugain yn iau, credaf y gadawswn dŷ a chartref, gwraig a phlentyn i bregethu holl Efengyl Iesu Grist."

Torrodd ei galon pan floeddiwyd ef i lawr yn ei etholaeth ei hun yn Aberdâr pan yn ceisio eu darbwyllo o nwydau y rhyfel diwethaf.

Yn 1921 cofiaf ysgrifennu'n daer at un o brif berchenogion pyllau glo y Rhondda a oedd hefyd yn flaenor Methodist, i erfyn arno geisio "cymodi â'i wrthwynebwyr ar frys" tra oedd y cyfle'n agored a'r bwlch heb ymagor ymhellach. Atebodd fod ei gwmni eisoes wedi paratoi cynllun i rannu'r elw gyda'r gweithwyr, ond nad oeddynt am ei hysbysu ar y pryd rhag iddo ddangos gwendid yn wyneb y bygythiadau. Yr wythnos wedi i'r frwydr fawr ddechrau, gwelais yn Llundain James Winstone, Llywydd Glowyr y De. Holais ef beth oedd yn bosibl i ddyn o ewyllys da o du'r perchenogion ei wneuthur i bontio'r gagendor oedd eisoes yn llyncu elw a chyflog a chysuron bywyd miliynau? Atebodd y gallai'r cyfryw un gytuno â chais y gweithwyr am gronfa ganolog i wastatau'r cyflogau, ond cyfaddefai na allai wneuthur hynny heb gael ei ystyried yn "fradwr" gan Undeb y Perchenogion. Yna dywedodd: "Yn bersonol, nid wyf o blaid ymladd am genedlaetholi'r pyllau glo; o'm rhan fy hunan, buaswn yn barod i dderbyn cynllun Arglwydd Gainford i rannu'r elw." Trychineb yr ymrafael ofer hwnnw ydoedd fod y perchennog blaenaf a'r Undebwr blaenaf, y naill wedi paratoi, a'r llall yn barod i dderbyn, cynllun i rannu'r elw, ond na allai'r naill na'r llall ddatgan ei argyhoeddiadau personol, oherwydd eu hymrwymiadau i'w plaid eu hunain. Diwedd yr helynt oedd gorfodaeth gan y Llywodraeth, heb na gras na chymod, o gynllun i rannu'r elw.

Cofiaf tua diwedd y frwydr yn 1921 ddychwelyd o Iwerddon a myned, ar, wahoddiad cyfaill crefyddol, i genhadaeth hedd ym Mhont-y-pridd. Wedi cyrraedd, deallais nad oedd ganddo yr un cynllun na chyfarfod wedi ei drefnu; bu raid i ni'n dau fyned ar hyd yr heolydd gyda darn mawr o sialc ac ysgrifennu ar y palmant y byddai cyfarfod ar y Comin. Daeth rhyw ddwsin ynghyd y noson gyntaf, ond erbyn y drydedd noson yr oedd cannoedd o lowyr yn bresennol yn yr awyr agored. Eglurais wrthynt fy argyhoeddiad fod rhyw- beth rhy fawr mewn dyn i gael ei orfodi'n derfynol, boed gyflogwr neu weithiwr, i rywbeth a welai'n groes i gyfiawnder a thegwch; ac felly nid oedd obaith i'r streic lwyddo yn y pen draw. Holai Comiwnydd a oedd yn bresennol: "Ai ystyr eich cenadwri yw y dylai'r ŵyn fod yn barod i gael eu hysgleifio gan y bleiddiaid?" Atebais innau fod y cwestiwn yn rhagdybio eu bod hwythau'n ŵyn a'r cyflogwyr yn fleiddiaid, ac nad oedd y naill na'r llall yn wirionedd; ond pe byddai'n wir, dyna oedd arch Crist i'w ddisgyblion—wynebu'r eithaf, "Yr wyf yn eich danfon chwi fel ŵyn i fysg bleiddiaid." Wedi cryn drafodaeth, ac yng ngwydd cannoedd o'r gweithwyr, cododd y naill ar ôl y llall i ddweud mai dyna oedd y ffordd, nad oedd y glowyr eu hunain yn barod i wneuthur cronfa ganolog i rannu'r elw wrth weithio'r haenau glo iddynt eu hunain yn ystod y streic, a bod yr ymdrech i'w "hymladd hi allan" wedi profi'n fethiant llwyr. Synnwyd a chynhyrfwyd fi gan y fath barodrwydd i ystyried ffordd eithafol y canol, a theithiais drwy'r nos at fy nghyfaill, y perchennog, i adrodd y pethau a glywais, ac i erfyn arno geisio estyn llaw brawdoliaeth a haelfrydedd at y rhai gorchfygedig a digalon. Ond, megis y bu ar ôl gorchfygiad yr Almaen, yr oedd y perygl drosodd am ryw hyd, ac ni welwyd yr un datganiad hael o du'r perchenogion ar ôl y fuddugoliaeth ddrud.

Felly yn 1926 cododd cymylau y rhyfel dosbarth drachefn, a mawr fu ymdrech ac ymladd a gofidiau mamau a phlant y glowyr, a cholledion y perchenogion wrth geisio osgoi canlyniadau iawndal yr Almaen a diffyg cymod a chyfathrach cenhedloedd. Cyfeiriwyd eisoes at adroddiad swyddogol Cwmni y Powell Duffryn mor ddiweddar â 1929 am effeithiau andwyol iawndal yr Almaen ar byllau glo Deheudir Cymru. Oherwydd cam a chyni'r glowyr y dechreuodd y Streic Gyffredinol, a fygythiodd ddymchwel y Cyfansoddiad am rai dyddiau. Cofiaf, y dydd Sadwrn y parlyswyd y rheilffyrdd trwy Brydain, i gyfaill o gyfreithiwr, a oedd hefyd yn heddychwr, alw yn fy nghartref yn Nant Gonwy, dan gymhelliad i erfyn arnaf fyned gydag ef yn ei gerbyd i geisio rhywun, rhywsut yn Llundain a allai rywfodd bontio'r gagendor. Ymddangosai ar yr wyneb yn anturiaeth ofer a chwerthinllyd, ond yr oedd gofid fy nghyfaill mor fawr â'i ffydd mor gref fel y mentrais fyned gydag ef. Arosasom yng Ngwesty Euston. Cefais air ar y phone â gŵr o'r Cyfrin Gyngor, a ddywedodd y buasai Mr. Baldwin yn datgan ei air olaf ar y sefyllfa y diwrnod canlynol. Aethom oddi yno rhag blaen i dŷ'r Arglwydd Salisbury, fy marnwr hynaws a chyfiawn pan oeddwn dan y ddeddf ger ei fron. Cefais wahoddiad ganddo i'w weled drannoeth. Y noson honno daeth fy nghyfaill i'm hystafell-wely i awgrymu ysbaid o dawelwch a gweddi am fendith ac arweiniad yn ein cais. Synnais braidd at hyn, am ei fod gynt yn gapten yn y fyddin ac yn fab i Gyrnol, a heb broffesu crefydd yn amlwg. Y bore canlynol cefais ei fod wedi ymadael o'r gwesty, a bwyteais fy mrecwast ar fy mhen fy hun mewn peth penbleth; ond toc dychwelodd ac eglurodd ei fod wedi mentro myned yn fore at dŷ Ramsay Macdonald, a chael ymgom ag ef, ac erfyn arno, os camgymeriad a chamarweiniol oedd y Streic Gyffredinol, y dylasai ef ei gwrthwynebu'n gyhoeddus yn ei blaid ac yn y wlad. Euthum innau y prynhawn at yr Arglwydd Salisbury a chefais ef yr un mor siriol a chwrtais â phan oeddym gynt yn farnwr a throseddwr. Wedi i ni siarad peth am bethau personol, a chan y gwyddwn ei fod yntau'n cael yr enw o fod yn arweinydd i'r Ceidwadwyr diehard anghymodlawn, mentrais ddweud wrtho mai gwendid, yn ôl safon Crist, ydoedd torri'r drafodaeth â'r Trades Union Council a thaflu'r achos i ymgais anfoesol y nerth a'r llu, a'r trechaf treisied. Atebodd y cyfaddefasai hynny, pe bygythid ei blaid, ond yr oedd bygythiadau ac osgo Llafur yn peryglu holl Gyfansoddiad a Senedd Prydain, wrth fygwth gyrru'r holl wlad i anarchiaeth. Cyfaddefodd hefyd ei fod yntau'n ŵr plaid ac yn aml yn gorfod gweithredu ar lefel is na'i ddelfryd ei hun, ond, ei fod yn gobeithio, heb anffyddlondeb i ddisgyblaeth Crist yn ôl ei oleuni.

Disgrifiais innau gyflwr a chyflog y glowyr, ac atebodd ar ei union nad oedd am foment yn cymeradwyo plaid y perchenogion. Wedi siarad yn hir am hyn a'r llall, dywedais wrtho ein bod wedi siarad am lawer o bethau ac nad oeddwn yn sicr a ddeallai fy amcan wrth ddyfod i'w weled. Gwenodd ac ymaflodd yn fy llaw, "Yr wyf yn eich deall yn berffaith, ac yn gallu eich sicrhau chwi nad yw eich ymweliad yma yn ofer." Teimlais, wedi ffarwelio ag ef, a cherdded-strydoedd Llundain, a chofio'r digalondid y noswaith gynt, fel pe buasai Boneddwr mwy na'r Ardalydd Salisbury yn gwenu hefyd ac yn dweud, "O chwi o ychydig ffydd." Cadwyd y cysylltiadau cyfeillgar hyn ar hyd y blynyddoedd. Cefais lythyr oddi wrtho fis yn ôl, yn holi fy hanes, a dweud ei fod wedi meddwl yn aml am yr hyn a fu rhyngom 25 mlynedd yn ôl.

Y prynhawn hwnnw euthum i Swyddfa y "T.U.C." a gynrychiola Fudiad Llafur ac Undebau Llafur y deyrnas. Cefais air gydag Arthur Henderson ac arweinwyr eraill, ac ymgom gyda'r Athro Laski, cynghorydd economaidd y blaid. Gofynnais iddo beth oedd amodau heddwch gwirioneddol a fuasai'n foddion i godi pont dros y bwlch. Atebodd nad oedd slogan A. J. Cook, "Not a cent, not a second," i'w chymryd o ddifrif, ond y byddai raid dosbarthu'r pyllau glo yn dri dosbarth: (1) Y rhai a dalent; (2) Y rhai mewn angen am gymorth y Llywodraeth am ryw hyd; a (3) Y rhai y dylid eu cau yn ddi-oed a symud y gweithwyr i ddiwydiannau eraill.

Euthum oddi yno, ar gymhelliad St. Loe Strachey, y Ceidwadwr a Golygydd y Spectator, i weled Syr, Alfred Mond (wedi hynny Arglwydd, Melchett) prif berchennog pyllau y glo carreg yn Sir Gaerfyrddin, a chynrychiolydd y perchenogion Rhyddfrydig. Ni welais ŵr erioed a atebai'n well i'r enw "Iddew Babylonaidd"; yr oedd moethau ei dŷ a dillad ei weision lifrai yn peri syndod bod y fath ddyn yn rheoli glofeydd Sir Gaerfyrddin, ac yn cynrychioli Cymry a chrefyddwyr yn y Senedd. Wrth siarad, rhegai fel cath, ond yn erbyn y perchenogion y rhegai fwyaf, am eu diffyg gweledigaeth a'u diffyg gwybodaeth o gyfundrefnau'r Almaen i'r diwydiant glo. Tosturiai dipyn dros y "diawliaid druain" o lowyr, am a wyddai nad oedd ganddynt obaith buddugoliaeth. Yna eglurodd ei gynllun i bontio'r gagendor, ac er fy mawr syndod, yr oedd ganddo bron yr un syniadau â'i gyd-Iddew, yr Athro Laski.

Pan dynnwyd yn ôl gymorth y "T.U.C." o rengoedd y glowyr, a slogan ymladd yr ymladdwr Cook, diweddodd y Streic Gyffredinol, a mawr a fu'r galw "bradwr" ar arweinwyr gwŷr y rheilffyrdd ac eraill, am dynnu'n ôl o'r frwydr, a gadael y glowyr i ymladd eu hunain. Parhaodd y frwydr a'r dioddef erchyll yn y cymoedd glo hyd fis Rhagfyr 1926, hyd onid oedd buddugoliaeth y perchenogion yn amlwg. Truenus yw meddwl am ddioddefaint ofer y miloedd, y gwasgaru ar deuluoedd a chymdogion, yr anystyriaeth o'r ffeithiau sylfaenol ynglŷn â'r iawndal, a pha mor agos oedd syniadau arweinwyr blaenaf y naill ochr a'r llall at ei gilydd. Ond pan ddechreua rhyfel, distawa rheswm. Yr oedd y wasg ddyddiol yn dal i chwythu'r tân yn ôl eu plaid, hyd oni losgwyd sylwedd yr ymladd, sef elw'r perchenogion a chyflog y gweithwyr, a chysur teuluoedd tlodion am ddeuddeng mlynedd. Wedi'r rhyfel cartref ymfudodd dros 400,000 o werin y cymoedd i Loegr; bu dros gan mil o wŷr Mynwy a Morgannwg heb waith yn ceisio byw ar ddogn o 23s. i ŵr a gwraig, a 2s. ar gyfer pob plentyn, a thalu 7s. o rent.

YMBLEIDIAETH TORF

Ni ellir chwilio allan achosion rhyfel, na rhyfel dosbarth heb ystyried ffeithiau seicoleg nwyd ac ysbryd y dorf. Erbyn hyn, astudiwyd ac eglurwyd gan efrydwyr o'r natur ddynol pa mor dueddol ydym oll i ysbryd elfennol yr haid sydd yn uno dynion yn erbyn haid arall—mewn sect, plaid, dosbarth a gwlad.

Gair miniog H. G. Wells ar y pwnc yw "Arwydd diffael o'r dyn anianol yw ei feddwl ei fod yn uno wrth uno yn erbyn." Gwelsom undeb y cynghrair gyda'r Eidal a Siapan yn y rhyfel olaf; gwelsom undeb Anghydffurfwyr yng Nghymru yn erbyn yr Eglwys yn helynt. Datgysylltiad; gwelsom gyfnewidioldeb y dorf yn y Rhondda bob deng mlynedd yn 1904 yn heidio i'r capelydd, yn 1914 yn heidio i'r rhyfel, yn 1924 yn heidio i'r gwrthryfel politicaidd yn erbyn y Llywodraeth, ac yn 1934 yn heidio i'r Blaid Gomiwnyddol yn erbyn y Blaid Lafur. Ac yn ymbleidiaeth torfeydd hyd heddiw, nid rheswm ond rhagfarn rhyfygus sydd yn ennill clust a chalon. Cofiaf ddatganiad Syr Alfred Mond yn 1924 fod pob pleidlais i'r Blaid Lafur yn bleidlais "tros flag waedlyd Rwsia." Gwelais yn y Times heddiw (Gorffennaf 1942) achos yn y Llys gan Pemberton Billing, a safai dros frwydro'n fwy didostur â'r Almaen, yn cyhuddo ei orchfygwr yn yr etholiad o dramwyo drwy strydoedd yr etholaeth gan weiddi trwy loud-speaker fod "pob pleidlais dros Pemberton Billing yn bleidlais i Hitler." Nid yr "etholedigion" yw'r gwŷr a etholir felly i'r Senedd. Effaith propaganda cyhoeddi llythyr Zinoviev ar fin yr Etholiad Cyffredinol yn 1924, trwy foddion y Swyddfa Dramor, a gafodd y llythyr gan ysbiwr di-enw, heb sicrwydd nad oedd yn dric celwyddog, oedd cwymp Llywodraeth Macdonald. Drylliodd hyn gynllun Protocol y Cenhedloedd yn Genefa, a oedd eisoes wedi ei dderbyn gan yr holl genhedloedd, i baratoi moddion cyflafareddiad diogeliad a diarfogiad; gwrthodwyd y cynllun wedyn gan y Llywodraeth Doriaidd a etholwyd.[5] Enwaf y pethau hyn i bwysleisio cyfrifoldeb arbennig yr eglwysi i "fagu barn ar y ddaear" rhag i'r defaid dynol gael eu gyrru gan ragfarn plaid dros y dibyn, ac i ddisgyblion Crist anghofio rhybudd difrifol yr Iesu: "Paham na fernwch, ie ohonoch eich hunain, y pethau sydd gyfiawn?" a chymodi â'r gwrthwynebwr ar frys cyn myned tan ddeddf dial a distryw.

CYNHADLEDD OBERAMMERGAU

Yn ystod haf 1926 fe'm gwahoddwyd i Gynhadledd Heddwch Gydwladol yn Oberammergau yn Bafaria. Yr oedd y pentref hynod yn enwog drwy'r byd oherwydd adduned y pentrefwyr dair canrif yn ôl i ddathlu Pasiwn y Groes bob deng mlynedd fel offrwm i Dduw. Tynnai hyn ymwelwyr o bob cenedl, a chysegrir blwyddyn y pasiant gan yr holl drigolion. Arhosais yn nhŷ un o'r pentrefwyr siriol a duwiolfrydig, a chlywais gloch yr offeren feunyddiol am saith bob bore, pan lanwyd yr Eglwys â'r addolwyr defosiynol. Cyfarfûm ag Anton Lang, a chwaraeodd ran yr Iesu yn y pasiant dros drigain gwaith yn ystod yr haf, am dair awr o berfformiad dwys a difrif. Gwerth y cwbl a enillodd yr haf hwnnw oedd pâr o esgidiau. A dyma wlad y gelyn y'n dysgwyd ei fod yn rhinwedd i ddistrywio ei thrigolion, yn wŷr, gwragedd a phlant, yn ystod y rhyfel. Rhyfedd oedd gweled yno y gofgolofnau i'r bechgyn a gwympodd "Dros eu Duw a'u gwlad," a gweddïau y mamau a ysgrifennwyd ac a osodwyd mewn cas gwydr yn ystod y rhyfel wrth groesbrennau'r croesffyrdd: "O santaidd Fam, cymorth ni, a thyred a'n bechgyn yn ôl i ni." Cwrteisi a diwylliant y pentrefwyr, a glendid llygaid gleision y plant, a'u cyfarchiad syml Gruss Gott a drawai ddyn ym mhob man. Cynhaliwyd rhai o'n cyrddau yn ysgol y plant. Ym mhob ystafell yr oedd delw Crist, a hefyd ddarluniau o Bismarc, Von Moltke, a'r hen arweinwyr milwrol. Ond nid yn yr Almaen yn unig y dysgwyd deuoliaeth gwasanaeth Crist a Mawrth, a Christ a Mamon.

Y Dr. Siegmund Schultze, cyn-gaplan yr Ymherawdr, oedd llywydd y Gynhadledd a gynrychiolai ddeiliaid cenhedloedd Ewrop, gwŷr a gwragedd o Holand, Denmarc, Sweden, Rwsia, Tsieco Slofacia, Groeg, Bwlgaria, Ffrainc, y Swistir, America, Awstria, Hwngari, Esthonia, Ffinland, Iwerddon a Chymru, a llawer gwlad arall. Cymerasom ein lluniaeth ynghyd ac yn llawen yng ngwesty hynafol y "Rhosyn Gwyn," ac wrth bob bwrdd yr oedd cyfuniad rhyfedd o genhedloedd na chyfyrdduasant erioed o'r blaen. Cofiaf Bwlgakov, cyn- ysgrifennydd y proffwyd Tolstoi, yn canu alawon gwerin Siberia; ac aelodau o Adar Crwydrol. (Wandervogel) yr Almaen a aeth allan yn finteioedd llawen o lanciau a genethod i weithio ar y ffermydd, ac i ganu yn y pentrefi hen alawon gwerin eu gwlad, a cheisio dychwelyd at symledd bywyd rhyddid a natur, mewn adwaith i ddisgyblaeth lem militariaeth a diwydiant yr hen Almaen. Cofiaf Yanco Todoroff y Bwlgar, a'i wallt du, a'i fraich am ysgwydd - Groegwr ieuanc pryd-golau, hardd, Orestes Iatrides, ac yn sibrwd wrthyf: "Ymleddais â'r Groegiaid ddwy waith, ond dyma'r tro cyntaf i mi gael ymgom fynwesol ag un ohonynt, a theimlaf fod Iatrides yn fachgen ardderchog."

Cofiaf seiat brofiad yng ngolau canhwyllau yng ngoruwch-ystafell yr hen westy, a chlywed profiad y rhyfel a hanes ing enaid o enau'r gwŷr a'r gwragedd a ddaeth i sicrwydd fod gan Dduw well ffordd na rhaib a rhuthr rhyfel i ddiogelu cyfiawnder a rhyddid. Clywais nifer o efrydwyr o Brifysgol Munich yn adrodd fel yr oedd cannoedd o'r efrydwyr yn gorfod byw ar ryw bum swllt yn yr wythnos oherwydd tlodi mawr y dosbarth canol. Cefais wybodaeth gan Bwlgakov, ac eraill o'r Rwsiaid, am erledigaeth a thrueni disgyblion Tolstoi dan yr Unbennaeth yn Rwsia er eu bod erioed wedi tystiolaethu yn erbyn gormes militariaeth a chyfoeth, dan lywodraeth y Tsar; a chlywais am Hwngari a chreulonderau plaid y Dde wrth y gwrthryfelwyr gwaedlyd Bolsiefaidd. Ar bob llaw yr oedd hanes trais yn magu trais, yn ymgyrch cenedl, plaid a dosbarth. Cyfaddefodd y Brenin Boris, Brenin Bwlgaria, wrth gyfaill i mi a aeth ar genhadaeth hedd i Soffia, ac a gyrhaeddodd y diwrnod wedi llofruddiaeth esgobion a mawrion gwlad gan fomiau'r wrthblaid yn yr eglwys gadeiriol-ei fod bron anobeithio ym mhob plaid ac yn gofidio na fuasai'r Eglwys Uniongred trwy'r gwledydd Balcanaidd yn ceisio tynnu'r cenhedloedd at ei gilydd yn hytrach na chwythu tân eu cynnen genedlaethol. Teimlai llawer un yn y gynhadledd yr angen am fyned yn ôl at Grist ei hun, o draddodiad cenedlaethol yr eglwysi, a dysgu o'r newydd ysbryd a gweithred ei ddisgyblaeth Ef.

Ym Munich gerllaw, yn y dyddiau hynny, yr oedd milwr dinod o Awstria yn cymell ei hen gyd-filwyr i godi a sefyll yn erbyn gormes estroniaid, yr Iddewon rheibiol, a'r cyfalafwyr dienaid, a thros yr Almaen ac yn erbyn anarchiaeth y Bolsiefiaid gwrthryfelgar. Adolf Hitler oedd hwnnw. Drylliwyd yr Almaen gan ugain o fân bleidiau, a chan ormes y Ffrancwyr a gwrthryfel oddi mewn, a chan anobaith y saith filiwn o wŷr di-waith. Cofiaf ymgom â chyn-gapten o fyddin Ffrainc, a adroddodd i mi fel yr ymladdai trwy'r rhyfel â chydwybod glir nes clywed telerau Heddwch Fersai: yna sylweddolodd eu bod yr un mor ormesol â phe buasai'r Almaen wedi ennill y rhyfel. Ymddiswyddodd o'r fyddin a chynigiodd wasanaeth ei fywyd i Gynghrair y Cenhedloedd. Pwysais arno adrodd ei brofiad yn y gynhadledd, a gwnaeth hynny pan ar fin ymadael; yno cododd yr Almaenwyr, y naill ar ôl y llall, pan ddychwelai o'r llwyfan, i wasgu ei law o ddiolch am fod un Ffrancwr o leiaf yn teimlo drostynt, ac yn cyffesu'r cam a gawsant.

Arhosais wedyn mewn ffermdy bychan ym mynyddoedd y Tirol, a chlywais gyda'r nos y gŵr a'r wraig a'i ferch yn y gegin yn canu hen alawon. Clwyfwyd y gŵr yn y rhyfel, ond nid oedd ganddo fawr o syniad am ei achos na'i angen, ond fod yn rhaid iddo fyned i'r fyddin i ymladd yn erbyn yr Eidal. Gwelais yn Innsbruck, prifddinas y Tirol, weddw prif gadfridog Awstria, a oedd o dras uchelwyr pennaf Ewrop, ond a oedd yn awr mewn tlodi dirfawr ac yn gorfod ei chynnal ei hun wrth ddysgu ieithoedd. Gwelais hefyd rai o'r plant a ddygwyd i Loegr a Chymru yn newyn ofnadwy 1920, a mawr oedd eu canmol o'r caredigrwydd a gawsant. Cofiais am Betty fach a ddaeth gyda hwynt o Vienna i Dŷ'n y Maes yn Nant Ffrancon wyllt fynyddig, ac am y cariad a'i cwmpasodd yno. Cyflwynwyd i'r Dr. Joan Fry gan Brifysgol Gatholig Innsbruck y radd o Ddoethor, o barch i waith dyngarol y Crynwyr yn y dyddiau hynny, a gadwodd gynifer o blant yn fyw, a goleuni Crist rhag ei lwyr ddiffodd yng ngelyniaeth y cenhedloedd. Yng nghanol tref Innsbruck safai cofgolofn fawr i ddeng mil o wladwyr y Tirol ac arno y geiriau syml trist "Trengasant yn ofer"; ar bob llaw clywais y gŵyn fod mynyddwyr Deheudir y Tirol, o dras a diwylliant puraf a hynaf yr Almaenwyr Awstriaidd, wedi eu gosod dan drais Mussolini a'r Eidalwyr gan y cenhedloedd a broffesai ymladd dros "hawliau'r cenhedloedd bychain." Gwaharddwyd bellach eu hiaith yn yr ysgolion, newidiwyd enwau eu trefydd hen, a distrywiwyd hyd yn oed gerrig beddau'r milwyr a drengodd dros Awstria; a llanwyd yr ysgolion gan athrawon Ffasgaidd anniwylliedig o'r Eidal, a geisiodd lwyr ddiystyrru tras a thraddodiad y plant.

YR EGLWYS

Yn 1918, yn nistawrwydd carchar Birmingham, meddyliais gryn dipyn am "natur eglwys." Yr oedd gennyf gysylltiadau tras a thraddodiad â'r Hen Gorff trwy fy nhaid, John Jones Tal-y-sarn, a'm teulu, a thrwy lawer o bersonau a chyffyrddiadau cynnes a wnaethum yn Llŷn y flwyddyn cynt; ond nid oedd y berthynas bellach yn gyfyngedig i un enwad arbennig. Yng ngwaith Brawdoliaeth y Cymod deuthum i gyfeillach ddyfnach ac ehangach nag aelodaeth ffurfiol â brodyr o bob enwad, ac yn arbennig felly gyda'r Crynwyr yn eu hagwedd at ryfel, a rhyddid cydwybod, a'u Cenhadaeth Hedd mewn llawer cylch. O beth i beth, deuthum i'r argyhoeddiad mai personol a grasol, ac nid cyfundrefnol a deddfol, ydoedd ystyr aelodaeth, sef bod aelodau o Gorff Crist yn aelodau o'i gilydd." Felly, ond nid heb betruster rhag camddealltwriaeth, penderfynais roddi fy aelodaeth i fyny, a "thorri'r asgwrn er mwyn ei hasio yn well." Medrais anfon llythyr o'r carchar yn ceisio egluro hyn i awdurdod- au'r Corff. Yr oeddwn wedi manteisio, er hynny, cynt a chwedyn, ar bob cyfle i fynychu moddion a chymdeithas y brodyr pan yn gweithio ar y tir, ac yn fawr fy serch at gapelau bychain a chymdeithasau cartrefol gwlad Llŷn; ond teimlwn rywsut y gwahaniaeth dwfn rhwng y gymdeithas gartrefol rydd a phersonol a'r cyfundrefnu deddfol a chaeth. Wedi fy rhyddhad o garchar, parheais i fynychu a mwynhau'r moddion yng nghapel bach Nant Ffrancon, ac i bregethu neu annerch pan fyddai drysau'n agor "tan ras."

Wrth geisio dibynnu ar ras a gwahoddiad, teimlwn yn fwy rhydd fy meddwl nad oeddwn yn ymwthio dan hawl, ac yn groes i'r graen. Yn 1925, pan yn pregethu yng nghapel bach Salem y Coed, ger Llanrwst, pwyswyd arnaf yn daer ac yn dyner gan y Parch. E. O. Davies, llywydd y Sasiwn, i ym- aelodi drachefn am fod fy niffyg aelodaeth yn "dramgwydd i'r saint." Eglurais wrtho na fynaswn dramgwyddo neb, ond na allwn gymryd arnaf fy mod yn derbyn y Gyffes Ffydd gyfreithiol, na'r rheolau disgyblaeth a oedd yn peri diarddel troseddwyr, nac ymbellau o gyfeillach y rhai nad oeddynt "o'r gorlan hon," yn arbennig y Crynwyr. Wedi hir ymgom, a thrafodaeth llythyrau wedyn, atebodd nad oedd yr un rheswm, yn ôl ei farn, i mi beidio ag ymaelodi'n rhydd ac yn agored. Cyhoeddwyd ein llythyrau yn Y Goleuad a derbyniwyd fi'n aelod yn y capel bach cyfeillgar.

Ymhen rhyw flwyddyn fe'm gwahoddwyd i fod yn weinidog i gapelydd bychain yn Nhowyn a Chwm Maethlon. Ceisiais egluro fy syniadau a'm hargyhoeddiadau yn glir iddynt, ond daliasant yn eu gwahoddiad. Felly teimlais na allwn wrthod yr alwad, ond ceisio gweithio allan y Genhadaeth Hedd mewn cylch arbennig. Eglurais fy argyhoeddiad drachefn, wrth gael fy ordeinio yn Sasiwn y Rhos, gan ddangos i'r llywydd a darllen yn yr arholiad cyhoeddus, y datganiad, "Tra nad ydwyf yn bwriadu gwrthwynebu rheolau'r Cyfundeb, yr wyf yn credu, pe caem ein harwain gan ysbryd Duw, y buasem yn dod yn wir gymdeithas o gyfeillion." Yn wir, synnwyd fi gan ehangder a sirioldeb eu derbyniad, heb neb yn tynnu'n groes. Cefais hefyd bob rhyddid a charedigrwydd a chydweithrediad gan frawdoliaeth capelydd bychain Towyn a Chwm Maethlon heb un cerydd na thramgwydd i'm cenhadaeth agored, na chan yr eglwysi y pregethais ynddynt.

Gwerthfawrogais yn fawr fraint y pulpud, ac yn fwy y gyfeillach a gefais ar aelwydydd y saint, ond teimlais angen mawr cyfeillach rydd yn yr eglwysi am y "pethau a berthyn i'n heddwch" ym mywyd beunyddiol y ffarm a'r chwarel a'r ffair. Gwyddwn am y bwlch a oedd mor fynych yng Nghymru wledig y tu allan i ddrws y capel rhwng ffarmwr a ffarmwr, meistr a gwas, cyflogwr a gweithiwr, capel ac eglwys, plaid a phlaid. Yn wir, ni bûm yn hir ym Meirionnydd heb ddarganfod bod traddodiadau a delfrydau Tom Ellis ac O. M. Edwards am ryddid, naturioldeb ac agosatrwydd y diwylliant Cymreig ymhell o gael eu sylweddoli yn eu sir eu hunain: Yn nhrefydd glannau'r moroedd yr oedd dilyw dieithriaid yr haf, a bywoliaeth y rhai a oedd yn cael eu bara beunyddiol ar wyneb y dyfroedd hynny, wedi magu rhyw waseidd-dra meddwl i'r Saeson goludog a chymffyrddus a ddeuai yno ar eu gwyliau, gyda'u harferion a'u syniadau suburban, a gwarant derfynol eu harian parod. Darfu am iaith a diwylliant y Cymry yn ystod yr haf, ac am gynulleidfa'r capelau i raddau yn y bore, ac am gymdeithas gartrefol y dref yn y gaeaf. Dilynwyd hen unbennaeth Doriaidd boneddigion a thirfeddiannwyr ac eglwyswyr gan weriniaeth siopwyr, marsiandwyr a chyflogwyr, ac yr oedd y bwlch yn dal yn ddwfn rhwng Rhyddfrydwr a Thori, capel ac eglwys, cyflogwr a gweithiwr; nid oedd yn hawdd cymdeithasu'n rhydd a dringo dros gloddiau'r gwahanol gorlannau heb dramgwydd i'r naill neu'r llall.

Gwelais felly o brofiad fod y bylchau cymdeithasol a oedd yn rhwygo Ewrop i'w gweled ar raddfa lai, ac weithiau'n bechadurus o fychain, wrth y drws yn fy ngwlad fy hun, er gwaethaf clychau'r Eglwys a chyhoeddi cymanfaoedd yr Efengyl. Teimlais weithiau fod pwyslais ar gysuron a maddeuant Efengyl Crist, ar draul ufudd-dod i'w orchmynion a'i ethig, yn gwneuthur crefydd yn noddfa ond nid yn nerth i aelodau weithio allan Ei iachawdwriaeth mewn cymdeithas. Fel y dywedai Puleston, yr oedd cylchoedd ym mywyd cymdeithas, megis masnach, diwydiant, a gwleidyddiaeth, yn cael eu cadw ar wahan i grefydd, fel y reservations hynny yn yr Unol Daleithiau lle y caffai'r Indiaid Cochion fyw yn ôl eu harferion anianol. Yr oedd pawb yn canmol Trefn Gras i'r enaid, ac yn y Nefoedd, ond ychydig a oedd yn ei chredu'n ymarferol mewn llywodraeth plant yn yr ysgol, pechaduriaid agored yn y seiat, gweision ar y ffarm, a gweithwyr yn y chwarel. Mewn canlyniad, wedi ymgynnull i eistedd a gwrando am ddwy awr mewn wythnos, ymwasgarai'r addolwyr, pawb i'w le ei hun-ei ysgol, ei blaid, ei swydd, heb yr un arwydd efallai, yn y can awr o'r wythnos y tu allan i furiau'r capel, ei fod yn dal y Ffydd Gatholig neu'n ymarfer cyffredinolrwydd y saint. Pwysleisiwyd cymaint ar ryddid yr unigolyn gan Anghydffurfiaeth gynnar mewn crefydd, a chan Ryddfrydiaeth mewn gwleidyddiaeth a masnach, nes anghofio'n aml gyfuno cymdeithas y saint â chydweithrediad dinasyddion crefyddol.

Mewn ambell ysgol wlad, yr oedd curo a chramio'r plant yn dal mewn cyflawn arfogaeth, fel yn hanes O. M. Edwards yng Nghlych Atgof o'i blentyndod yn ysgol Llanuwchllyn. Gwir bod Williams Pantycelyn a'r Methodistiaid cyntaf wedi sefydlu'r seiat yn unswydd i drafod a thrin angen ysbrydol, meddyliol a thymhorol y saint; ond pan aeth y Cyfundeb yn barchus yn y byd, datblygwyd y gyfundrefn ddeddfol a chyffredinol ar draul y cyfuniad lleol a phersonol; cynyddodd y cyrddau mawr ar draul y cyrddau bach. Gwerthfawr iawn yn wir ydoedd Fraternal y gweinidogion unwaith y mis, ond nid oedd cyfnewid pulpudau yn gyffredin, ac nid oedd cyfathrach rhwng capel ac eglwys. Eithriad ydoedd arfer eglwysi Abergynolwyn fynyddig ar Saboth Seiat y Cenhedloedd. Gwahoddwyd fi yno i bregethu, yn y bore yn Eglwys y Plwyf, yn y prynhawn yn hen Eglwys Llanfihangel y Pennant, a'r Ymneilltuwyr yn bresennol, ac yn y nos yn y Capel Methodist a'r Ficer a'r eglwyswyr yn y gynulleidfa. Gwnaeth arwydd o'r fath rywbeth i'n hatgofio am gyffredinolrwydd y Ffydd, a'n cyfrifoldeb am y byd mawr cenhedlig, drwy geisio Cynghrair y Cymdogion fel sail leol i Gynghrair y Cenhedloedd.

Ceisiwyd hefyd yn y dref, oedd mor ranedig gan hen ymrafael Tori a Rhyddfrydwr, dynnu'r dinasyddion ynghyd gan Gymdeithas y Trethdalwyr. Ceisiwyd gan brif feddyg y dref fanteisio ar gynnig y Llywodraeth i dalu costau gwelliannau cyhoeddus er mwyn rhoddi gwaith a chyflog i'r diwaith; a chan fod nifer o'r fath yn dioddef, a chyflwr y dŵr yn druenus, hyrwyddwyd mudiad cyhoeddus i erfyn ar y Cyngor weithredu. Ond buan y codwyd gwrthwynebiad yr wrthblaid, er bod yr amcan ynddo'i hun yn briodol ac amserol. Gwelais fod ymbleidiaeth yn rhannu'r gwersyll a cheisiais wrth lywyddu yng nghyfarfodydd chwarterol y trethdalwyr feithrin rhyddid barn a llafar, ynghyd â chwrteisi trafodaeth, a thipyn o hiwmor. Credaf i'r cyfarfodydd hyn ysgafnhau'r awyr gryn dipyn, a chwalu peth ar y cymylau llethol o ymbleidiaeth a drwgdybiaeth a oedd yn cadw cymdogion yn gaeth yn eu cregyn.

Teimlais lawer tro wrth ystyried y sefyllfa, a oedd mor debyg i sefyllfa llawer pentref yn y De, wirionedd sylw'r hen William Ellis Maentwrog, wedi iddo fod ar y traeth ym Mhorthmadog yn cael llwyth o lo, ac yn holi yn y seiat wedyn: "A ydyw cregyn bach y traeth yn agor eu genau am fod y môr yn dod i mewn, neu ynteu a ydyw'r môr yn dod i mewn am eu bod hwy yn agor eu genau?" Fe welwyd rhywbeth o'r fath y llynedd pan dorrodd dilyw rhyfel dros drefydd a phentrefi; yr oedd y trueni yn torri'r cregyn, a phobl barchus suburbs Llundain yn dechrau adnabod a hoff eu cymdogion, efallai am y tro cyntaf. Cafodd ffoaduriaid a noddedigion groeso, oherwydd y storm, mewn cartrefi na buasent erioed wedi agor eu drysau cyn y rhyfel; ond pwy a ŵyr na buasai modd atal llifogydd dinistriol gelyniaeth pe buasai'r cregyn wedi agor i gariad cymdogol, a chreu ambell ynys o gymod a chydweithrediad, fel y gwelais hwynt ymhen blynyddoedd yn nirwasgiad y Rhondda?

Yr oedd bywyd o'r fath i'w weled yn agosach ac yn anwylach mewn ambell gwm yn y wlad nag yn nhrefydd glannau'r moroedd. Er enghraifft, yr oedd capel bach y Bwlch, Tonfannau, tair milltir o'r dref, yn "achos delfrydol" yn ôl datganiad ymwelwyr y Cyfarfod Misol. Amaethwyr a gwladwyr oeddynt oll. Cynhaliwyd yno Ddosbarth Tutorial y Brifysgol gan Ifan ab Owen Edwards am dair blynedd, a'i effaith ar ddeall a dawn a rhyddid ymadrodd gwragedd y ffermydd a'r gweision yn amlwg-y seiat yn rhydd a dwys a chartrefol; hefyd yr oedd teimladau hynod o gynnes rhwng yr hen flaenor William Jones a'r ieuainc oed, a hefyd â'r tirfeddiannwr, y Capten Nanney-Wynn, a oedd yn arfer anfon danteithion a blodau o'r plas at wledd y Cyfarfod Misol. Teimlwyd ar unwaith mewn lle o'r fath fod gwahaniaeth mawr rhwng cyfundrefnu a chyfanu, mewn byd ac Eglwys, rhwng oerni deddfol y naill a chynhesrwydd grasol y llall, rhwng caethiwed ymbleidiaeth sectyddiaeth a rhyddid ysbryd cymdogaeth a chymortha cyffredin.

Mewn ambell bentref gwnaeth mudiad Neuadd y Pentref, a'r Women's Institutes, dan arweiniad doeth, gryn dipyn i dynnu gwerin ardal ac eraill at ei gilydd. Onid yr Eglwys, yn hytrach na'r Ddraig Goch, a ddylasai fod yn "ddyry gychwyn" i bob cyfuno o'r fath? Yn wir fe ddatganodd yr Uchel Eglwyswr enwog, y Tad Stanton, amcan cymdeithasol ei eglwys mewn brawddeg gartrefol iawn: "We have no other object than that of chumming up together for the love of God." Diffiniwyd natur gwir Eglwys Crist gan yr athronydd a'r prifathro John Oman hefyd mewn geiriau eithaf syml: "Cymdeithas anneddfol yw'r Eglwys yn yr hon, os cyfyd gwahaniaethau ac anawsterau, y mae'r apêl olaf at galon brawd; pwysicach yw hyn na dull llywodraeth yr Eglwys, boed hynny drwy Esgob neu Bresbyter."

Ysgrifennaf yr atgofion hyn yng ngwesty hen fynachlog y Tad Ignatius yng Nghapel y Ffin. Ceisiodd y gŵr hynod hwnnw ail-godi gogoniant hen Abaty Llanthony mewn oes newydd, a chyfuno'r grefydd Efengylaidd â'r traddodiad Catholig, heb rwymau Eglwys Rufain. Pum milltir i'r de y saif muriau anferth hen Abaty Pabaidd yr Oesoedd Canol yn syndod o waith seiri ac adeiladwyr yn ei ysblander dirywiedig; tros y mynydd, ger Talgarth, y mae Coleg Trefeca, ac adeiladau'r Teulu crefyddol a dynnwyd ynghyd gan Howell Harris fel datganiad ffydd a chynllun y saint yn yr Eglwys Fore, "a phob peth oedd ganddynt yn gyffredin ac nid oedd eisiau ar neb." Clywais ei fod yn hen arfer gan efrydwyr Coleg Trefeca gerdded dros y mynydd, ar Ddydd Llun y Dyrchafael, i fynachlog Capel y Ffin, a chael croeso'r Tad Ignatius a lle yn y gwasanaeth seremonïol. Felly, o oes i oes, y datgan deiliaid yr eglwys eu breuddwyd am wir gymdeithas y saint, yn hytrach na sect a chynulleidfa, heb nemor ddim ganddynt yn gyffredin yn eu bywyd beunyddiol. Saif olion y sefydliadau a'r cyfundrefnau, ond y mae'r ysbryd yn chwythu ym mhob oes i'r fan a fynno ac yn cymryd ffurfiau eraill o oes i oes. Yn ystod y rhyfel presennol dat- blygwyd nifer mawr o Gyfundebau Cristnogol (Christian Communities) yn amcanu at y nod yma. Yn Sgotland defnyddir Ynys Iona i feithrin ysbryd yr hen ymneilltuaeth fynachaidd, gan y Parch, George Macleod i ddysgu i weinidogion ieuainc Presbyteraidd, ac eraill, waith tir a chrefft llaw, myfyrdod distawrwydd, a hyfforddiant crefyddol, i'w cymhwyso i fyned fel cenhadon i ganol pentrefi Sgotland, a slymiau'r trefydd, a chydweithio â'r gweision ffermydd a labrwyr y ddinas.

Gwelais yr un duedd ymchwil am ffordd yr Efengyl ym mhwyllgorau C.O.P.E.C. (Cynhadledd ar Bolitics, Economeg a Dinasyddiaeth) a drefnwyd gan y Canon Raven dan lywyddiaeth yr Archesgob Temple. Yr oeddwn yn aelod o'r Comisiwn ar "Gristnogaeth a Rhyfel" dan lywyddiaeth y Canon Underhill, Esgob Bath a Wells yn awr. Gwelwyd yno ei bod yn bosibl trafod cwestiynau dyrys a dwfn, a'u gwneuthur yn fan cymod yn hytrach na man cynnen. Cefais yr un profiad yng Nghynhadledd y Wesleaid, ac yng Nghynhadledd Cymdeithas Genhadol Llundain yn Swanwick, wedi gwahoddiad i drafod mater y Genhadaeth Hedd mewn cylchoedd cymdeithasol. Yn wir, yr oedd y cenhadon, a oedd yno ar eu gwyliau o Sina ac India, yn blaenori yn y cais am ffordd yr Efengyl allan o ryfel ac ymbleidiaeth, a sectyddiaeth. Yr oedd y cwestiynau hyn yn bynciau llosg yn yr eglwysi ieuainc yn y Dwyrain a oedd yn gorfod wynebu rhyfel cartref, cenedlaetholdeb, Comiwnyddiaeth, a chynnen dosbarthiadau meddwl y 153 o sectau Cred a oedd yn efengylu yn Sina.

Cofiaf hefyd yn 1926 gyfarfod yng Ngholeg Harlech â Chrynwyr ac eraill a oedd yn pryderu ynghylch cyflwr Deheudir Cymru a'r modd i ddod â chymorth a chymod yno. Wedi'r seiat, a thrafodaeth am dridiau, dychwelasant i'r cymoedd llwm i geisio camau'r cymod a'r cyfiawnder a oedd yn eu cyrraedd; a dyna ddechreuad Cenhadaeth Hedd y gwaith gwirfoddol ac adeiladol cyntaf i gynorthwyo'r di- waith yn y Rhondda ac ym Mhrydain. Mewn gwirionedd, "Deuparth gwaith yw ei ddechrau"-a'i ddechrau'n fach.

TOM NEFYN

Yn y blynyddoedd hynny cododd cwmwl yng Nghymru "megis cledr llaw gŵr" yn achos Tom Nefyn. Mab ydoedd i'm hen gyfaill hoffus a gwreiddiol, y bardd J.T.W., a gyfunai ynddo'i hunan ddawn a thraddodiad a duwioldeb gwerin Llŷn. Cychwynnodd troedigaeth Tom yn uffern y rhyfel pan yn gorwedd yn ei glwyfau ar "randir neb" rhwng byddinoedd Twrci a Phrydain am ddeuddydd. Oddeutu'r amser yma y canodd ei dad:

"Oes trenches yng Ngardd Gethsemane,
I fechgyn a fagwyd yn Llŷn?"

Dechreuodd ar ei genhadaeth ymhlith ei gyd-filwyr, ac yn araf deg enillodd ei ddwyster a'i ddewrder iddo le. Ond ar ôl iddo ddychwelyd i'w gartref yn y Pistyll, ar lethrau'r Eifl, y gwelais ef gyntaf, yn tystio mewn dillad gwaith ym mhen- trefi Llŷn, i'r waredigaeth yng Nghrist. Rhyw chwarae rhwng Seina a Seion yr oedd teithi ei feddwl, ac nid wyf yn sicr na ddyfnhawyd peth ar gysgod Seina gan gwrs yn Ysgol Feiblaidd y Porth. Nid oeddwn yn cyd-weld â llawer o'i syniadau Ysgrythurol; ond am ei argyhoeddiad ynglŷn â phechod a'r ymwared a ddwg yr Efengyl, ni theimlais un ias o amheuaeth.

Wedi iddo fod yng Ngholegau'r Bala ac Aberystwyth, a dilyn cyrsiau correspondent ar yr un pryd mewn amryw bynciau, chwalwyd cryn lawer ar ei gyfundrefn feddyliol; daeth allan o'r athrofa yr un mor selog dros onestrwydd meddwl ag ydoedd gynt dros onestrwydd moesol. Galwyd ef yn weinidog i'r Tumble, Sir Gaerfyrddin, wedi iddo egluro i'r pwyllgor yno ei farn am ddisgyblaeth eglwysig, a'r angen am ddulliau newydd a chreadigol ym myd crefydd. Buan yr wynebwyd ef gan garchariad nifer o lowyr a oedd ar streic, gan gyflwr truenus tai llawer o weithwyr, a chan y rheidrwydd i gael dolen-gydiol rhwng addoliad y Sul-a'r ymdrech economaidd yn ystod y chwe diwrnod arall. Nid pethau abstract oedd syniadau iddo ef, ond i'w bachu wrth gerbydau bywyd.

Newidiwyd dulliau'r seiat a'r cyfarfod gweddi. Mewn dosbarth o'r ysgol Sul rhoed iddynt ryddid i astudio Christ and Labour o waith y cenhadwr C. F. Andrews. Gofalwyd na ddysgai'r plant ddim ond pethau positive; ac yn eu hoedfa hwy ar ambell fore Sul, wrth chwarae â hwy ar nawn Sadwrn, ac mewn grwpiau gyda'r nos, ceisiwyd dyrchafu eu teimladau trwy straeon cain a dramatig. Yn lle'r ddisgyblaeth gyfreithiol, fe'i gwnaethpwyd yn beth preifat a seicolegol. Trefnwyd sgyrsiau byr ar derfyn yr ysgol Sul yn ymwneud â phethau dyrys y Beibl. Yn ystod y gaeaf torrid yr eglwys yn raddau fel y ceffid agosau at bob oedran ar hyd ei sianel ei hun. Troed y seiat ar derfyn oedfa nos Sul yn gyfle i'r gynulleidfa drafod gyda'r pregethwr ambell bwynt a godasai yn ystod y dydd. Ac am dymor yr ymryson diwydiannau yn 1926 agorwyd y festri'n achlysurol er mwyn i'r di-waith gael trafod materion diwylliannol, ac anerchwyd rhai o'r cyfarfodydd gan wŷr deallus a da o bleidiau'r Chwith.

Nid hir y bu cyn i'r gwin newydd ddechrau dryllio'r hen gostrelau. Cwynwyd ei fod yn pregethu ei syniadau ei hun, ac yn adeiladu'r eglwys yn ei ffordd ei hun; ac wedi berw yn yr Henaduriaeth, ac mewn mwy nag un Sasiwn, a'r gwasgu a fu arno gan rai, fe'i gorfodwyd i sgrifennu pamffledyn ar frys, Y Ffordd a Edrychaf ar Bethau. Yr oedd yn amlwg ddigon fod lefain yr ymchwil yn gweithio'n rymus i bob cyfeiriad yn ei feddwl. Penodwyd pwyllgor o ddiwinyddion i ystyried yr achos, a chawsant hwythau fod ei syniadau'n anuniongred mewn amryw faterion o bwys; ac mewn canlyniad ataliwyd ef rhag pregethu mwyach yng nghapelau'r Corff, nes iddo gydymffurfio â safonau'r enwad, er iddo geisio arbed hynyma i'r awdurdodau ac osgoi rhwyg pellach, trwy ymddiswyddo o ofal eglwys leol a myned am gwrs i Loegr. Cynigiodd hynny ddeufis cyn Sasiwn Nantgaredig, yn Awst 1928, phlediodd ar ei ddilynwyr i beidio â chilio o'u hen enwad oherwydd chwerwder.

Datgorfforwyd ei eglwys ychydig yn ddiweddarach gan Gyfarfod Misol De Caerfyrddin. Yr oedd hen ac ifainc heb le bellach i roddi eu pennau i lawr. Gorfododd hyn ei ddilynwyr ymhen tipyn i adeiladu Community House i addoli a chymdeithasu ynddo. Yr oedd Tom Nefyn eisoes wedi ennyn diddordeb rhai o'r Crynwyr, ac aeth y Dr. Henry Gillett a'm brawd yn warant drostynt yn y banc. Un o'r pethau gwerthfawrocaf oedd sêl ac ymlyniad y grŵp diarddeledig yn y Tumble. Cynhyrfwyd y wlad yn fawr gan yr achos, canys ymddangosodd yn fras i'r cyhoedd fel gwrthdrawiad rhwng awdurdod deddf a rhyddid, rhwng ffwndamentaliaeth y llythyren ac ehangder y feirniadaeth fodern a ddysgid ym mhob Coleg. Rhannwyd y wlad a'r eglwysi yn ddwyblaid. Cydymdeimlai llawer gweinidog a lleygwr, ond yn ôl y Weithred Gyfansoddiadol, yr oedd holl eiddo'r Cyfundeb ynghlwm wrth lythyren y Gyffes Ffydd.

Cryn benbleth i heddychwr ydoedd dirnad modd y geisio heddwch yn wyneb deddfwriaeth a oedd yn barod i ddisgyblu gweinidog a chynulleidfa mor llym, am syniadau a oedd yn nhawddlestr meddwl y wlad ac am ymgais i foldio bywyd eglwys ar batrwm addas i oes newydd.

O weled Tom Nefyn heb na chyhoeddiad na chartref, a'i briod ei hun bellach heb aelodaeth eglwysig yn unman, a'i ddilynwyr wedi eu troi ar gomin y byd, fe benderfynais ymneilltuo o'm gofalaeth eglwysig fel gwrthdystiad yn erbyn disgyblaeth a thriniaeth yr ymgroeswn rhagddynt yn gyhoeddus pan y'm derbyniwyd i aelodaeth a gweinidogaeth y Corff. Yna euthum i Goleg y Crynwyr yn Woodbrooke, ger Birmingham, am flwyddyn. Pan oeddwn yno, daeth Tom i'm gweld, wedi trafaelio trwy'r nos, i sgwrsio gyda mi ynglŷn â'r cam nesaf, a bwysai'n drwm ar ei galon. Yr oedd ef ei hun eisoes wedi mynd yn aelod cyffredin o Eglwys Bryn Bachau, yn Eifionydd, fel rhyw gesture syml a chyhoeddus. Gwnaeth hynny er mwyn cadw pont rhyngddo a'r rhai cyfeillgar, byw, effro y tu mewn i'r Hen Gorff; ac ar y llaw arall, rhag i'w fynd a'i ddyfod at ei ffrindiau yn y De beri'r argraff ei fod â'i fryd ar ledu y rhwyg yn yr eglwysi a chychwyn rhyw sect newydd o liw modern a lled boliticaidd.

Ond ynghylch dau beth arbennig yr ymwelsai â mi yn Woodbrooke, sef (1) Awydd grŵp o athrawon a gweinidogion llydan eu cydymdeimlad am adfer ei wasanaeth i'r enwad, a (2) Llythyr y bwriadai yntau ei anfon i'r Goleuad mewn ymchwil am dir canol. Pa fodd bynnag, yn ei lythyr rhoddai fras-olwg ar ei bererindod meddyliol yn ystod y ddwy flynedd yn yr anialwch. Rhoddai ei ddehongliad o fformiwla'r Drindod am i Grist ymddangos iddo fel yr Un a gyfieithai'r ochr dransendent i brofiad yn nhermau Tad, a'r ochr imanent yn nhermau Ysbryd, a weithia yng nghyfeiriad daioni a sancteiddrwydd. Hefyd datganai fod ei osgo at Grist bellach o naws mwy positive. Ond yn sgîl y datganiad hwn o'i eiddo fe godai anhawster: fe'i cyhuddid drachefn gan rywrai o wthio'i syniadau ei hun ar yr enwad. Oherwydd hyn, fe'i gorfodwyd i chwilio am ryw safon o eiddo'r Cyfundeb ei hun. Ni fedrai dderbyn y Gyffes Ffydd, dim ond fel carreg filltir hanesyddol. Ni fedrai chwaith dderbyn yr Erthyglau Diwygiedig a oedd bellach ynghlwm wrth y Mesur Seneddol, a hynny am fod cyfyngu wedi bod ar ambell gymal ohonynt. Ond fe'i gwelai'n bosibl i dderbyn y Datganiad Byr fel amlinelliad o'i ffydd—hwnnw a adroddid ers tro ym mhob Gwasanaeth Ordeinio. Disgrifiad o bethau mewnol ydoedd, nid diffiniad deddfol. Yr oedd o naws Salm ac emyn, ac nid credo caled; medrai dau o safbwyntiau pur wahanol ei gyd-adrodd a rhoi iddo eu dehongliad personol eu hunain.

Chwilio am ddeunydd pont yr oedd am y tir canol. Darllenais ei ddatganiad drwyddo yn ofalus, a gwrandewais ar ei resymau dros dderbyn, fel amlinelliad o'i ffydd, y Datganiad Byr, a dderbyniais innau heb anhawster. Wedi trafod yr holl safle gyda'r Athro Fearon Halliday, ni welwn le i dramgwydd, na rheswm dros beidio â gyrru'r ysgrif i'r Goleuad. Nid oedd gennyf, fel cyfaill a heddychwr, gyngor gwell na'i annog i "gadw'r bont" cyn belled ag y dibynnai hynny arno ef, heb aberthu na gras na gonestrwydd y gwirionedd, ond ceisio, yn ôl yr Apostol, "os yw'n bosibl hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlawn â phob dyn."

Atebodd yntau: "Oni welwch fel y bydd y cam hwn yn cael ei gam-ddeall gan y dorf sydd â'i diddordeb ym mlaenaf dim mewn buddugoliaeth plaid a brwydr? Recantation fydd gair y Wasg. 'Bradwriaeth' fydd gair y dorf. 'Annigonol' fydd gair Ceidwaid y Ffydd. Byddaf bellach yr un mor unig rhwng y pleidiau a phan orweddwn yn glwyfedig rhwng y byddinoedd yn Gaza."

Gwyddwn innau o brofiad a hanes gwleidyddiaeth ac ym- bleidiaeth pa mor anodd oedd cyhoeddi telerau heddwch ac ymresymu ynghyd heb i hynny ymddangos i'r ymbleidwyr fel gwaith bradwr. Gwelwyd hyn pan ruthrodd y dorf ar Lloyd George yn Birmingham yn amser Rhyfel De Affrica, a phan gyhoeddodd Arglwydd Lansdowne ei lythyr heddwch yn 1917, a phan geisiodd MacDonald a Snowden fyned i Sweden i gyfarfod cynrychiolwyr Gwerinol yr Almaen, ac yn fy mhrofiadau fy hunan yn helyntion cyfalaf a llafur yn 1921 a 1926.

Pan ymddangosodd ei achos drachefn yn Sasiwn Porthcawl-gwrthodasai'n bendant y cais am iddo apelio at Henaduriaeth De Caerfyrddin, fel na byddai iddynt dybio nad oedd dim byd annheg mewn taflu allan ddeucant o hen ac ifainc-ymlynodd wrth ei argyhoeddiad nad oedd gan neb hawl i ddisgwyl iddo gamu un cam ymhellach na'r hyn a warentid gan ei brofiad cywiraf ei hun. Chwiliai am bont, ond nid ar draul rhoi celwydd yn yr enaid. A phan ofynnwyd iddo'n gyhoeddus gan ŵr blaenllaw o lawr y Sasiwn honno, "A ydyw Mr. Williams yn awr yn credu yn Nuwdod Crist?" atebodd yntau yng ngeiriau'r Ysgrythur fod "Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag Ef er hun." Pan ofynnwyd iddo eilwaith gan yr un gŵr a ydoedd yn awr yn bosibl iddo gredu "ym mhersonoliaeth yr Ysbryd Glân," fe atebodd yn syml yng ngeiriau'r pennill, "Tydi wyt ysbryd Crist, a'th ddawn sydd fawr iawn a rhagorol."

Pa fodd bynnag, ar gynigiad y Dr. Owen Prys, fe'i derbyniwyd yn ôl i waith cyhoeddus y Cyfundeb, yn unig ac yn. hollol ar sail ei ysgrif i'r Goleuad a'i allu i dderbyn y Datganiad Byr fel amlineliad o'i ffydd

Ar ôl ymdrech faith ac anodd ac unig i bontio yng nghyfeiriad yr eneidiau effro a chyfeillgar a oedd y tu mewn i'r Hen Gorff, daeth yr amser i sefydlogi'r pen arall i'r bont. Bellach yr oedd y Community House yn y Tumble wedi ei adeiladu trwy lafur ac aberth y grŵp yno. Gwelai'n glir fod yno ddeunydd arweinyddiaeth annibynnol a bod y gogwydd fwy-fwy i gyfeiriad y Crynwyr, heb efallai fod yn ddigon cynhwysfawr i ddal y rhai a werthfawrogai hen simbolau eu tadau ac a ddymunai Fedydd a Chymun. Gwelai mai'r peth tecaf â thŵf mewnol a rhydd y grŵp, oedd iddo ef bellach beidio ag ymyrryd mewn ffordd arweiniol, ond awyddai am barhau'n ymddiriedolwr ac yn aelod o'r Tŷ Cymdeithas. Gyda chryn ddwyster a phetruster fe ysgrifennodd atynt i'r perwyl hwnnw, ond nid hir y bu heb ddeall bod craith y diarddel ffol ac anffodus eto heb wella, a bod ei amcan a'i weithred yntau wrth geisio pont yng nghyfeiriad y wir eglwys, a oedd rywle yn yr Hen Gorff, wedi peri siom a phoen a chamddeall o du ei hen ffrindiau.

Yn y man fe'i hysbyswyd eu bod yn ei lwyr ryddhau o'i aelodaeth a'i ymddiriedolaeth. Torasai'r bont yn un pen wrth ymdrechu i'w hestyn tua'r pen arall, fel y digwydd yn aml pan fentro dyn fod yn ganolwr. Methodd amcan yr aelodaeth ddeublyg-gyda'r Methodistiaid a chyda'r grŵp a ogwyddai tua'r Crynwyr. Methais innau yn gyffelyb wrth geisio ymaelodi gyda'r Crynwyr, heb i mi dorri aelodaeth gyda'r Hen Gorff; felly ni phwysleisiais innau bellach hawl ddeddfol aelodaeth ar lyfr, ond yn hytrach chwenych bod "yn aelodau o'n gilydd" ym mhob cylch ac enwad crefyddol. Gwyddwn i Tom gael llawer cynnig i droi o lwybr cul ei gais i bontio'r gagendor. Cafodd wahoddiad i fugeilio eglwys gref gyda'r Annibynwyr, a chynnig ysgoloriaeth yn un o golegau Rhydychen, a gwaith a chynhaliaeth o dan nawdd y Crynwyr. Ond gosododd ei wyneb fel callestr i geisio heddwch ar gost unrhyw ddioddefaint iddo'i hun. Ers deng mlynedd bellach ymgysegrodd i weithio allan ei genhadaeth hedd a chymod mewn ffordd anhraethol ddyfnach a manylach na chynt, ac i unioni rhywfaint ar amgylchiadau'r werin bobl a oedd yn ei gyrraedd, ac addasu eglwys i fod yn gefndir ysbrydol i fywyd drwyddo; ac ar fynydd-dir Sir Fflint, ac yng nghyffiniau Nant Ffrancon, daeth perffaith ryddid i ddilyn ei weledigaeth.

Eglurodd poen a phrofiad achos Tom Nefyn i mi mai personol, ac nid deddfol na chyfundrefnol, ydyw "rheffynnau dynol a rhwymau cariad" yr Efengyl; a bod yn rhaid wrth ras ac amynedd yr Efengyl yn y galon heblaw gwirioneddau'r Efengyl yn y deall, i drwsio'r rhwyd eglwysig a rwygir mor amlwg trwy'r byd, ac a rwystra gymaint ar y gorchymyn a'r gwaith o "bysgota dynion." Gwelais hefyd nad mater o Trust Deed ydyw "rhyddid," eithr mater o oddefgarwch ysbrydol a pharodrwydd i ganiatau rhyddid i eraill; ac y geill cysyllitadau cyfeillgar rhwng calon a chalon fod, megis y parhaodd cariad rhwng y Dr. Owen Prys a Tom Nefyn, hyd y diwedd, ac y pery ei serch yntau at aelodau cyfeillgar y grŵp yn y Tumble, er i'r berthynas swyddogol ymddangos fel pe'n doredig. Profiadau angerddol o'r math yma a ddengys bris a chroes y tangnefeddwr yn y byd "a'r mynych rymus ŵr a wingodd rhagddynt."

Yn y llythyr olaf a gefais ganddo ar y mater cyn myned i Sasiwn y De dywedodd:

"Gwn y bydd yn hollol ofer i ddadlau hawl deddfol, ac ni wnaf hynny. Gwn hefyd ei fod yn ofer gwrthwynebu'r ysbryd sydd yn y De. Rhaid iddo weithio allan ei gwrs; ei gyffroi a'i gryfhau a fyddai ei wrthwynebu. Felly bwriadaf fyned i'r Sasiwn, nid i wrthwynebu dim, na chodi fy llaw, ond i fod yn ddistaw a gwrando. Y mae Un sydd uwch na mi yn gwylied cwrs pethau, a gadawaf fy achos yn Ei law. Os wyf yn cyfeiliorni, fe ddengys bywyd hynny; os yw'r Sasiwn yn annheg, fe ddwg bywyd bethau i'r golau. Teimlaf ymostyngiad llwyr i drefn pethau. Ymdrechais, yn drwsgwl iawn efallai, wneuthur pont rhwng y ddwyblaid. Gelwir hyn gan rai yn y Tumble yn 'double game', a drwgdybia rhai yn y Sasiwn, ac fe'i defnyddiant i'm niwed. Popeth yn dda; yr wyf yn eithaf bodlon. Os bwrir fi allan o'r Corff, af yn dawel a heb ddicter. Hwyrach mai i hynny y mae pethau yn arwain; nis gwn. Rhaid gadael i'r drwg ei weithio ei hun allan, heb ei wrthwynebu na'i ymladd. Dyna'r peth iachaf i'r Hen Gorff ac i'r wlad ei adael heb ei wrthwynebu, heb geisio newid y proses, heb fod yn anfodlon i fyned allan, a hynny dan gwmwl a cham, am y teimlaf yn wir fod barn dyn yn y diwedd yn llaw Duw, ac nid yn llaw dynion. Bron nad erfyniwn arnoch i beidio â gwneud dim i rwystro'r llif, ond gadael iddo lifo a gwneud ei waith."

(Mai 1930)

.

Ymhlith meibion Cymru, nid adwaenais yr un gŵr mwy dewr a dwys a dwfn ei ddynoliaeth na Tom Nefyn; cyfunai yn ei bersonoliaeth ddiwylliant gorau gwerin gwlad Llŷn, a dehongliad fodern o feddwl yr oes, ynghyd ag antur ac aberth ewyllys, a theimladrwydd cerddor a bardd. Diau iddo ddysgu y tu hwnt i'w frodyr, trwy glwyfau ei gorff a'i galon, yn ymgyrch y ddwy deyrnas, amynedd a ffydd y saint.

COLEG WOODBROOKE

Yn 1929, ar wahoddiad y Cyfeillion, euthum am flwyddyn i Goleg Woodbrooke. Hyfrydwch oedd gweled y Genhadaeth Hedd a geisiais yng Nghymru wedi ei sylweddoli mor bell yn ehangder a gras yr awyrgylch yno. Ffurfiwyd y Coleg fel noddfa a nerth i ymchwilwyr a oedd yn ceisio goleuni ac astudiaeth Ysgrythurol a chenhadaeth ymarferol yr Efengyl. Lleygwyr oedd y rhan fwyaf o'r efrydwyr, a hynny o bob enwad a chenedl. Fy nghyd-ysgolor ydoedd y Parch. John Hughes, cyn-Reithor yn Eglwys Loegr, a oedd hefyd wedi ymneilltuo o'i ofalaeth, gyda chaniatad a chydymdeimlad yr Archesgob, i chwilio allan egwyddorion ei Basiffistiaeth. Yr oedd yn athronydd diwylliedig ac yn efengylaidd ei ysbryd, ond ni theimlai'n hapus i ddal ei hawl i bwylseisio cenhadaeth hedd yr Efengyl yn groes i syniadau cynulleidfa barchus a Thoriaidd. Daliodd hyd ei farwolaeth yn aelod o Eglwys Loegr, a hefyd o'r Crynwyr, a hynny gyda chymeradwyaeth yr Archesgob. Cyffelyb ydoedd sefyllfa y Dr. H. G. Wood, athro mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Birmingham, sydd yn parhau hyd heddiw yn Fedyddiwr ac yn Grynwr.

Yn cydweithredu â Choleg Woodbrooke, yr oedd Coleg y Dyrchafael, Coleg Cenhadol Uchel Eglwysig, Colegau Cen- hadol Carey Hall a Kingsmead (a hyffordda genhadon o bob enwad), a Choleg Fircroft i weithwyr ym myd llafur a diwydiant. Golygfa a roddai ias o orfoledd ysbryd oedd gweled yn y cyfarfod defosiynol, fore Llun, wŷr a gwragedd o'r holl golegau hyn ynghyd yn cydganu a chyd-weddïo a chyd- wrando yn Uchel Eglwyswyr, Crynwyr, Anghydffurfwyr, Almaenwyr, Ffrancwyr, cenhadon duon o Affrica ac India, efrydwyr pryd golau wledydd Sgandinafia, miliynwyr teulu Cadbury, a bechgyn o Gymru a'r pyllau glo. Cofiaf un bore Sul am 7.30 fyned at ddosbarth o weithwyr, ac am naw yn arwain yn y gweddïau yng nghyfarfod defosiynol Eglwys y Dyrchafael, ac am 11 yn mwynhau distawrwydd a seiat rydd y Crynwyr. Gwraig Prifathro Coleg y Dyrchafael ydoedd merch yr hen gyfaill parchus a bonheddig a Methodistaidd, y diweddar O. Morgan Owen, Llundain.

Athrawon eraill y coleg oedd y Parch. J. R. Coates a Fearon Haliday (gweinidog Presbyteraidd a fu mor adnabyddus trwy ei ddarlithiau ar Seicoleg Fugeiliol i weinidogion yr Hen Gorff yn ei ymweliadau â Choleg y Bala). Gwelais yn amlwg yn Woodbrooke fod deuddeg porth i Eglwys Dduw yn Seion, a chymaint oedd ein hangen am wybodaeth o'r ysbryd sydd yn goleuo ac yn chwilio i anawsterau med yliol a thraddodiadol pererinion. Gwerthfawr neilltuol ydoedd sgyrsiau Fearon Halliday ar Seicoleg Fugeiliol y Weinidogaeth, a ddadlennodd glymau gwythi a chymhellion cymhleth is-ymwybyddiaeth credinwyr. Adeiladol hefyd oedd clywed, mewn sgwrs a seiat, syniadau ac anawsterau crefyddwyr o wahanol wledydd ac eglwysi Cred. A rhywsut, ac yn raddol, fe'n rhyddhawyd rhag edrych yn gyntaf ar label dyn, wrth ddod i'w adnabod fel person a chyd-ddyn a chyfaill. Mawr yw fy niolch a'm parch wrth gofio ehangder a dwyster braint y flwyddyn yng Ngholeg Woodbrooke, a fu hefyd yn noddfa ac yn nerth i Tom Nefyn.

Y WEINIDOGAETH

Ni bûm erioed yn esmwyth iawn i fod yn weinidog yn rhinwedd fy swydd. Wrth dderbyn cyhoeddiad i bregethu neu ymweled â chleifion yn eu tai, tipyn o siom ydoedd cael fy nhrin fel gweinidog yn ei swydd yn hytrach na chyfaill a chyd-ymdeithydd. Dyma oedd swyn cyfeillgarwch yr hen Archesgob. Fel y dywedodd bachgen ysgol am Archesgob arall, "Nid oedd yn ymddiddan â mi fel Archesgob wrth fachgen, ond fel un Archesgob wrth Archesgob arall." Cofiaf anfon iddo, wedi ymgom fynwesol, lyfr hynod y Prifathro John Oman, Vision and Authority, a'i ddisgrifiad tyner o wir awdurdod Cristnogol—nid y Pab yn eistedd yng nghadair Cesar, a'i lond o anffaeledigrwydd, nas honnodd St. Pedr erioed iddo'i hun, ond hen ŵr yn cyfaddef ei ffaeleddau a'i annigonolrwydd, a oedd yn ei yrru i bwyso mwy a mwy, nid ar gysondeb ei ffydd ei hun, ond ar ffyddlondeb Duw yng Nghrist ac yn Ei Ragluniaeth. Cefais lythyr oddi wrtho yn gwerthfawrogi'r llyfr a oedd yn datgan profiad henaint wedi llawer brwydr ddi-fudd."Cofiaf hefyd air y gŵr mawr Presbyteraidd hwnnw, y Prifathro John Skinner, y noson cyn ei farw, pan ddigwyddais fod yn ei dŷ, mai cysur mawr iddo ydoedd gair Crist, "Nid chwi a'm dewisodd i ond myfi a'ch dewisais chwi."

Eglurodd yr Archesgob pe dymunaswn gael urddau yr Eglwys yng Nghymru y cawswn ei groeso, ond yr oedd yn well gennyf ryddid gras i fyned i mewn ac allan o'r gwahanol gorlannau, a hynny o wirfodd calon ac nid trwy urdd na hawl. Felly o flwyddyn i flwyddyn yr agorwyd drysau—yn awr mewn capel mynyddig, bryd arall yn Eglwys y Brifysgol yn Rhydychen, dro arall yn Seiat y Crynwyr, neu mewn hen lan gwlad ym Mro Morgannwg. Gresynnais yn aml na bai modd cyfuno tipyn ar drefn y moddion gras a ddilynir gan yr enwadaudwyster ac urddas y Llyfr Gweddi Gyffredin; proffwydoliaeth a thynerwch y gair a'r Seiat syml o gyffes a thystiolaeth; ac ambell ysbaid o dawelwch y Crynwyr.

Cofiaf wahoddiad gan Reithor hynaws a diwylliedig ym Mro Morgannwg—gŵr dall a deallus iawn, gyda phrif urddau'r Prifysgolion. Teimlai fod dull ac urddas ei eglwys hynafol rywsut heb gyffwrdd â bywyd ymarferol ei blwyfolion, ac y buasai Seiat Brofiad yn gaffaeliad mawr. Trefnwyd felly i fentro'r cyfnewidiad. Cafwyd ynghyd, mewn ystafell fechan wrth y tân, dirfeddiannwr yr ardal, gwragedd y ffermydd, a gweithwyr y rheilffyrdd, a gofynnwyd i mi "agor y mater" wedi i'r Rheithor agor trwy weddi. Tipyn yn brin oedd y profiad oherwydd dieithrwch yr arfer iddynt, ond credaf, os daw undeb yr eglwysi yn realiti yng Nghymru, y bydd angen uno traddodiad y ffydd a gyflwynwyd unwaith i'r Saint, gyda'r proffwydol i ddatgan cyfle a chyfrifoldeb dynion heddiw, a'r bugeiliol, a edy ambell dro y defaid yn y gorlan er mwyn ceisio a chadw'r un ddafad golledig y tu allan i'r gwersyll.

Nid wyf yn sicr nad cyfeiliornad dybryd ydyw'r syniad am yr Eglwys fel corfforaeth yn hytrach na chorff bywiol i ysbryd Crist, ac i bob aelod ei rin a'i ran yn y cwbl. Onid gwir ystyr aelodaeth ydyw bod "yn aelodau i'n gilydd yng Nghrist," yn hytrach nag aelodaeth ar lyfr yr enwad? Modd bynnag, dyna'r aelodaeth a bery yn y cof a'r galon, pan â penderfyniadau'r pwyllgorau a phregethau'r cyrddau mawr i ebargofiant. Cefais y fraint o eistedd dan y pen-pregethwr, John Williams Brynsiencyn, am ddeng mlynedd; ond rhaid cyfaddef, serch yr edmygedd o ddawn a huodledd y pregethwr, nad wyf yn cofio'r un frawddeg na sylw; ond nid anghofiaf ei serchogrwydd pan oeddwn yn llanc yn dychwelyd o wyliau gwlad, iddo fynnu cario fy mag. Cofiaf hefyd pan oeddwn dan y ddeddf ac yn was ffarm yn Llŷn, i mi fyned i wrando arno mewn cyfarfod pregethu yn Llithfaen fynyddig. Cyfarchais ef wedi oedfa'r prynhawn, a chymhellodd fi i ddod gydag ef i de i dŷ'r ysgolfeistr. Mynnodd hefyd i mi fyned i'r sêt fawr yn ei fraich yn oedfa'r hwyr, ac wedyn i swper, a hynny, mi gredaf, i geisio codi tipyn ar fy nghyflwr.

Cawsom ymgom hir wrth y tân. Ysgydwai ei ben wrth sôn fod Lloyd George yn cyfeillachu cymaint â "chreadur anystyriol fel W.C.", ac yn esgeuluso ei gyd-Gymry. Yr oedd wedi darbwyllo cryn dipyn erbyn hynny ynglŷn â'r rhyfel a'r gwleidyddwyr. Bûm yn sôn wrtho am foddion yr anturiaeth y bûm ynddi gyda throseddwyr, a mynegodd ddiddordeb mawr a pheth syndod wrth yr hanes.

"O'r ffordd yna y daw hi yn y diwedd," meddai, "ond nid yw'r byd yn aeddfed i beth felly eto."

“Ond sut y daw'r byd yn aeddfed," gofynnwn, "heb arweiniad crefyddwyr?"

Wrth ffarwelio yn hwyr y nos, daeth gyda mi at y drws. Meiddiais ofyn iddo: "Paham na ddywedwch chwi wrth y wlad y pethau a ddywedasoch chwi i mi heno?"

"O na," meddai, gan ysgwyd ei ben, "ond ewch ymlaen, ewch ymlaen."

Cyffyrddiadau syml a hynaws o'r fath a bair bod ei atgof yn gynnes yn fy nghalon; nid cysondeb ei ffydd nac edmygedd o'i ddoniau dihafal. Gofidiais wrth glywed bod y dorf wedi troi i'w erbyn yn ei ddyddiau olaf i edliw hen ddyddiau'r rhyfel a'r khaki, oherwydd ein bod oll "yn llithro mewn llawer o bethau." Heddwch i'w lwch a thangnefedd i'w enaid.

Ni bu neb yn bellach na mi o syniadau cyfundrefnol Eglwys Rufain, ond eto cefais gyfeillach agos ac annwyl â nifer o Babyddion; ac yn eu plith yr hoffus a'r diymhongar Monsignor Hook. Bu'n Gaplan yn y fyddin yn y Dardanelles yng nghatrawd fy mrawd, a thrwy hynny y dechreuodd y gyfeillach. Pan yn Aberystwyth awn i'w weled, a chawn groeso mawr a sgwrs rydd ar bob math ar gwestiwn. Wrth ffarwelio, gofynnwn am ei fendith, a gofynnai yntau am fy mendith innau. Yr oedd ei syniadau yn eangfrydig iawn. Soniai am dri math ar Eglwys—yr eglwys anymwybodol (y perthynai Socrates a Plotinus iddi efallai); yr eglwys ymwybodol, o'r rhai sydd yn eu proffesu eu hunain yn Gristnogion; a'r eglwys hunan-ymwybodol, a oedd yn gwybod ei bod yn Eglwys Crist. Yr oeddwn yn eithaf bodlon bod tua'r canol, ond unwaith gofynnais am ei farn ar: A ydoedd aelodaeth a gweinidogaeth mewn enwad neilltuol yn torri cysylltiadau'r Eglwys lân Gatholig? Dyma ateb yr Esgob a'r Offeiriad Catholig:

"Yr oeddwn yn y rhyfel gyda'ch brawd Stanley, a dysgais ei garu fel gwir Gristion. Cofiwch fi ato yn annwyl iawn. Gyda golwg ar eich cwestwn; pan ddengys Duw ei ewyllys i ni, pa beth gwell a allwn ei wneud ond ufuddhau iddo? Wrth ddringo mynydd cyrhaeddwn y pegwn cyntaf a chynfyddwn nad ydym eto ar y pegwn uchaf gwelwn begynnau eraill ac uwch yn y pellter. Felly y dengys Duw i ni begynnau ysbrydol, y naill yn uwch na'r llall. Y mae'r bywyd Cristnogol yn gwrs ymdrech am undeb nes-nes ag Ef nes gollwng angau ni i'w freichiau cariadlawn. Cyfrifaf fel gwir Gristion bawb a gais wybod, caru a gwasanaethu'r Arglwydd Iesu yn ol mesur y golau a'r gras a roddir iddo gan Dduw. Apelia Brawdoliaeth y Cymod ataf yn fawr; caraswn fedru gwneuthur rhywbeth i gynorthwyo'r gwaith da. I'r trydydd cwestiwn mynnwn ddweud yn ostyngedig: 'Ewch rhagoch, fy nghyfaill annwyl, er mwyn y Meistr annwyl, gan ymddiried Iddo egluro i chwi y ffordd fwyaf perffaith i gyflawni Ei ewyllys sanctaidd. Yr Arglwydd a'th geidw rhag pob drwg-Efe a geidw dy enaid." Dilynir chwi gan fy ngweddïau gwael, a bydded i ni gyd-gyfarfod yn y diwedd 'lle nad oes Roegwr nac Iddew, caeth na rhydd, ond Crist yn bob peth ac ym mhob peth'."

Wrth adnabod un gŵr Catholig a oedd yn gyfaill ac yn sant, fe lewyrcha goleuni tyner am ei holl dy. "Am Seion y dywedir: 'Y gŵr a'r gŵr a fagwyd ynddi, a'r Goruchaf ei hun a'i sicrha hi'." Cyfarfyddais ag offeiriaid cyffelyb ar y Cyfandir yn hiraethau ac yn ymestyn at ddyfodiad Ei deyrnas Ef. Felly loes a chlwy yw canfod a chlywed rhagfarn a chollfarn yn erbyn pob Pabydd. Ers blynyddoedd bellach, wedi gweini cymaint gyda'r Crynwyr, y mae fy ngobaith mewn catholigrwydd calon yn hytrach na chyfundrefn o un math; derbyniaf yn llawen gyffes y sant John Woolman, y Crynwr tlawd a ddeffrodd gyntaf gydwybod Americanwyr yn erbyn caethwasiaeth:

"Gosodwyd egwyddor sydd yn bur yn y meddwl dynol, yr hon sydd, mewn gwahanol fannau ac oesoedd, yn cael enwau gwahanol. Y mae yn bur ac yn deillio o Dduw. Dwfn a mewnol yw, heb ei chyfyngu i unrhyw ffurf ar grefydd, nac wedi ei chau allan gan yr un, pan saif y galon mewn cyflawn gywirdeb. Ym mhwy bynnag y gwreiddia ac y tyf, hwy a ddeuant yn frodyr."

Ni bydd chwaith, mewn iaith, ddim nôd—a glywsom
Ar Eglwysydd priod
"Rhufain" na "Groeg," ar ofod
Llwgr, ni bydd: na "Lloegr" yn bod.

Gelwir hwy fel ei gilydd—oll yn un
Llannau a Chapelydd,
Anghymwys dweud "Eglwysydd":
Un yw i fod, Un a fydd.
—EBEN FARDD.


Nodiadau[golygu]

  1. Gweler The Industrial Council for the Building Industry (Garton Foundation)
  2. Gweler Twenty Years at St. Hilary (Bernard Walke)
  3. Gweler A Retrospect, Lord Parmoor.
  4. Alfred George Edwards
  5. Gweler A Retrospect, Lord Parmoor.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.