Rhai o Gymry Lerpwl/John John Thomas
← David Adams (Hawen) | Rhai o Gymry Lerpwl gan Anhysbys |
John Henry Roberts, (Pencerdd Gwynedd) → |
John John Thomas
Dyma ddarlun o'm blaen o un o wyr cadarnaf Lerpwl, ym mlodau ei oes, gwr penderfynol, nid pob awel o wynt a'i tafl. Ganwyd John John Thomas yn 1841 ym Mhen y Ceunant, Bethesda. Enwau ei rieni oedd John a Mary Thomas, Pant Glas. Yr oedd ei dad yn llenor ac yn ramadegwr da iawn, ac yn rhifyddwr campus, er na chafodd awr erioed o ysgol. Clywais Mr. Thomas yn dweyd hanesyn am ei dad. Pan oedd ef yn fachgen yn y dref hon yn yr ysgol, anfonodd ei dad broblem gydag ef i'w ysgolfeistr i'w dadrys, ac er i hwnnw ddefnyddio llond cwpwrdd o bapyr y mae y broblem heb ei gwneyd ganddo eto. Arferai J. J. Thomas fyned i'r ysgol yn ei gartref pan yn blentyn; ond dyna y pum fysedd na cholli ysgol Sul y capel. Dyna eginyn Ymneillduaeth yng ngha͏͏͏͏͏lon y plentyn. Dysgodd ddioddef yn fore, o dan yr "athraw creulon," fel y geilw fe ef.
Pan yn hogyn deuddeg oed, aeth i weithio i chwarel Bethesda. Y mae y gwaith yn dygymod âg ef, y mae yn tyfu, yn gorfforol ac fel chwarelwr. Yn yr adeg yma yr oedd dirwest yn bur uchel ei ben yn yr ardal—yr oedd y Gobeithlu wedi ei sefydlu yno, ac yr oedd yntau yn aelod ffyddlon iawn. Yr oedd mor amlwg fel dirwestwr, fel y'i gelwid yn aml iawn i gymeryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Fe wel y sawl sy'n dilyn yr hanes hwn, ei fod yn un oedd yn byw adeg diwygiad 1859, a gallwn dybio ei fod wedi derbyn yn dra helaeth or dylanwadau hynny sydd i w cael mewn diwygiad. Ac nid oedd ei fod ef yn ddirwestwr mawr o un rhwystr, a dweyd y lleiaf, iddo dderbyn or dylanwad hwnnw.
Pan yn llanc ugain oed, daeth i Lerpwl i'r ysgol, ond ni chaniatai y llogell iddo aros yn hwy na chwe mis. A chan ei fod yn teimlo awydd dysgu Saesneg, fe brentisiodd ei hun gydag adeiladydd i ddysgu gwaith saer maen. Yr oedd ganddo amcan da pa fodd i drin arfau. Ni fu yn hir cyn meistroli y gelfyddyd hon. Yn fuan cafodd le fel foreman gydag adeiladydd yn y dref. Yna daeth i deimlo mai nid da bod dyn ei hun; fe briododd,—ac os edifarhaodd am rywbeth yn ei oes, yn sicr nid edifarhaodd am hyn. Y mae Mrs. Thomas ymysg gwragedd mwyaf rhagorol Lerpwl mewn pob da. Dechreuodd adeiladu ar ei gyfriioldeb ei hun—ac fe lwyddodd i fesur helaeth iawn.
Yr oedd hefyd yn un o'r rhai cyntaf i ymuno â Themlyddiaeth Dda yn y dref. Nid anghofiodd Mr. Thomas ei hunan yn swn a helynt yr adeiladu; yr oedd, ac y mae, yr achos dirwestol mor anwyl ganddo a'i dai. Yn 1897, etholwyd ef yn flaenor eglwys Princes Road, ac y mae yn un o'i hysgrifenyddion yn awr. Rhoddodd y Temlwyr Da yr anrhydedd o'u cynrychioli yn Uwch Deml y byd yn Toronto, Canada, iddo, a phan ar ei ymweliad swyddogol â'r lle hwnnw, cafodd yr anrhydedd o dderbyn, ar ran plant Cymru, faner brydferth a enillwyd ganddynt mewn cystadleuaeth oedd yn agored i'r holl fyd. Y mae Mr. Thomas yn medwl yn uhcel iawn o'r anrhydedd hon a gafodd. Tra yno hefyd traddododd anerchiadau yn Gymraeg a Saesneg, gyda chymeradwyaeth gyffredinol. Yr ydym wedi edrych ar ei fywyd o gyfeiriad Dirwestiaeth, gan fwyaf. Gallesid dweyd llawer am dano o gyfeiriadau ereill, megis fel Ymneillduwr a Gwladwriaethwr.