Rhodd Mam i'w Phlentyn/Dosparth I
Gwedd
← Rhodd Mam i'w Phlentyn | Rhodd Mam i'w Phlentyn gan John Parry, Caer |
Dosparth II → |
Y
CATECISM CYNTAF, &c.
DOSPARTH I.
Gof. Pwy a'ch gwnaeth chwi ?
ATTEB. Duw.
G. Beth yw Duw?
A. Yspryd.
G. Pa sawl Duw sydd?
A. Un.
G. A ydyw Duw yn dragywyddol?
A. Ydyw ; heb ddechreu na diwedd.
G. Ymha le y mae Duw?
A. Yn y nefoedd.
G. A ydyw efe yn un lle arall?
A. Ydyw; yn mhob man.
G. A ydyw Duw yn gwybod pob peth?
A. Ydyw .
G. A all Duw wneud y peth a fyno?
A. Gall.
G. A ydyw Duw yn gyfiawn?
A. Ydyw ; yn gyfiawn a sanctaidd.
G. A ydyw Duw yn ddigyfnewid?
A. Ydyw, yr un fath bob amser.
G. Ai Duw biau bob peth?
A. Ie, yn y nefoedd a'r ddaear.
G. A ydyw Duw yn dda?
A. Ydyw; da yw Duw i bawb.