Neidio i'r cynnwys

D'oes arnaf eisiau yn y byd

Oddi ar Wicidestun
'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy' D'oes arnaf eisiau yn y byd

gan William Williams, Pantycelyn

Rhyw ŵr—rhyfeddol ŵr yw Ef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

135[1] Haeddiant Drud.
M. H.

'D OES arnaf eisiau yn y byd
Ond golwg ar dy haeddiant drud,
A chael rhyw braw o'i nefol rin,
I 'mado'n lân â mi fy hun.

2 Er bod dy haeddiant gwerthfawr drud
Yn fwy na'r nef, yn fwy na'r byd,
Yn rhyw anfeidrol berffaith Iawn,
'R wy'n methu gorffwys arno'n llawn.


3 O flaen y drugareddfa fawr
Yn trengi wrth dy draed i lawr,
Gwêl y pechadur duaf gaed
Yn griddfan am rinweddau'r gwaed.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 135, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930