Rhodd Mam i'w Phlentyn/Cynghorion Tad i'w Blant
← Catecism o Enwau | Rhodd Mam i'w Phlentyn gan John Parry, Caer |
Gweddïau → |
CYNGHORION TAD I'W BLANT
GWRANDEWCH, blant, addysg tad; ac erglywch i ddysgu deall. Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda; na wrthodwch fy nghyfraith. Canys yr oeddwn yn fab i'm tad, yn dyner ac yn anwyl yn golwg fy mam. Efe a'm dysgai, ac a ddywedai wrthyf, dalied dy galon fy ngeiriau; cadw fy gorchymynion, a bydd fyw. Cais ddoethineb, cais ddeall : penaf peth yw doethineb. Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd, deall da sy gan y rhai a'i hofnant ef. Ofn yr Arglwydd ydyw doethineb, a chilio oddiwrth ddrwg sydd ddeall. Cais ddoethineb, ac a'th holl gyfoeth cais ddeall. Hi a'th ddwg di i anrhydedd os cofleidi hi. Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir. Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus. Gochel hi, na ddos ar hyd-ddi; cilia oddiwrth hi a dos heibio. Cenys ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch, ni wwyddant wrth ba beth y tramgwyddant. Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwy fwy hyd ganol dydd.
Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctyd, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesấu o'r blynyddau yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim dyddanwch ynddynt.
YMADRODDION DETHOLEDIG.
Y mae plant yn meirw! am hyny fe ddylai plant fod yn barod i farw.
Mae enaid gan blentyn; am hyny y rhieni na ofalant am eneidiau eu plant, ydynt yn esgeuluso eu rhan anfarwol hwynt.
Nid oes neb yn medru heb eu dysgu; am hyny, fe ddylid dysgu yr hyn sy dda i bawb.
Nid yw yn gywilydd i neb fod yn dysgu : ond y mae yn gywilydd i bawb fod heb wybodaeth.
Y cam cyntaf o wybodaeth ydyw gwybod ein bod heb wybod, a'r cam olaf ydyw gwybod fod ychwaneg i'w wybod nag a allwn ni wybod byth.