Rhys Llwyd y Lleuad/Rhagair
← Rhys Llwyd y Lleuad | Rhys Llwyd y Lleuad gan Edward Tegla Davies |
Cynnwys → |
RHAGAIR
EIN cymydog drws nesaf ni, bobl y ddaear, ymysg y bydoedd, yw'r Lleuad. Eithr yn wahanol iawn i'n harfer yn gyffredin ynglŷn â chymdogion drws nesaf, ychydig iawn a ŵyr y rhan fwyaf ohonom am y cymydog hwn, ac ychydig iawn a holwn yn ei gylch, er ei fod ymysg y caredicaf o gymdogion.
Er mwyn ceisio dangos diddordeb y byd dieithr hwn, disgrifiais daith dau fachgen o Gymry iddo ac yn ôl.
Lawer gwaith yr hiraethodd pobl mewn oed yng nghanol blinderau bywyd am ryw fyd arall i gilio iddo am orffwystra. Efallai y bydd profiad y ddau fachgen hyn yn gymorth inni oll fodloni mwy ar yr hen fyd y cawsom ein hunain ynddo, er i'r bechgyn gael cryn ddifyrrwch ar eu taith na wyddom ni ddim amdano yn ein byd ni.
Cymerodd y bechgyn eu dull eu hunain, neu'n hytrach ddull hen ddyn y Lleuad, i fynd yno ac yn ôl. Na ddyweder bod eu dull yn amhosibl, canys ni ŵyr neb, yn ein hoes ni o bob oes, beth sy'n bosibl a beth sydd heb fod felly.
Fy nghysur wrth dderbyn adroddiad pendant y bechgyn ynghylch rhai pethau rhyfedd na wn ddim amdanynt yw cofio na ŵyr neb arall ddim amdanynt chwaith.
A'm hunig esgus tros ysgrifennu'r hanes yw ddarfod imi gyfarfod â bachgen deuddeg oed ryw fin nos o aeaf, yn edrych yn ddwys ar y lleuad lawn, gan holi popeth a ddeuai i'w feddwl yn ei chylch, a datgan dymuniad dwfn am fynd yno i weld y wlad trosto'i hun. Meddyliais fod eraill yn y tir, efallai, yn gofyn yr un cwestiynau, a dymuno'r un peth. Ac am hynny y carent gael hanes dau a anturiodd yno, ac a ddaeth yn ôl yn ddiogel.