Rhodd Mam i'w Phlentyn/Dosparth III
Gwedd
← Dosparth II | Rhodd Mam i'w Phlentyn gan John Parry, Caer |
Dosparth IV → |
DOSPARTH III
G. Pwy oedd y dyn cyntaf?
A. Adda.
G. Pwy oedd y wraig syntaf?
A. Efa.
G. Pa sawl rhan sydd mewn dyn?
A. Dwy ran.
G. Pa rai ydynt?
A, Corph ac epaid.
G. O ba beth y gwnaeth efe gorph dyn?
A. O bridd y ddaear.
G. Beth ydyw enaid dyn?
A. Yspryd i fyw byth.
G. A oes eneidiau gan blant?
A. Oes gan bawb.
G. Y'mha le y dodwyd Adda ac Efa wedi eu creu?
A. Y'ngardd Eden.
G. Ai yno y maent etto?
A. Nage.
G. Pwy a'u gyrodd oddiyno?
A. Duw.
G. Am ba beth y gyrodd Duw hwynt oddiyno?
A. Am bechu i'w erbyn.
G. Beth ydyw pechod?
A. Anghyfraith.
G. Pwy roes gyfraith i ddyn?
A, Duw.
G. Beth yw'r drwg mwyaf?
A. Pechod.
G. Pwy bechodd gyntaf?
A. Adda ac Efa.
G. Pwy bechodd wed'yn?
A. Pawb.