Rhobat Wyn/Diddigrwydd

Oddi ar Wicidestun
Y Llwybr Gynt Rhobat Wyn

gan Awena Rhun

Clychau Piws a Gwyn

DIDDIGRWYDD

RHWYFO araf, araf rydd,
A'r môr las a thawel,
Pan fo gwres a gwrid y dydd
Yn cilio dros y gorwel.

Olion tywydd ar y bad,
A chreithiau'n dryfrith drosto,
Murmur tonnau yn fwynhad,
A serch yn sain y rhwyfo.

Rhwyfo araf—di-ystŵr,
A'r awel leddf yn felys;
Lleuad lawndeg uwch y dŵr,
A'i gwên yn dangnefeddus.


Nodiadau[golygu]