Rhai o Gymry Lerpwl/Llew Wynne

Oddi ar Wicidestun
John Hughes Rhai o Gymry Lerpwl

gan Anhysbys

Hugh Jones (Trisant)

Llew Wynne

Un o wyr mwyaf talentog a mwyaf adnabyddus Lerpwl yw Llew Wynne. Ganwyd ef yn Nhreffynnon. Robert a Harriet Wynne oedd enwau ei rieni; diangenrhaid, mae yn debyg, yw dweyd mai chwaer iddo ef ydoedd y ddiweddar gantores fwyn Edith Wynne, ynghyd a Kate Wynne. Y mae yntau hefyd yn gerddor o'r fath oreu; ond nid fel cerddor yr hynododd ef ei hunan. Y mae iddo yntau ei hynodion fel y ceisir dangos wrth fyned ymlaen. Fe dderbyniodd addysg yn Nhreffynnon yn "Cole's School". Pan ofynwyd iddo a enillodd efe "radd," ei ateb ydoedd mai tyfu yn raddol a wnaeth.

Fodd bynnag, y mae yn amlwg ei fod. wedi dysgu llawer mewn ychydig iawn o amser, oblegid y mae yn gadael ei gartref mor fore ag 1863, gan droi tua Lerpwl, yn cael lle fel hogyn mewn swyddfa llongfeddianwyr, ac yno y mae o hynny hyd yn awr, ac y mae wedi dringo mor uchel ac y mae modd iddo,—y mae yn brif swyddog. Pe yn gwneyd nemawr heblaw edrych ar ol ei orchwyl hwn, buasai hynny yn golygu cryn lawer, am fod y cwmni hwn yn cario masnach eang iawn ymlaen, gyda'u hugeiniau o longau; a chyda llaw, cryn sirioldeb ydyw gweled Cymro wedi dringo mor uchel i — ymddiriedaeth cwmni mor fawr a Pappayani and Co, a'r rhai hynny yn Roegwyr.

Ond son yr oeddwn am dano fel gweithiwr y tu allan i'w fusnes ei hun. Y mae enw Llew Wynne yn adnabyddus i bob Cymro, a dweyd y lleiaf; a gallwn ychwanegu ei fod yn adnabyddus yn yr holl fyd eisteddfodol. Efe ydoedd ysgrifennydd eisteddfod lwyddiannus Lerpwl yn 1884, ac efe hefyd ydyw ysgrifennydd un 1900; a barnu wrth arwyddion yr amserau, fe yrr hon un 1884 i'r cysgod, gan fod yr awyrgylch erbyn hyn yn hollol glir.

Ond, ped ysgrifennid cyfrolau am Mr. Llew. Wynne a gadael ei berthynas â Themlyddiaeth Dda allan, ni fyddai yr oll amgen na chorff heb ysbryd ynddo. Pell ydwyf, wrth ddweyd hynny, o fod yn. anywwybyddu llafur Mr. Wynne ym myd yr eisteddfodau; ond hyn a ddwedaf, mai yn yr hyn a wnaeth, ac y mae yn ei wneyd gyda'r achos da hwn y tynnodd efe ni fel cenedl i'w ddyled. Nis gallaf wneyd yn well na rhoddi ychydig o'i hanes ynglyn â Themlyddiaeth. Gall hynny fod er dyddordeb i Demlwyr Da, beth bynnag. Pan yn hogyn gartref fe ymunodd â'r Gobeithlu, yr hon oedd ar y pryd o dan ofal y Parch. John Jones, gweinidog gyda'r Saeson y pryd hynny.

Ond pan symudodd i Lerpwl, y mae yr ardystiad a gymerodd gartref, ar ol ei ddyfodiad i Lerpwl, yn myned ar goll, y mae y Llew yn peidio a bod yn llwyrymwrthodwr. Dyma gyfwng y carwn ddweyd gair wrth fyned heibio. Pe y buasai yma Deml y Plant y pryd hynny, dichon y buasai ardystiad yr hogyn bach o Dreffynnon yn aros,—am fod hogiau a hogenod, ar ol tyfu i dipyn o faint, yn credu (yn enwedig os byddant mewn "office") eu bod yn ormod i fyned i'r Band of Hope, pryd y mae Teml y Plant yn goddef rhai hyn, heblaw ei bod yn fwy atyniadol i'r dosbarth hwnnw. Fodd bynnag, dyna hanes Mr. Wynne o 1863 i 1872,—"nid oedd yn llwyrymwrthodwr. "Yn 1872 y mae yn ymuno a chyfrinfa Seisnig o'r enw "Star of Promise."·Ni fu yno ond am ychydig o wythnosau na ddechreuodd anesmwytho, gan feddwl y gallasai gychwyn achos cyffelyb ymysg y Cymry. Yn y man y mae ef ac un arall o'r enw Eben Jones yn cychwyn y gyfrinfa gyntaf ymysg Cymry Lerpwl, yr hon a gedwid yng nghapel Cymraeg Chatham Street. "Ancient Briton" ei gelwid hi y pryd hynny, a dyna ei henw heddyw, er mai teg yw dweyd hefyd, er mai hon ydoedd y gyntaf ymhlith y Cymry, mai Saesones oedd hi, ac mai Cyfrinfa y Cambrian, Bootle, oedd y Gymraes gyntaf. Ar ol agor yr Ancient Briton " cododd tyrfa fawr eu pennau wedi hynny, yr hen "Brince Llewelyn," yn Pall Mall, " Hiraethog, yn Birkenhead, "Gomer" a,Caradog;" "Celtic," "Dewi Sant," "Goronwy," Islwyn," "Glyn Dwr," "Gwalia," &c. Gall y rhai hyn oll a llawer yn ychwaneg ddweyd heddyw am Mr. Llew Wynne mai "efe yw ein tad ni oll." Erbyn hyn y mae y Temlau hyn yn allu pur gryf yn y dref a'i hamgylchoedd; a phob tri mis ceir cyfarfod o'r Dosbarth Demlau; a'r tair blynedd diweddaf Llew Wynne yw y D. B. Demlydd (Dosbarth Brif Demlydd). Y mae hefyd yn swyddog yn yr Uwch Deml. Y mae yn ddirprwywr hefyd i'r "Wir Deilwng Uwch Deml." Yr oeddym yn son ar y dechreu nad oedd wedi graddio; pe y gwelet yr oll lythrennau sydd ganddo, ti a ryfeddet, ac nid rhai rhad ydynt ychwaith. Hir oes iddo i lafurio gyda Themlyddiaeth Dda, a chyda'r Eisteddfodau y mae wedi gwneyd cymaint i sicrhau eu llwyddiant.