Neidio i'r cynnwys

'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy'

Oddi ar Wicidestun
Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist 'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy'

gan William Williams, Pantycelyn

D'oes arnaf eisiau yn y byd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

134[1] Dewis Iesu.
M. H.

1 'RWY'N dewis Iesu a'i farwol glwy'
Yn Frawd a Phriod imi mwy;
 Ef yn Arweinydd, Ef yn Ben,
I'm dwyn o'r byd i'r nefoedd wen.

2 Wel dyma un, O! dwedwch p'le
Y gwelir arall fel Efe,
A bery'n ffyddlon im o hyd,
Ym mhob rhyw drallod yn y byd?

3 Pwy wrendy riddfan f'enaid gwan?
Pwy'm cwyd o'm holl ofidiau i'r lan?
Pwy garia 'maich fel Brenin ne'?
Pwy gydymdeimla fel Efe?

4 Wel, ynddo ymffrostiaf innau mwy;
Fy holl elynion, dwedwch,
Pwy O'ch cewri cedyrn, mawr eu rhi',
All glwyfo mwy f'Anwylyd i?

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 134, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930