Rhobat Wyn/Y Dringo'n Ôl

Oddi ar Wicidestun
Fy Nghlomen Fach Ddu Rhobat Wyn

gan Awena Rhun

Y Ddraenen

Y DRINGO'N ÔL


MEG bach, tyd a'r hen ddillad gwaith
At y tân yn awr i'w heirio;
Clywis fod isio rhai fel fi
Yn eu hôl i'r chwaral eto.

Ydi, ma'r byd o'i go, yn siwr;
Rwyt yn siarad synnwyr rŵan,—
Does dim ond blwyddyn gwta bron,
Ers pan ôn in bump a thrigian.

Y pryd hwnnw rôn i'n rhy hen
I weithio'n hwy ar y creigia;
Rydw i'n ifanc heddiw, Meg,
Am fod rhyfal isio'r hogia.

Lwc bod fy iechyd i mor dda,
Yn wir, rydw i'n bur sbringar;
Ond biti garw na fedrid rhoi
Ryw stop ar ryfal a'i gancar!

Tyd a'r dillad i'w heirio, Meg,—
Ma hi'n gletach ar yr hogia;
Caf inna a'm bath ddringo'n ôl
I fentar â hedd y creigia.

Rhaid codi'n fora foru, Meg!
Ac er gwaetha byd mor ddyrys,
Bydd dŵad adra bob min nos
I'r hen gornal eto'n felys.


Nodiadau[golygu]