Rhodd Mam i'w Phlentyn/Dosparth VII
Gwedd
← Dosparth VI | Rhodd Mam i'w Phlentyn gan John Parry, Caer |
Dosparth VIII → |
DOSPARTH VII
G. A fydd dydd barn?
A. Bydd.
G. Pa bryd y bydd dydd barn?
A. Yn niwedd y byd.
G. Pwy fydd y barnwr?
A. Iesu Grist.
G. Pwy gaiff eu barnu?
A. Pawb.
G. A gawn ni ein barnu?
A. Cawn.
G. Yn ol pa beth y bernir ni?
A. Yn ol ein gweithredoedd.
G. Wrth ba reol y bernir ni?
A. Wrth reol Gair Duw.
G. Y'mha le y mae gair Duw?
A. Yn y Bibl.
G. A ddylem ni ddysgu darllen y Bibl?
A. Dylem.
G. Beth ydyw edifeirwch?
A. Cyfnewidiad y meddwl.
G. Pa fath feddwl sy genym wrth natur?
A. Meddwl drwg.
G. Peth ydyw ffydd?
A. Credu.
G. Beth sydd i ni gredu fel yr achuber ni?
A. Credu yn Iesu Grist.
G A ddylem ni gredu yn Iesu Grist?
A. Dylem bawb.