Rhobat Wyn/Clychau Piws a Gwyn

Oddi ar Wicidestun
Diddigrwydd Rhobat Wyn

gan Awena Rhun

Dafad ac Oen

CLYCHAU PIWS A GWYN

Os mynni weld eu tegwch,
Dos draw i fin y môr,
Lle mae y tir a'r tywod
Yn cadw yr ystôr.

Os mynni gael eu miwsig
Yn rhan ohonot ti,
Dos, eistedd yno'n dawel
A thyrd â'r gân i mi.


Nodiadau[golygu]