Rhobat Wyn/Y Ddraenen
← Y Dringo'n Ôl | Rhobat Wyn gan Awena Rhun |
→ |
Y DDRAENEN
UN min nos gweddol braf o fis Mawrth, daeth Nanws yn ôl o'r dref tua'i chartref newydd, â modrwy aur am ei bys. Oedd, yr oedd hi wedi priodi Ifan, ei chefnder, o'r diwedd, serch ei fod o tua thrigain oed, a hithau, rhaid cyfaddef, yn tynnu'n agos at yr un oedran.
Bu Ifan yn weddw am ysbaid o ugain mlynedd; a phetai o heb yr eneth fach a adawyd ar ei ddwylo o'i briodas gyntaf, buasai Nanws ac yntau wedi priodi ers llawer blwyddyn. Ond yr oedd hi'n rhy ofnus neu'n rhy onest i gymryd y ddau efo'i gilydd, ac fe'i hystyrrid gan bawb yn hen ferch gall a solat.
Cryn dipyn o boen a helbul a fu i Ifan oherwydd ei blentyn, Olwen. Ni fedrai gael yr un forwyn i aros yno'n hir. Yr oedd rhywbeth yn anian yr eneth hon a barai i'r merched hyn ei chashau.
Fodd bynnag, cawsai Olwen ddigon o foethau, a gormod yn wir, gan ei hewythr Dafydd, brawd ei thad, a drigai gyda hwy,—hen lanc crintachlyd yng ngolwg pawb, bron. Ond fel y digwydd, fe wirionodd yr hen lanc yn lân ar blentyn ffan, ei frawd; a phan fu farw, gadawodd tua mil o bunnoedd iddi hi ar ei ôl. Ni chafodd neb arall o'r teulu yr un ffyrling.
Wedi dyfod i'w hoed a chael yr eiddo hwn i'w llaw, priododd Olwen gyda llanc o Sais taclus a golygus, a arferai ddyfod i'r ardal bob haf ar ei wyliau, a dywedai pawb ei bod yn eneth lwcus dros ben.
Ac erbyn hyn, yr oedd Olwen a'i gŵr wedi cartrefu yn Llundain ers dros flwyddyn, ac yn hapus a llwyddiannus iawn eu byd yn ôl tyb pawb. A dyna sut y medrodd Ifan berswadio Nanws o'r diwedd i'w briodi.
Yr oedd ganddi hi geiniog reit ddel wrth gefn, wedi cynilo a hel am lawer blwyddyn; ac nid oedd yntau yn dlawd o bell ffordd. Sgwrsiai'r ddau yn ddifyr wrth bwrdd swper noson eu priodas, ac edrychent ymlaen yn obeithiol am lawer blwyddyn dawel a dedwydd efo'i gilydd.
"Bydd yn hen bryd imi fynd ati hi i spring clinio'r tŷ 'ma rŵan, rhag ofn iddynt ddod yma dros y Pasg," meddai Nanws wrth sôn am Olwen a'i gŵr. "Grym annwyl! paid â sôn am ddechrau tynnu'r tŷ 'maʼn dy ben ar ddechrau ein mis mêl, fel hyn !"— meddai Ifan.
"Hyh!" oedd yr ateb,—"mis mêl, yn wir !—'chefais i mo 'ngeni i lawer o fêl. . ."
Torrwyd ar y sgwrs. Pwy a ddaeth i'r tŷ fel ergyd o wn, ond Olwen, wedi ei gwisgo â gwychder Llundain o'i chorun i'w sawdl.
"Helo! modryb Nanws, pwy fuasai'n disgwyl eich gweld chi yma? Sut ydych chi?"
"'Rwyf yn burion, wir," oedd ateb y fodryb. "A sut ydych chi, Nhad?"
"Ond o ble y doist ti mor sydyn â hyn?" gofynnai'r tad.
"O, peidiwch a dechrau fy holi rŵan, 'rwyf bron disgyn eisiau cwpaned o de," meddai hithau.
Gwnaeth Nanws iddi eistedd wrth y bwrdd i gym- ryd tamaid; ac ni raid dweud ddarfod i Olwen wneud cyfiawnder â'r swper blasus, dan adrodd wrthynt ei helynt heb wrido na cholli deigryn. Ond yr oedd wyneb ei thad yn ddrych o dristwch.
Yr oedd ei gŵr wedi ei thwyllo drwy fedru cael ei harian i'w ddwylo'i hun, ac wedi ffoi, na wyddai neb i ble. Yr oedd hi wedi chwilio ofer amdano, a yn galwai ef yn bob enw gwaeth na'i gilydd. Nid oedd ganddi ddim i'w wneud ond dod adre'n ôl at ei thad. Ac wedi gorffen bwyta, tynnodd sigaren o'i blwch, goleuodd fatsen a smociodd. Eisteddai Nanws yn ddiymadferth a mud, a syllai'n syn ar y fodrwy aur a sgleiniau'n bryfoclyd am ei bys hi ei hun.