Rhai o Gymry Lerpwl/John Hughes

Oddi ar Wicidestun
James Edwards Rhai o Gymry Lerpwl

gan Anhysbys

Llew Wynne
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Hughes, Lerpwl
ar Wicipedia

Parch John Hughes

Y mae llawer blwyddyn bellach er pan fu Methodistiaid Lerpwl heb eu "John Hughes," yn neillduol felly eglwys Fitzclarence Street. dull cyffredin gan bobl Lerpwl wrth siarad am y tri wyr hyn, ydyw,—"John Hughes y Mount," "Dr. Hughes," a "John Hughes, M.A." Y tri hyn a roddasant anrhydedd ar eu henwad pan oedd y ddau ereill yn fyw. Nid oes ond un o'r tri yn aros.

Ganwyd y Parch. J. Hughes, M.A., yn Heol y Morwyr, o fewn ychydig iawn o ffordd i orsaf y G. W. R. yn Abertawe, hanner can mlynedd i eleni. Dafydd ac Elizabeth Hughes oedd enwau ei rieni. Gof oedd ei dad wrth ei alwedigaeth, a gweithiwr caled iawn ydoedd; ac yn hyn o beth fe ddisgynnodd ei fantell ar ei fab,—gweithiwr caled yw Mr. Hughes. Yn ysgol elfennol Cwmafon y derbyniodd ei addysg gyntaf, yr hon y pryd hynny oedd o dan ofal yr ysgolfeistr gwych Mr. W. Davies. Er fod yr athraw yn un lled lym pan fyddai angen, yr oedd John Hughes yn hoff iawn ohono, ac yntau yn hoff iawn o'r bechgenyn penddu, fel ei galwai; a gwyr pawb am athraw a disgybl fod holfder y naill at y Hall yn anhebgorol i gyfrannu a derbyn addysg. Bu Mr. Hughes wrth draed aml i Gamaliel ym moreu ei oes, a mawr yw ei barch iddynt oll, a theimla ei bun yn ddyledus iawn iddynt. Un ohonynt ydoedd Mr. Williams, mab yr hybarch William Williams, Abertawe, ei athraw pan yn yr ysgol Normalaidd, Abertawe; y mae ei glod yn uchel iawn i'r gwr hwn fel athraw. Ei orchwyl cyntaf ef fyddai torri ei ddisgyblion i mewn yn weithwyr dewr. Tua blwyddyn a hanner a fu John Hughes yn yr ysgol hon, sef rhan o 1869-71. Yr oedd wedi dechreu pregethu erbyn hyn. Ar ddiwedd ei yrfa yn yr ysgol y mae yn symud i Athrofa Trefecca, a chan iddo fod yn hynod o lwyddiannus yn ystod ei flwyddyn a hanner yn yr Ysgol Normalaidd, mewn amrywiol ganghennau addysgawl, yr oedd, erbyn myned i'r coleg, yn abl i ddilyn y . dosbarthiadau hynaf, ac ar ddiwedd ei dymor yno, drachefn, daeth allan ar ben y rhestr bron yn yr oll o'r dosbarthiadau, ac iddo ef y dyfarnwyd y wobr gyntaf mewn duwinyddiaeth.

Yn y flwyddyn 1873 aeth i Brifysgol Glasgow,—ac efe erbyn hyn yn rhyw dair ar hugain oed. Yno graddiodd yn M.A., ac yno yr ydoedd pan yr ymgymerodd a gofal eglwysi Hermon a Dowlais. Fel y gallesid disgwyl, tra yn Glasgow hynododd ei hunan yn fawr fel dysgwr, ac enillodd amryw wobrau. Pum mlynedd yr arosodd yn Hermon a Dowlais, a phump o rai dedwydd iawn fuont iddo. Symud­ odd oddiyno i Fachynlleth, lle yr arosodd am ddeng mlynedd; ac ar ddiwedd y rhai hynny y mae yn myned am dymor i ·Leipzig i wrando ar yr enwog Luthardt

ac ereill yn darlithio ar dduwinyddiaeth. Yn y flwyddyn 1890 ydoedd hon.

Yr wyf wedi enwi rha.i o'r dynion enwog y bu Mr. Hughes yn derbyn addysg ganddynt; -ond gwn am ddau neu dri ereill na fu eu dylanwad arno ronyn llai. I'w athraw yn yr Ysgol Sul y mae yn priodoli y gorchwyl o ddeffro ei feddwl gyntaf, ac nid oedd yr athraw hwnnw yn neb arall na Mr. William Abraham," Mabon" yr Eisteddfodau, a chynrychiolwr Cwm Rhondda yn Senedd Prydain Fawr ac ymhobma;n arall. A'r disglaer Edward Mathews a ddeffrodd y pregeth wr ynddo. Yr hybarch D. Howell, Abertawe, a'i bedyddiodd, ac yn eglwys Cwmafon, gan yr un gwr, y derbyniodd e i Gymundeb cyntaf. Dylaswn ddweyd i'w rieni symud yn fuan ar ol ei eni ef i Gwm­afon. Yr un gwr hefyd a'i holodd fel ymgeisydd am y weinidogaeth, ac efe hefyd a'i derbyniodd i'r Cyfarfod Misol. Cafodd gychwyniad da, felly, oherwydd nis gallasai neb gaeI athrawon gwell. Ond rhaid cofio fod defnyddiau ynddo yntau, a hynny a welsant hwy. Yr oeddynt wedi canfod gwythien yn gorwedd yn yr "hogyn penddu," a defnyddiasant bob moddion i'w gweithio, ac ni fu eu llafur yn ofer. "Diolch yn fawr iddynt," meddem ninnau yn Lerpwl yn awr, tra yn medi o ffrwyth eu llafur. Heblaw hyn oll, fe gafodd Mrs. Hughes un o ragorolion y ddaear yn fam iddo. Diolchwn am ysgolion dyddiol a Sabbothol ac athrawon da; ond diolchwn fwy am famau da. I famau duwiol a da y mae Cymru yn ddyledus am y cewri a gafodd i'n hamddiffyn ac i'n goleuo. Bendith fwyaf Duw i wlad yw mamau da. Nid wyf yn meddwl imi ddod ar draws yr un dyn erioed yn ca.rio meddwl mor uchel o'i fam a. Mr. Hughes. Hwyrach mai nid pawb a welodd y gerdd-goffa, dyner a wnaeth iddi, lle y ceir torf o feddyliau tarawiadol, megis,

"Pwy wada'r Duwdod, gafodd fam
Rinweddol, dduwiol, er pob cam."

Dedwydd yw'r dynion sy'n gallu edrych yn ol ar eu mham a'r Ysgol Sul, a dweyd,—"I chwi yr y'm ni yn ddyledus am yr hyn ydym." Erbyn hyn y mae Mr. Hughes yn weinidog er ys tair blynedd ar hugain, a threuliodd tua deg o'r rhai hynny yma. Nid yw ond megis doe gennyf feddwl am ei ymddangosiad cyntaf yn ein plith. Daeth atom yn weithiwr caled; yr un ydyw eto. Y mae ol llafur y meddyliwr dwys ar ei bregethau; y mae ol ymdrech galed a meddyliau mawrion yn ei ysgrifeniadau. Y mae ynddo gyfuniad o'r gweithiwr caled ac o'r meddyliwr galluog, ac nid bob amser y ceir y gallu a'r ymdrech yn yr un un. Y mae ei eglwys yn gymorth iddo feddwl a gweithio; y mae iddi enw fel un o'r rhai mwyaf goleuedig yn y dref. Ac wedi prawf o ddeng mlynedd mae'n amlwg fod y bugail a'r praidd yn cyd-daro yn rhagorol. Y mae'r bugail, fel ei eglwys, yn cymeryd dyddordeb mawr hefyd yn yr achos dirwestol, ac y mae llwyddiant yr achos dirwestol i'w briodoli i raddau pell i'r ffaith fod ein dynion blaenaf yn cymeryd dyddordeb ynddo. Llwyrymwrthodwr cryf ydyw Mr. Hnghes, a. gweithiwr cadarn dros yr egwyddorion a gred. Y mae wedi gwneyd llawer i esbonio dau adroddiad y Ddirprwyaeth Frenhinol ar werthiant diodydd meddwol,—adroddiad y mwyafrif ac adroddiad y lleiafrif,—yn Lerpwl. Ni raid dweyd iddo weithio a'i holl egni er mwyn yr Ysgol Sul. Gwyr llawer cynulleidfa. am ei allu i esbonio y Salmau,—y mae ei ddull ysgolheigaidd ac eto yn farddonol, athronyddol ac eto profiadol, yn taro'r Salmau i'r dim. Y mae cyfoeth ei feddwl,—y grymusder a'r teimlad,—i'w weled yn yr esboniad ar y Salmau a gydysgrifennodd gyda'r ysgolhaig Hebreig gwych hwnnw, y Parch. R. E. Morris, o Wrecsam.

Yn ystod yr hanner canrif a dreuliodd, ni fu yr oll yn ddigwmwl; na, gall ef ddweyd, —"Myfi yw y gŵr a welodd flinder." Gwyr fel llawer ereill beth yw crymu dan y groes, a chroes lled drom oedd colli ei anwyl briod tra nad oedd y plant ond ieuainc; ond cafodd nerth i ddwyn y groes honno, yn nerth ei serch at ei ddau fab. Ac hwyrach y fod y golled hon iddo ef, yn ennill i ereill; yn awr gall ef gydym deimlo âg ereill, a bod yn foddion i weinyddu llawer o gysur iddynt,—y mae digon o waìth yn y cyfeiriad yna y dref hon. A hawdd ir rhai sydd wedi cael blas ar ei feddyliau dwys dyner weled gwirionedd geiriau y bardd Seisnig am fedd ylwyr o'i fath,— "They learn in sorrow what they teach in song."