Rhobat Wyn/Y Gân a Gollwyd

Oddi ar Wicidestun
Rhobat Wyn Rhobat Wyn

gan Awena Rhun

Bronfraith

Y GÂN A GOLLWYD

WRTH fynd heibio'r dydd o'r blaen, sefais i sylwi ar nifer o wartheg yn pori'n braf mewn cae oedd am y clawdd â'r ffordd. Yr oedd yn ddiwrnod tawel o Ragfyr; ond fe daerech bron mai'r Hydref a'i swyn di-ail a lanwai'r tir drwyddo draw, a bod rhan o'r haf hefyd yn dal i loetran, fel petai'n methu â chefnu arnom.

Drwy'r tawelwch torrai swish-swish y pori ar fy nghlyw; a dyna hyfryd yw'r sŵn hwn ond inni ddechrau gwrando arno.

Hoffwn liw'r adlodd, a chredwn fod blas da arno i'r anifeiliaid. Yn sydyn, dyna lais merch yn torri allan i ganu o lofft un o'r tai cyfagos. Yr oedd y ffenestri yn agored, a hawdd oedd clywed y geiriau—hen eiriau hysbys o'r dyddiau gynt :

"Wedi teithio mynyddoedd, llechweddi a chymoedd, a llawer o diroedd blinderus, 'does unlle mor swynol, na man mor ddymunol â chartref bach siriol cysurus. Pan fo'r gwyntoedd yn chwythu, a'r storm yn taranu ei chorn i groesawu y gaeaf, mae nefoedd fy mynwes yn yr hen gornel gynnes, yng nghwmni fy nheulu anwylaf."

Deellais yn union bod y gwartheg yn gwrando ar y llais. Gwyddwn nad oedd â wnelo'r ferch honno ddim â'r fferm; a diau na wyddai hi ddim ychwaith, fod y cae gerllaw, deulu go ddeallus yn gwrando arni'n canu. Dalient i bori bob yn ail a pheidio,—yn union fel yr oedd tinc y llais yn eu swyno.

Dylwn ddweud nad yr alaw a geir ar y geiriau yn Ceinion y Gan a ganai, eithr alaw arall mwy diweddar, un â'r nodau uchaf yn soniarus odiaeth. Nid wyf yn cofio pwy yw awdur yr alaw dan sylw; ond fe wyddom bawb ohonom, ond odid, mai Mynyddog biau'r geiriau.

Dyna'r gytgan yn ymarllwys eto'n hyfryd dros y tir: "O, fel mae'n dda gen i 'nghartref, hen le bendigedig yw cartref; chwiliwch y byd drwyddo i gyd, 'does unman yn debig i gartref. . .

Sylwais bod un fuwch frith arbennig, yn fwy anesmwyth na'r lleill, ac yn sŵn y gytgan a'r nodau ffenestr uchaf, safodd, a throes ei phen i gyfeiriad y gan wrando'n astud.

Tawodd y llais, aeth hithau ymlaen â'r pori . . . "A phrin mae'r piseri heb siarad. . ." a delorai'r llais drachefn. Tebyg bod y ferch yn brysur gyda rhyw orchwyl neu'i gilydd, a'r gân hon a ddigwyddai ymdonni yn ei chalon ar y pryd, gan ail dorri allan bob yn ail a pheidio, drwy'r ffenestr yn rhyw genlli o fiwsig pur.

Cododd y fuwch frith ei phen drachefn, ac edrychodd y tro hwn i gyfeiriad y gorwel draw. Edrychais innau i'r un cyfeiriad â hi. Gresyn na chawswn wybod beth a redai drwy'i meddwl hi ar y pryd !

Tybed a ymlifai ryw ymsyniad melys drwy ei gwaed—rhywbeth a ddaeth iddi o'r gorffennol pell? Pwy a ŵyr na feddyliai hi ar y munud ei bod yn gweld morwyn lanwedd, piseri gloywon, stôl fach a dôl feillionog?

Peth naturiol a chyffredinol ym myd merched ffermydd yn yr hen amser fyddai canu wrth odro Mwynig, Seren, Brithen a Bronwen ac yn y blaen. Tybed a yw'r arferiad prydferth wedi llwyr ddarfod o'r tir?

Y mae lle i ofni nad oes neb heddiw a fedd galon ddigon hapus i fedru canu wrth odro ! A rhaid nad yw'r oes hon yn coelio bod mwy o laeth i'w gael gan fuwch wrth ganu iddi.

Fodd bynnag, peth amheuthun iawn ar ddydd o Ragfyr ydoedd clywed merch yn canu gydag arddeliad wrth ymdrin â gwaith ei thŷ. . . .

Ail-gychwynais yn araf i'm siwrnai, a sŵn y gân 'yn dal i'm dilyn: "Chwiliwch y byd drwyddo i gyd . . ." ac o gyfeiriad y gwrych aur-felyn ym mhen draw'r cae, diaspedai y "Mw" llawnaf a glywais erioed.

Nodiadau[golygu]