Neidio i'r cynnwys

Rhyw ŵr—rhyfeddol ŵr yw Ef

Oddi ar Wicidestun
D'oes arnaf eisiau yn y byd Rhyw ŵr—rhyfeddol ŵr yw Ef

gan David Charles (1762-1834)

Per fydd dy gofio, Iesu da
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

136[1] Cysgod y Graig.
M. H.

1 RHYW ŵr—rhyfeddol ŵr yw Ef—
Sydd imi'n lloches gadarn gref;
Fel uchel graig fy nghysgod fydd
Rhag marwol wres y poethlyd ddydd.

2 Yr hynod Graig, ein Iesu cu,
Sy'n llawer uwch na'r nefoedd fry;
O dano Ef y llecha'i'n glyd,
Ym mhob rhyw stormydd yn y byd.

3 Trawyd y Graig; mae ffrydiau hon
Yn oeri'r llosgfa dan fy mron;
Trawyd y Graig; a'i dyfroedd pur
Yw 'nghysur yn yr anial dir.

4 Yn holltau'r Graig fy nhrigfa fydd,
Drwy ryfedd faith dragwyddol ddydd;
Caf yma hyfryd wedd fy Nuw,
Disgleiriad ei berffeithrwydd gwiw.

David Charles (1762-1834)

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 136, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930