Rhobat Wyn/Y Maes Gwenith

Oddi ar Wicidestun
Dafad ac Oen Rhobat Wyn

gan Awena Rhun

Gwelais

Y MAES GWENITH

Pwy sy na châr ymborthi ar ei liw
Pan fo'n ymdonni'n wyrdd dan awel fwyth,
Pan ddelo Awst a Medi—fisoedd gwiw—
I ddangos gwaith yr haul a gwyrth y ffrwyth?
A phwy a ŵyr sawl mil a gafodd wledd—
Y rheini fedrodd aros ennyd fach
I sylwi ar y melyn fôr o hedd,
A drachtio'n helaeth o'i awelon iach?
Ac os yw hil y popi yno'n frith,
Na syrthied cuwch bydol—ddyn ar y rhain;
Cans hwythau sy gariadau haul a gwlith
Drwy ddyddiau braf cynefin hoff y brain;
Y Bywyd mawr sy'n rhodio yn y maes,
A fyn y chwyn o hyd i'w wisgoedd llaes.


Nodiadau[golygu]