Rhodd Mam i'w Phlentyn/Dosparth VIII

Oddi ar Wicidestun
Dosparth VII Rhodd Mam i'w Phlentyn

gan John Parry, Caer

Catecism o Enwau

DOSPARTH VIII

G. Pa sawl gorchymyn sydd yn y gyfraith?

A. Deg.

G. Beth yw'r gorchymyn cyntaf?

A. Na fydded i ti dduwiau ereill onid myfi.

G. Beth yw'r ail orchymyn?

A. Na wna i ti dy hun ddelw gerfedig, na lun dim i'w addoli.

G. Beth yw'r trydydd gorchymyn?

A. Na chymmer enw'r Arglwyddd dy Dduw yn ofer.

G. Beth yw'r pedwerydd gorchymyn?

A. Cofia gadw'n sanctaidd y dydd Sabboth

G. Beth yw'r pummed gorchymyn?

4. Anrhydedda dy dad a'th fam.

A. Beth yw'r chweched gorchymyn?

G. Na ladd.

G. Beth yw'r seithfed gorchymyn?

A. Na wna odineb.

G. Beth yw'r wythfed gorchymyn?

A. Na ladrata.

G. Beth yw'r nawfed gorchymyn?

A. Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.

G. Beth yw'r degfed gorchymyn?

A. Na chwennych ddim sy'n eiddo dy gymmydog

G. Beth ydyw ein dyledswydd tuag at Dduw?

A. Ei garu ac ymddiried ynddo.

G. Beth yw ein dyledswydd tuag at ein tad a'u mam?

A. Eu parchu ac ufuddhau iddynt.

G. Beth yw ein dyledswydd tuag at ein cymmydog?

A. Ei garu fel ni ein hunnain.