Rhobat Wyn/Bronfraith

Oddi ar Wicidestun
Y Gân a Gollwyd Rhobat Wyn

gan Awena Rhun

Nos Da

BRONFRAITH

Y LLYNEDD gwelais di ar frig y pren
Yn arllwys cân o'th fron uwch dylni'r awr;
Ni fynnwn iti dewi er bod llen
Ffarwel ar gyfaill,—newydd fynd i lawr.—
Y llen i guddio stori'r graith fach las
A welais ar ei rudd o'r talcen glo,
Ac ofer mwy oedd disgwyl moddion gras
Ar balmant stryd o'i hiwmor tawel o.
Fe gefnodd ar y llech a'r dillad gwaith,
A chludodd yn ei gorff swm drud o'u llwch
I orwedd draw o'r glo a'r chwarel laith,
A phridd ei gul ystâd sy drosto'n drwch.
Rhwydd hynt i'th fiwsig pêr, aderyn rhydd!
Er mwyn y gweithwyr sy ar drot bob dydd.


Nodiadau[golygu]