Neidio i'r cynnwys

Rhigymau'r Ffordd Fawr/Y Filltir Gyntaf

Oddi ar Wicidestun
Rhigymau'r Ffordd Fawr Rhigymau'r Ffordd Fawr

gan Dewi Emrys

Y Ffordd Fawr

Y FILLTIR GYNTAF.

A weli di'r ffordd yn dechreu
Ynghanol y tryblith mawr,
Heb arni na llewych seren
Na llewych goleuni'r wawr?

A weli di'r ffordd yn rhannu
Heb fencydd o niwloedd maith,
Heb arni na chysgod angau
Na chysgod pererin chwaith?

A weli di'r ffordd yn dilyn
I ganol y llus a'r coed,
Heb arni na rhigol olwyn
Nac argraff ewin na throed?

A weli di'r ffordd agored
Yn barod yng ngoleu'r wawr?
A weli di'r perthi mudion?
A weli di'r disgwyl mawr?

A glywi di sŵn y cerdded
Allan i'r bore clir?
A glywi di'r gân a'r trydar
Wedi'r distawrwydd hir?


A weli di un yn sefyll,
A'i lygad fel fflam y nef?
A weli di bob creadur
Yn plygu o'i amgylch ef?

A weli di hwn yn ymdaith
Ymlaen at arfogaeth well,
A'r niwl dros ei gamre cyntaf
Yn cau mewn anoddun pell?

Nodiadau[golygu]