Rhobat Wyn/Dafad ac Oen

Oddi ar Wicidestun
Clychau Piws a Gwyn Rhobat Wyn

gan Awena Rhun

Y Maes Gwenith

DAFAD AC OEN

CLYWAIS ffermwr yn dweud rywdro mai sgolars ofnadwy yw defaid. Ac yn ddiamau, fe wyddai ef yn bur dda am beth y siaradai. Tebyg i'w clyfrwch fod yn drech nag ef drocon lawer, a'i wylltio allan o bob rheswm o'r herwydd.

Ymhlith y sgolars hyn, fel y digwydd hefyd, ymhlith dynion, fe geir rhai ohonynt yn dewis ffordd fawr yn hytrach na'r porfeydd gwelltog a fwriadwyd iddynt. Unwaith y cânt flas ar ryddid rhamantus a rhyfygus y dragwyddol heol ni fedrant ddygymod mwy â llonyddwch hyfryd y cae glas a'i arogl pêr. Ac y mae hynny'n beth i synnu ato.

Dolur llygad i bawb ystyriol ydyw dafad fedlemllyd yr olwg—a'i chnu gwlân yn hongian yn grybibion amdani—ar hyd y stryd yn ceisio osgoi rhyw berygl parhaus,—un ai'r cerbydau dirif a'u trwst aflafar, neu blant, a hoffant ei hannos i rywle, ni waeth i ba le.

Diddorol oedd sylwi ar un o'r crwydriaid hyn y dydd o'r blaen yn ceisio dianc rhag rhyw grwtyn bach a redai ar ei hôl â rhoden yn ei law. Hawdd gweld na faliai hi fawr yn yr erlidiwr bach. Croesodd уг heol dan ei drwyn i gael cno ar y dant-y-llew a ysmiciai arni allan o rigol carreg mewn talcen tŷ.

Y mae hi beunydd â'i llygad yn ei phen lle y bo tamaid blasus, ac y mae ei menter yn ddi-ben-draw. Chwaer i hon a aeth â'i hoen bach gwyn allan o'r cae un noson drwy fwlch pur gyfyng yn y gwrych. Gwyddai'n dda ei fod yn ddigon cryf erbyn hyn i'w dilyn hi i'r priffyrdd; ac ymaeth a hwy. Dilyn ei fam yn ufudd a wnai'r oen, wrth gwrs, ac ni chŵynodd, er iddo deimlo y rhywbeth caled hwnnw, sef y ffordd a'i cherrig a'i thar, yn bur gas i'w draed, rhagor y cac esmwyth, glân, a adawodd. Ond ni fedrai ofyn i'w fam i droi'n ôl. Rhaid oedd ei dilyn.

I ble'r oedd hi'n mynd? Ni wyddai ef ddim. Ond fe wyddai ei fam yn burion fod pobl yn byw yn y stryd fawr honno, a bod yna siawns ardderchog am dameidiau blasus o'u gerddi; hynny ydyw, os byddai'r llidiardau yn gil—agored. Ac yr oedd ambell wal rhwng yr ardd a'r ffordd y medrai hi roi naid drosti mor hawdd ag y medr bugail chwibanu.

Ni fedrai ddisgwyl i'r oen, y tro cyntaf fel hyn, ei dilyn dros y waliau; ond pan geid llidiart yn agored fe gai'r bychan yntau fynediad helaeth i mewn wrth ei hochr. A chafwyd gryn rwyddineb y noson hon i fynd i erddi'r stryd fawr i'w helpu eu hunain, cans 'roedd pawb yn eu gwlâu erbyn hyn.

Melys ryfeddol ydoedd blagur cynnar y coed rhosynnau i ddannedd y fam; a swcrodd yr oen i'w profi. Cydsyniodd yntau eu bod yn dda gan gnoi ei gil yn ddel. Ni adawyd gymaint ag un ddeilen a oedd o fewn cyrraedd, ar ôl. Croeso i bobl y tŷ o'r brigau a'r pigau.

Wedi diwallu eu blys â phob llysieuyn a ffansïent, aeth y fam yn ei blaen am heolydd cefn stryd ar ôl stryd. Rhoddai naid dros wal uchel ambell waith, ac ymdroai am gryn amser gan adael yr oen i ymdaro fel y mynnai. Fe âi yntau, druan, yn ei flaen, ac yna yn ei ôl i geiso dod o hyd iddi. Dechreuodd frefu'n dorcalonnus. Ar hynny, rhoes y fam naid ato i'r ffordd, gan ei swcro'n ddistaw bach: "Dilyn dy fam. Mi wn i am erddi eraill haws mynd iddynt; a phaid a brefu fel yna eto, da thi, neu mi godi bobol y tai 'ma ! Fel hyn y cefais i fy nysgu gan fy mam, wyddost, a gwna dithau fel 'rwyf innau'n gwneud."

Oedd, 'roedd llidiart y tŷ pellaf yn gil—agored. Rhywun diofal wedi bod trwyddi'n ddiweddar. Ceid yn yr ardd hon ddigon o laswellt, ond rhywbeth arall a geisiai'r fam. 'Roedd digon o laswellt a llygaid-y-dydd i'w cael yn y caeau. Nipiwyd ychydig ar y planhigyn hwn a'r llysieuyn arall a ddigwyddai fod yma a thraw i'w profi. Rhywfodd nid oedd y fam yn fodlon ar yr hyn a gawsai yn yr ardd hon.

Y broblem nesaf oedd sut i fynd i'r ardd am y terfyn. Gwelwyd fod y tir yn codi bron hyd uchter y wal yn y gongl yng ngwaelod yr ardd. A chydag ychydig o amynedd medrwyd mynd rhwng y wifren bigog a thrwy ddrysi'r mân—goed i'r ochr arall yn weddol hylaw.

Erbyn hyn yr oedd hi'n olau dydd; ac yn fore braf at hynny. Cododd gwraig y tŷ pellaf ond un o'i gwely ac aeth at y ffenestr i symud y llenni.

Rhoes waedd, a dechreuodd dafodi'n enbyd: "Hen ddafad—yr hen sopan—yn yr ardd yn nipio'r goeden falau hynny a fedr hi! Wel, yn wir, y mae peth fel hyn yn ddigon â thorri calon neb!" Llefarodd ribi-di-res o eiriau hallt am ei pherchennog, a sŵn crio yn ei llais.

Pan glywodd y gŵr bod yno ddafad yn gwneud hafog yn ei ardd ni bu yntau'n hir cyn dechrau ystwyrian, a deffro.

Ar hyn, syrthiodd llygad y wraig ar yr oen yn y bordor wrth ochr y llwybr.

"A be ddyliet ti, Dei?" ebr hi, wedi newid ei thôn, ac yn agor y ffenestr yn lletach, "Y mae yma oen bach hefyd, y cyntaf imi ei weld eleni, ac y mac yn cnoi ei gil yn fân ac yn fuan uwchben y llwyn briallu melyn. Y mae ei ben o tuag ataf, ac yn sbio i ngwyneb-i. Y mheth bach clws-i!"

Nodiadau[golygu]