Rhigymau'r Ffordd Fawr/Gwanwyn
Gwedd
← Y Lloer ar y Môr | Rhigymau'r Ffordd Fawr gan Dewi Emrys |
Haf → |
GWANWYN.
(Wrth y Tloty).
Dwg allan yr hynafgwr crwm o'i gell,—
Rho iddo fwynach help na help ei ffon;
Gad iddo weled ernes dyddiau gwell
Yn gwenu arno mewn briallen lon;
Gad iddo weld yr had fel cad yn codi
I'w dilyn, seren y dadeni mawr;
Gad iddo ado'i gongl a nos ei dlodi,
A chlywed utgyrn aur y newydd awr.
Edrych! Mae'r wennol eisoes uwch y ddôl
Yn chwilio am yr hen ysgubor gynt;
Mae yntau hefyd ar ei daith yn ôl
At ryw hen nyth a chwalwyd gan y gwynt;
Ac ond it ddal i'w ddilyn, druan hen,
Cei weled gwawr plentyndod yn ei wên.