Rhodd Mam i'w Phlentyn/Dosparth II

Oddi ar Wicidestun
Dosparth I Rhodd Mam i'w Phlentyn

gan John Parry, Caer

Dosparth III

DOSPARTH II

G. Ai Duw greodd bob peth?

A. Ie.

G. Beth ydyw creu?

A. Gwneud peth o ddim.

G. Ai o ddim y gwnaeth Duw bob peth?

A. Ie

G. A all neb arall wneud peth o ddim?

A. Na all


G. O ba beth y gwnaeth Duw y ddaear?

A. O ddim .

G. O ba beth y gwnaeth efe ddyn?

A. O bridd y ddaear.

G. Mewn pa faint o amser y gwnaeth efe bob peth?

A. Mewn chwe diwrnod.

G. Pa beth a wnaeth Duw y seithfed dydd?

A. Gorphwys arno a'i sancteiddio ef.

G. A ddylem ninnau wneuthur yr un modd?

A. Dylem.