Rhai o Gymry Lerpwl/John Henry Roberts, (Pencerdd Gwynedd)

Oddi ar Wicidestun
John John Thomas Rhai o Gymry Lerpwl

gan Anhysbys

David Owen Jones

John Henry Roberts (Pencerdd Gwynedd)

Pwy o fewn Cymru benbaladr na chlywodd son am Bencerdd Gwynedd? Fe'i ganwyd ym Mhenrallt, Llandegai, Arfon. Y mae yn gerddor o waed; yr oedd ei dad yn gerddor da, ac yr oedd yntau yn organydd pan yn blent yn deuddeg oed. Pan yn bedair ar ddeg, cyfansoddodd amryw donau ac anthemau; a thua'r un oed arferai gynnal dosbarthiadau i ddysgu cerddoriaeth i ereill. Chwi sylwch iddo gaei ei eni mewn ardal gerddorol iawn, a chafodd ei eni hefyd ar adeg yr oedd lluaws mawr o gerddorion enwocaf Cymru ar y maes. Onid yn y to oedd o'i flaen ef y cawn Ambrose Lloyd, Tanymarian, Owain Alaw, Ieuan Gwyllt, ac ereill? Y mae ymdrechion boreuöl y cerddor yn ddyddorol. Ni weithiodd fawr yn y chwarel, ond fe wasanaethodd fel ysgrifennydd chwarel yn Towyn Meirionnydd am ryw hyd. Nis gallasai fod yn llonydd yno heb sefydlu côr, heblaw cyfeilio mewn rhyw gyngherddau fyth a hefyd. Credir i'r symudiad yma, a'i arosiad yn Nhowyn, fod yn foddion neillduol i'w dwyn i'r amlwg fel cerddor ac arweinydd corawl medrus; oblegid yn y cyfnod hwn, y mae yn dod i gysylltiad â cherddorion enwog iawn. Ar ol treulio rhyw gymaint o amser yng Nghaerloyw, gyda Dr. S. S. Wesley, Fe cafodd gynnyg ar le fel organydd, y mae yn myned i Lundain. Treuliodd bedair blynedd yn Llundain, a phedair blynedd o lafur caled fuont iddo; ond y mae ef ar ei fantais heddyw, ac yr ydym ninnau fel cenedl hefyd ar ein mantais ar yr adeg yna o fywyd Mr. Roberts, am mai yn ystod yr adeg honno y cyfansoddoda amryw ddarnau a fyddant o wasanaeth dirfawr i Gymru ym mhen blynyddau i ddod. Bu y blynyddau hynny yn Llundain yn foddion dadblygiad i'r galluoedd cerddorol oedd yn y dyn ieuanc o Fethesda. Yno y cymhwyswyd ef i fod yr hyn ydyw heddyw i Gymru. Ar ol gorffen yn Llundain, y peth cyntaf a wna ydyw myned i gyfrannu o'i oleuni ef i bobl ei ardal. Y mae yn ymgymeryd a bod yn organydd Eglwys Anibynnol Bethesda; aeth oddiyno i Gaernarfon; ac yn 1897 daeth i Lerpwl fel organydd Eglwys Chatham Street. Yn ystod y tair blynedd y bu yn Lerpwl ni fu yn segur; y mae o wasanaeth dirfawr i Gymry Lerpwl. Y mae i Mr. Roberts enw trwy Gymru fel beirniad teg a chyfiawn mewn cyfarfod llenyddol ac eisteddfod. Y mae ei hanes hefyd yn dangos i fechgyn ieuainc beth all egni ac ymroddiad wneyd i ddadblygu gallu.