Rhobat Wyn/Rhobat Wyn

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Rhobat Wyn

gan Awena Rhun

Y Gân a Gollwyd

RHOBAT WYN

WEL do, wel di, mi ddois o'r diwadd;
A welis i rotsiwn beth yrioed,—
Mi rydw i'n teimlo f'hun yn rhyfadd
A simsan ofnatsan ar y nhroed;
Ma'n chwith gin i feddwl am dana' f 'hun
Yn dringo'r hen lwybyr ma mor ddi—lun.

Ydi'n y wir, ma'n chwithig meddwl,
Ond dyna, wath heb a chadw sŵn,
Ac wrth gysidro wedi'r cwbwl,—
Yn tydw i'n hen ac felly fy nghŵn;
Ma'n rhaid imi ista am funud, Twm,
Ma'r gorifyny ma dipyn yn drwm.

Ydi'n y wir, a—chadal chditha,—
Cheith runoni fod yn sionc o hyd;
Rhyw drefn go ddyrys sy i yrfa
Ychdi a funna a phawb trw'r byd;
Estalwm, mi fydda'r blynydda'n hir;
Ma nhw'n mynd fel gwynt heddiw trw'r tir.

Ydw, mi rydw i wedi cal byw,
A hynny'n go hir mi dybia i;
A dylwn ddiolch llawar i Dduw
Am oes o iechyd cystal, wel-di;
Am help i ddiodda pob croes a phob craith;
Go dda fu hi arnai ar hyd y daith.


Ac er na fûm i rioed dros y dŵr
Yn gweld y byd ma run fath â chdi,
Ffeiriwn i mo mywyd hefo run gŵr
Pedasa'r cyfla'n dwad i mi;
Na, thrown i mo nghefn ar hen lwybra'r allt,
Lle cawn i le gwell? rydw i'n methu dallt.

Os ca i'r byd nesa'n debig i hwn,
Chŵyna i ddim ar fy lle;
Mi wn mod i wedi cal treulio f'oes
Yn y fan gosa i'r ne

O do, neno'r tad, mi ês i un tro
I Loegar yn llanc i gyd,
Ond nid on i'n licio'r bobol na'r gwaith;
Rodd Rhobat allan o'i fyd.

Rhyw ddeunaw ne lai oedd f'oed i'r pryd hyn;
Ond fachgan, wath iti prun,—
Mi griais fel babi lawar i dro
Pan ôn i ar ben fy hun.

Hirath? wel ia na fu rotsiwn beth;
Chwertha faint fynno ti, Twm;—
Rodd y crio weldi, yn fendith fawr
I galon odd fel y plwm.

A chyn pen y mis daeth Rhobat yn ôl,—
Yn ôl at i fam a'i dad;—
Yn ôl at y defaid a chwmni iach
Gnethod a bechgyn y wlad.


Yn ôl i'r mynydd ynghwmni'r hen gi,—
Pe gwela ti fel rodd o
Yn campio'n i afiath o nghwmpas i;
Mi roeddo fel peth o'i go.

Ac yn wir i ti, ron inna run fath,
Cyn bellad o ngho â'r ci;—
Ron i'n meddwl fod eithin, grug a brwyn
Yn groeso i gyd i mi.

Ac am wn i fod y defaid yn dallt
Mod i wedi bod i ffwrdd;
Ond croeso go sych ges i gynnu nhw,
Nenwedig ryw un hen hwrdd.

Mi sefodd o, fachgan, o mlaen i'n stond,
A drychodd arnai'n syn;
Run fath a dasa fo'n gofyn i mi,—
Be gyrrodd di'n ôl, Rhobat Wyn?

Ond wath iti prun, ron i wrth y modd,
Yn i gweld nhw'n hardd i gyd;
A phenderfynis nad odd na le gwell
I'w gal yn unlla'n y byd.

Odd gin i gariad? Wel ôdd debig iawn,
Mi faswn yn od heb run!
Heb honno mae gwagder ym mywyd llanc,
Mi wyddost hynny dy hun!


Wel wir, ma dipin o chwerthin fel hyn
Yn iechyd i galon dyn;
Wath ni heb a thynu rhyw wynab hir,
Os yda ni'n mynd yn hŷn.

Mi rydwi am fyw dipyn eto, Twm,
Er mod i'n unig heb Ann;
Ma hi wedi mynd es blwyddyn yn ôl
I orfadd ym mhridd y Llan.

Ma Wiliam y mab yn dwad ar dro
I edrach am dana i;
Ma Alis, y ferch, yn byw yn o bell,
A llond y tŷ gyni hi.

Ond yn y wir, ma'r hen ddeuar ma'n braf;
Mwy annwyl mae'n mynd o hyd;—
A biti garw fod amsar, ynte,
Yn gyrru pobol o'r byd.

Ond pan fydd y ngyrfa inna ar ben,
Mi wela'r hen ddeuar, Twm,
Yn fy lapio'n i chesal lydan, glyd
I gysgu a chysgu'n drwm.

Ma'r awal yn oeri rŵan, wel-di,
Rhaid mynd i'r tŷ at y tân;
Handi a Phero! mi awn ni'n tri bach
Am swpar, mygyn, a chân.

Ond drycha mewn difri, Twm, ar y lli;
Welist ti o'n gochach? ni welis i.

Nodiadau[golygu]