Neidio i'r cynnwys

Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist

Oddi ar Wicidestun
Pechadur wyf, da gŵyr fy Nuw Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist

gan William Williams, Pantycelyn

'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy'
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

133[1] Y Ffordd Newydd.
M. H.

1 FFORDD newydd wnaed gan Iesu Grist
I basio heibio i uffern drist,
Wedi ei phalmantu ganddo Ef,
O ganol byd i ganol nef.

2 Agorodd Ef yn lled y pen
Holl euraid byrth y nefoedd wen;
Mae rhyddid i'w gariadau Ef
I mewn i holl drigfannau'r nef.


3 Os tonnau gawn, a stormydd chwith,
Mae Duw o'n tu, ni foddwn byth;
Credwn yn gryf, down maes o law
Yn iach i'r lan yr ochor draw.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 133 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930